Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £52k - £61k 📍 Aberaeron Ar gau

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Bennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Bennaeth deinamig ac arloesol gydag egni a gweledigaeth i arwain Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei hadeiladu yn Felin-fach, Dyffryn Aeron yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal honno. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Chorff Llywodraethol Cysgodol ymroddedig a phrofiadol tuag at agoriad yr Ysgol newydd. Yn y cyfamser, bydd yn arwain un o’r ysgolion sy’n dod ynghyd i greu yr Ysgol Ardal, sef Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron.

Mae hwn yn gyfle ardderchog ac unigryw i arweinydd egnïol a llwyddiannus sy’n meddu ar yr adnoddau personol a’r brwdfrydedd i ysbrydoli a symbylu staff a disgyblion. Bydd angen sgiliau profedig mewn rheoli newid yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi’u cefnogi’n llawn a’u hintegreiddio i dîm unedig. Bydd gan yr Ysgol hon adnoddau chwaraeon modern, a bydd y safle hefyd yn gartref i Ganolfan Iaith ac Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr Ysgol newydd yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedau lleol sy’n fwrlwm o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ac yn pontio cymunedau a charfannau cymdeithasol amrywiol a chynnig canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol.

Bydd y Pennaeth newydd:

·   yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau plant, yn meddu ar weledigaeth glir am ragoriaeth addysgol, ac yn datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned a sefydliadau lleol

·   yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn y modd gorau posibl drwy greu un amgylchedd dysgu eithriadol

·   yn meddu ar sgiliau cadarn o ran arwain a chyfathrebu gan ennyn hyder mewn eraill, ac ysbrydoli staff a disgyblion

·   yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant

·   yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn adeiladu partneriaethau cadarn ymysg y cymunedau lleol 

·   â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion

·   â sgiliau addysgu rhagorol a disgwyliadau ar gyfer dyfodol yr ysgol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli rhieni a’r gymuned ehangach i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP.

Bydd angen gwiriad troseddol manylach ar gyfer y swydd hon.

Os am sgwrs anffufiol mae croeso ichi gysylltu gyda Mary Davies, Pennaeth Gwella Ysgolion [email protected]

Cyfweliadau i’w cynnal ar ddydd Iau, 06 Hydref, 2022.

Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.

Cyflog

💰 £52,302 - £60,624

Lleoliad

📍 Aberaeron

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau