Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol)

💰 £37,474 - £43,414 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni’n awr yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol) i ymuno â’n campysau Cymru ar sail amser llawn, cyfnod barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Mae’r swydd hon wedi’i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu ac Addysgu sy’n gyfrifol am:

·   Lunio llyfrau cwrs cenedlaethol, gan gynnwys adnoddau i diwtoriaid ac adnoddau digidol i ddysgwyr;

·   Llunio cyrsiau cyfunol, sy’n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda dosbarthiadau dan oruchwyliaeth tiwtor;

·   Llunio adnoddau ar gyfer pobl ifainc, gan gynnwys adnoddau digidol byrion

·   Sicrhau ansawdd darpariaethau Dysgu Cymraeg, sy’n cynnwys prosesau arsylwi tiwtoriaid, cywain barn, a monitro targedau;

·   Hyfforddiant i diwtoriaid, o dan faner ‘Academi’, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol flynyddol a chyfrannu at brosiect newydd y Ganolfan, Tiwtoriaid Yfory;

·   cynlluniau Cefnogi Dysgwyr, sy’n cynnwys gweithredu cynllun Siarad, cynnal digwyddiadau cenedlaethol a gweithio gydag ystod o bartneriaid.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried fel Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol), bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-   Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)

-   Profiad o greu adnoddau digidol

-   Profiad o weithio yn y maes Dysgu Cymraeg neu ym maes addysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

-   Profiad o lunio adnoddau ar gyfer dysgwyr ar bob lefel.

-   Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.

-   Profiad o orfod cyflwyno gwaith gan gadw at derfynau amser tynn.

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel.

-   Bod yn barod i deithio a gweithio oriau hyblyg i gyflawni gofynion y swydd.

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-   Sgiliau golygu a phrawf ddarllen o safon uchel

-   Profiad o greu cyflwyniadau o safon uchel a chyflwyno gerbron cynulleidfaoedd rhithiol a wyneb-yn-wyneb.

-   Profiad o hyfforddi tiwtoriaid.

-   Profiad fel tiwtor Dysgu Cymraeg effeithiol ar draws y prif lefelau yn y fframwaith – Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch neu brofiad o fod wedi dysgu’r Gymraeg yn effeithiol i ddisgyblion ysgol 16+.

-   Profiad o weithio ar brosiectau cymhleth a chynhwysfawr 

-   Y gallu i gyfarthrebu trwy gyfrwng y Gymraeg – llafar a ysgrifennu

- BUDDION

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol (pro rata)

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Swyddog Gweithredol Datblygu’r Cwricwlwm (Digidol), ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 7 Medi 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £37,474 - £43,414

Lleoliad

📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £24k 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £27k - £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31k - £34k 📍 Hybrid📍 Hyblyg Ar gau

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27k 📍 O gartref Ar gau

💰 £10k 📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £18k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau