Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Llŷr James Cyf yn edrych am Gyfrifydd Cymwysedig neu Rannol-Gymwysedig & Chyfrifydd Dan Hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am bobol i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ym mhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. Telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau. 

Dyletswyddau:

Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol- Gymwysedig

·    Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau

·    Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau

·    Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau

·    Bod yn rhan o dîm archwilio

·    Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol   Cyfrifydd Dan Hyfforddiant

·    Helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau

·    Delio gydag ymholiadau oddi wrth ein cleientiaid

·    Helpu paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau

·    Bod yn rhan o dîm archwilio

·    Paratoi Ffurflenni TAW

·    Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol   Gofynion

·    Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg

·    Profiad o ddefnyddio Word ac Excel

·    Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol

·    Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan

·    Sgiliau cyfathrebu da

·    Prydlondeb

·    Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i dydd Gwener.   Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.

Cyflog

💰 Yn dibynnu ar profiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau