Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru

Portal

💰 £27k - £32k 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Gorllewin Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!

Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei l(l)eoli I gynnal grwp o ddysgwyr.

Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.

Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £32,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.

Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.

Gweithle: Allan yn y maes / Cartref

Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser

Dyddiad Cau: 9 Medi 2022

Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]

Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.

Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.

Cyflog

💰 £27,000 - £32,000

Lleoliad

📍 O gartref, Allan yn y maes

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau