Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth

Prifysgol Bangor

💰 £22k - £24k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Weinyddwr Datblygu Aelodaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser barhaol uchod yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) eisiau penodi unigolyn sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur i ymuno â'n Tîm Datblygu Aelodaeth fel Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo ac yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol o ddydd i ddydd i'r Tîm Datblygu Aelodaeth gyda’u gwaith o ddatblygu gweithgarwch dan arweiniad myfyrwyr a gweithgarwch democrataidd a chynrychioliadol.

Byddwch yn meddu ar addysg i safon TGAU (graddau A i D), NVQ Lefel II (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad perthnasol cyfatebol sy'n briodol i'r swydd. Byddwch yn unigolyn trefnus, rhagweithiol a dymunol a fydd yn ymrwymedig i gyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus. Mae hon yn swydd mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg ac addasu.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i'r swydd hon.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad. 

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £21,630 - £23,715 pro rata

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau