Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £45k - £49k 📍 Hybrid Ar gau

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chynnal safonau mewn bywyd cyhoeddus? A hoffech chi fod yn rhan o sefydliad sy'n darparu system gwynion annibynnol a phroses annibynnol ar gyfer atebolrwydd?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad i gymryd rôl arweiniol mewn cysylltiad ag ymchwiliadau OGCC i gwynion a wneir am Gynghorwyr o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor. Gall hyn hefyd gynnwys rolau eraill mewn awdurdodaeth.

Fel Swyddog Arwain y Cod, byddwch yn cynrychioli OGCC mewn gwrandawiadau, yn ymgysylltu ag achwynwyr a rhanddeiliaid allweddol i gynnal hyder y cyhoedd yn rôl a chylch gwaith OGCC o fewn y fframwaith moesegol yng Nghymru.

Gan ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn: 

·   Asesu ac ymchwilio i gwynion cymhleth a phroffil uchel, gan wneud penderfyniadau yn unol â chynllun dirprwyo OGCC

·   Cynrychioli OGCC mewn Gwrandawiadau’r Cod Ymddygiad gerbron Pwyllgorau Safonau Awdurdodau Lleol a Phanel Dyfarnu Cymru

·   Arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliad ynghylch materion fframwaith moesegol, mewn ffordd sy’n cynnal hyder y cyhoedd yn rôl OGCC o ymchwilio i gwynion yn ddiduedd ac yn annibynnol

·   Adolygu a diweddaru Canllawiau OGCC o ran y Cod Ymddygiad yng Nghymru 

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

·   Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o reoli achosion cymhleth neu ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur, gan gynnwys cael tystiolaeth cyn gynted ag y bo modd yn ystod y broses ymchwilio. 

·   Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon broffesiynol uchel.

·   Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda sgiliau cyflwyno profedig a’r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn. 

·   Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd.

·   Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm.

Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brofiad ac arbenigedd gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda gwaith achos neu rolau ymchwilio yn y gwasanaethau proffesiynol neu gyfreithiol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Sut mae hyn o fudd i chi?

·   Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau 

·   Amgylchedd gweithio cadarnhaol mewn tîm deinamig a phrysur

·   Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth

·   Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod

·   Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa, Cynllun Beicio i’r Gwaith, Health Cash Plan a 

**Cynlluniau prynu am bris gostyngol **

·   Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref  

·   Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Llun 5 Medi 2022. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.  

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.

Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Cyflog

💰 £44,625 - £48,876

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau