Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ymchwilio

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £33k - £45k 📍 Hybrid Ar gau

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Ymchwilio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau yn methu?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.  

Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy'n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Wrth ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn: 

·   Dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd a deall gwraidd y gŵyn

·   Nodi a chael tystiolaeth yn brydlon, gan gynnwys datganiadau tyst

·   Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r achwynydd am gynnydd yr ymchwiliad

·   Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol    **Beth ydym yn chwilio amdano **

·   Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o reoli achosion cymhleth neu ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur, gan gynnwys cael tystiolaeth cyn gynted ag y bo modd yn ystod y broses ymchwilio

·   Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon uchel a phroffesiynol 

·   Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda'r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn

·   Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd 

·   Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm

Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brofiad ac arbenigedd gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda gwaith achos neu rolau ymchwilio yn y gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Sut mae hyn o fudd i chi?

·   Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau 

·   Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth

·   Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod

·   Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser Hyblyg, Aelodaeth gampfa, Cynllun Beicio i’r Gwaith, Health Cash Plan

·   Cynlluniau prynu am bris gostyngol

·   Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio gartref  

·   Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@@ombwdsmon.cymru erbyn hanner dydd, dydd Llun 5 Medi 2022. 

Bydd eich ymatebion ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.  

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.

Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Cyflog

💰 £33,486 - £44,625

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau