Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)

Gwasg Prifysgol Cymru

💰 Hyd at £34k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn edrych am Gyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Gwasg Prifysgol Cymru, Gwasg genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyhoeddwr i arwain gwasgnod ffeithiol a lansiwyd ganddi yn ddiweddar, Calon.

Bydd y Cyhoeddwr yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu’r gwasgnod newydd hwn, gan gynnwys comisiynu a datblygu cynnwys llyfrau newydd cyffrous i’r portffolio. Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr, bydd y Cyhoeddwr yn cymhwyso ei wybodaeth a’i brofiad o’r farchnad fasnachol yn y fenter ddiweddar hon. 

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn egnïol, yn greadigol ac yn ymroddedig i wneud y cyfle cyffrous hwn yn llwyddiant. Bydd ganddo brofiad solet mewn comisiynu ar gyfer marchnad ffeithiol, bydd yn gallu adnabod a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer llyfrau newydd, a datblygu cynnwys yn greadigol â chynulleidfa ryngwladol mewn golwg. Dylai darpar ymgeiswyr fod â sgiliau rheoli awduron rhagorol, dylent fod â ffocws masnachol, a dylent fod â phrofiad o weithio gyda swyddogion cyhoeddusrwydd a phartneriaid allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r farchnad fasnachol yn rhagweithiol â chydweithwyr ym mhob rhan o’r Wasg. Byddai rhwydweithiau perthnasol ag awduron a phartneriaid allanol, a diddordeb brwd mewn pynciau Cymreig, yn ddymunol. Mae’r gallu i sgwrsio a chyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddymunol am y swydd hon.

Mae’r Wasg yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr amrywiol. Mae’r swydd dros gyfnod mamolaeth Cyhoeddwr Calon. Gall y swydd fod yn swydd amser llawn ac wedi’i lleoli yn adeilad urddasol Cofrestrfa’r Brifysgol yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae hyblygrwydd yn bosibl i’r ymgeisydd priodol.

Y cyflog yw hyd at £33,500 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn, gan ddibynnu ar brofiad, â gwyliau hael o 25 diwrnod ynghyd ag 8 diwrnod statudol a 7 diwrnod arferol y flwyddyn, pro rata. Bydd deiliad y swydd yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y Brifysgol.

Os oes gennych ymholiadau am y swydd ac i ofyn am gopi o'r swydd ddisgrifiad, cysylltwch â[email protected] Os hoffech wneud cais am y rôl, anfonwch lythyr esboniadola CV at Eleri Lewis, Partner Busnes Adnoddau

Dynol:[email protected]

Dyddiad cau: dydd Mawrth 13 Medi 2022

Cyflog

💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau