Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata

ColegauCymru

💰 £26k - £29k pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Mae ColegauCymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl gyfathrebu a marchnata cyffrous a heriol yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. 

Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr Polisi a Materion Cyhoeddus ac adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal a datblygu llwyfannau marchnata digidol i raddau helaeth i hyrwyddo buddion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac i gyfleu negeseuon allweddol y sefydliad yn glir i'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol. 

Manylion pellach ar sut i gyflwyno cais ar ein gwefan: https://www.colegau.cymru/cy/page/careers

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi cydweithwyr ColegauCymru i ddatblygu ein hunaniaeth brand ac ehangu ymwybyddiaeth o bwrpas, gweithgareddau a blaenoriaethau ColegauCymru. 

Ar hyn o bryd mae hwn yn gyfle gweithio gartref yn bennaf ond bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd, felly mae'r gallu i gymudo yma yn hanfodol ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol.

**Y Broses Ymgeisio **

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni pob agwedd ar y Fanyleb Person. Yn ogystal, er mwyn ystyried eich cais, atebwch y pedwar cwestiwn isod (uchafswm o 200 gair fesul cwestiwn). 

Yn eich barn chi, pa sgiliau sydd eu hangen ar Swyddog Cyfathrebu a Marchnata i fod yn llwyddiannus? 

Rhowch enghraifft o sut y byddech chi'n mesur ymgyrch farchnata ddigidol. 

Amlinellwch pa Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y byddech chi'n eu defnyddio mewn adroddiadau gwefan a chyfryngau cymdeithasol. 

Amlinellwch pa welliannau cyfathrebu digidol y byddech yn eu hargymell i ColegauCymru. 

Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i [email protected] 

**Dyddiad Cau **

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw Dydd Mercher 14 Medi 2022 am 12.00pm. 

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.   **Cyfweliadau **

Cynhelir cyfweliadau Dydd Llun 26 Medi 2022 wyneb i wyneb yn ein swyddfeydd yn Tongwynlais, Caerdydd. 

Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Cyflog

💰 £25,612 - £28,756 pro rata

Lleoliad

📍 Caerdydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau