Cydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelod brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Rhan o'ch rôl fydd cynllunio ac arwain ar weithgareddau allgyrsiol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr Addysg Bellach ar draws pob campws.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Am gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Penrhyn, ac am rôl bwysig yn ein portffolio; rôl a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dyfodol. Yn gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli a chreu cyfleoedd i gyd-greu gyda chymunedau, byddwch yn gweithio gydag eraill i gyflwyno cyfleoedd cyfranogi perthnasol a chyffrous.
Bydd y rôl yn ceisio rhannu stori lawn Penrhyn ac yn dygymod â gwirionedd hanes sy’n seiliedig ar ecsbloetiaeth ddynol yn Jamaica, yn ogystal ag yma ar garreg y drws y castell ym Methesda.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog, a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho gyda’ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando a Deall, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu ar o leiaf lefel 3-4. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais, a gellir darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau Cymraeg.
Dylech hefyd gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi pam eich bod yn gwneud cais a pha sgiliau unigryw y credwch y gallwch eu cyflwyno i'r rôl.
Dyddiadau cyfweld: 22 a 23 Medi. Sut brofiad yw gweithio yma?
Wrth gyflwyno profiad yr ymwelwyr, byddwch yn ymuno â thîm gweithredol brwdfrydig ac ymroddgar o staff a gwirfoddolwyr, yn gweithio ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo.
Mae Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth ger Bangor, gyda gardd restredig Gradd II ffurfiol, a thir parc gyda golygfeydd anhygoel o Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Mae'n lle cymhleth; mae ymdeimlad hwyliog, rhydd a thawel yr ardd yn gyferbyniad llwyr i'r cefndir gothig o orthrwm ac ecsbloetiaeth sydd wedi talu am fawredd a godidowgrwydd Fictoraidd ar raddfa mor eang.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo. Yn rheoli ac ymgorffori newid wrth ehangu ac ymestyn ein perthynas â chynulleidfaoedd hen a newydd. Cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu stori lawn Castell Penrhyn mewn modd gonest ac agored, wrth ddygymod â'r hyn yr oedd yn ei gynrychioli ar un adeg, a'i effaith a'i ddylanwad, yn lleol ac yn fyd-eang. Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a chymunedau, wrth gadw amcan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn magu hyder a gallu eraill wrth gyd-greu amgylchedd cydweithredol, hyblyg a chynhwysol ar gyfer partneriaid, cymunedau a gwirfoddolwyr hen a newydd.
Am bwy ydym yn chwilio?
Rhywun sy'n meddu ar y canlynol:
- dealltwriaeth o arfer da mewn perthynas â chyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â gwaith partner a chyfranogiad ehangach
- y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned
- dealltwriaeth o arfer da o safbwynt rheoli gwirfoddolwyr
- profiad llwyddiannus ac ymarferol o ddatblygu a gweithredu agweddau a chynnyrch newydd sy'n ymwneud â gwirfoddoli
- sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- y gallu i hyfforddi a chefnogi rheolwyr gwirfoddolwyr
- sgiliau cyfathrebu cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Y Pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn cael llwyddiant wrth godi arian? Os felly, dewch i ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor yn y swydd newydd gyffrous hon fel Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae hwn yn gyfle i godwr arian proffesiynol profiadol ymuno â’n tîm sy’n gyfrifol am roddion dyngarol mawr, a cheisio rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n rhoi grantiau a hybu ein cysylltiadau â 100,000 o gyn-fyfyrwyr ledled y byd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a dawnus sydd â hanes o lwyddiant mewn cysylltiadau gyda rhoddwyr a rhanddeiliaid i arwain ar gynnydd mewn incwm dyngarol a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr.
Sefydlwyd y brifysgol ym 1884 gyda rhoddion gan chwarelwyr gogledd Cymru, ac mae gan y brifysgol hanes cyfoethog i ddeiliad y swydd fanteisio arno. Gyda chynlluniau i ddatblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac un o’r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle gwych i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud gwahaniaeth mewn prifysgol a roddwyd yn y 30 uchaf am effaith gymdeithasol ac economaidd ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf. Byddwch yn cael bod yn rhan o’r cyffro o helpu i lunio strategaeth godi arian newydd a chyfle i ddatblygu eich profiad codi arian proffesiynol a'ch gyrfa ar yr un pryd â chael boddhad personol wrth gyfrannu at ddatblygiadau cymdeithasol a gwyddonol trwy weithio gyda'n cymuned ymchwil.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig, neu fod â phrofiad sylweddol mewn meysydd perthnasol.
Mae hon yn swydd barhaol, lawn-amser a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Medi 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £53,353 - £61,823
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Dyddiad Cau: 22 Medi 2022
Cyflog
💰 £27,514 - £30,095
Lleoliad
📍 O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Catalydd Mentrau-Micro Cymunedol (Rhondda)
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol yn edrych am Gatalydd Mentrau-Micro Cymunedol (Rhondda)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n gefnogol o'ch cymuned?
Yn dda am wneud cysylltiadau?
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Catalydd Mentrau-Micro Cymunedol
Cyflog £32,960 y flwyddyn
37.5 awr yr wythnos
Contract tymor penodol o 2 flynedd
Byddwch yn arwain Prosiect Mentrau-Micro Cymunedol Rhondda fydd yn cefnogi pobl entrepreneuraidd lleol a sefydliadau lleol i gynnig dewisiadau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth yn y cartref neu yn eu cymunedau. Fel hyn byddwn yn helpu pobl i gael y gefnogaeth maent ei hangen i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
· Gallu gweld cryfderau pobl a'u meithrin.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd. Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac wedi eich lleoli yn ardal Rhondda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 14 Medi 2022 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Aberdâr ar 21 Medi 2022. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £32,960
Lleoliad
📍 Rhondda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Darllenwch fwy amdanom ni yma
Am Y Swydd
Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol yn cynorthwyo i gyflawni strategaeth farchnata gyffredinol Rhentu Doeth Cymru er mwyn sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yng Nghymru yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gan weithio'n agos gyda'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, bydd y rôl hon yn cynnwys datblygu cyfathrebiadau a marchnata, cynllunio a chyflawni effeithiol, yn ogystal â chynnal perthnasoedd gwaith da â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant i gefnogi ymgyrchoedd a phrosiectau Rhentu Doeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a chyflawni prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau rheolaeth dros enw da’r brand.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2+ mlynedd) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol Yn siaradwr Cymraeg Rhugl (i Lefel Uwch 4)
Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio a geir o fewn y Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator (dymunol)
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar newid i'r sector rhentu preifat yng Nghymru; gan weithio'n agos gyda phartneriaid o lywodraeth leol ar draws 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, landlordiaid a sefydliadau asiantau a chwmnïau hyfforddi i sicrhau ei lwyddiant.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch gyda Rhiannon Williams - [email protected].
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 4 - Uwch.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Rhiannon Williams - [email protected].
Cyflog
💰 £25,927 - £30,095
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr. **Nod y Rôl **
Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i:
● sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
● cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
● gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
● sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
● rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth Prif Gyfrifoldebau
● Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
● Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
● Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
● Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
● Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
● Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
● Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
● Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
● Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
● Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
● Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
● Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn **Ymchwilio a Monitro ** ** ** ● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
● Mewnbynnu data’n gywir
● Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
● Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
● Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
● Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
● Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
● Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
● Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
● Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
● Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
● Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
● Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
● Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
● Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
● Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol **Manteisiol **
● Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
● Profiad o reoli prosiectau **Gwneud Cais **
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Jayne Jones ar 07957 191 887. Cyfweliadau Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd yn cymryd lle yn rithiol ar ddydd Iau, 15 Medi 2022. Os na fydd y dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00 yb, Dydd Llun, 12 Medi 2022. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Marchnata Cymdeithasol
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych am Gydlynydd Marchnata Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at weithredu a gwerthuso prosiectau marchnata cymdeithasol cenedlaethol integredig, gyda'r bwriad o hyrwyddo ymddygiadau iach ymhlith y cyhoedd yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gyfle cyffrous i fod yn gyfrannwr gweithgar o fewn maes pwnc pwysig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant grwpiau poblogaeth ledled Cymru.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata, hysbysebu neu gyfathrebu gyda phrofiad o weithredu ymgyrchoedd a chreu cynnwys atyniadol sydd â'r nod o hyrwyddo effaith gadarnhaol. Bydd gennych brofiad o weithio ar draws amrywiaeth o sianeli a phlatfformau digidol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis Tîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Byrddau Iechyd, y trydydd sector ac wrth gwrs, y cyhoedd.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio o fewn strwythur staff pwrpasol ar gyfer dulliau gwaith systemau ac amlasiantaethol o ran gwella iechyd. Mae’r Is-adran yn rhoi pwyslais mawr ar ymarfer, ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â chymhwyso gwyddor ymddygiad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o 2 flynedd.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y Swydd Ddisgrifiad am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Atodir isod y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person fel ffeil PDF.
Rydym yn eich cynghori i arbed y Swydd Ddisgrifiad a’r Manyleb Person i’ch cyfrifiadur, neu go-bach, gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg neu yn Saesneg pob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Cyflog
💰 £30,095 - £33,486
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Grantiau
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cymorth Grantiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad:
1. Cefnogi’r gwaith o gynllunio, rheoli a chyflawni cynlluniau grant adfywio / cymorth busnes / buddsoddi yn effeithiol.
2. Cynorthwyo i baratoi a chynnal dogfennau priodol i gefnogi’r broses grantiau.
3. Cynorthwyo i gydlynu ffrydiau gwaith, cynlluniau, dibyniaethau, effeithiau a rhyngwynebau yn ddyddiol.
4. Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith effeithiol, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid niferus (mewnol ac allanol).
5. Sicrhau bod llywodraethiant, systemau rheoli, prosesau a dulliau cydnabyddedig yn cael eu cymhwyso i gynlluniau grant (un unol â gweithdrefnau’r Cyngor).
6. Cynorthwyo i gofnodi data grantiau gan sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi a’i adrodd yn gywir.
7. Ymgymryd â thasgau yn unol â chyfarwyddyd y prif swyddog ar gyfer y grant hwnnw.
8. Sicrhau cydweithio effeithiol â chydweithwyr yn y gwasanaeth Cyllid sy’n gyfrifol am drefnu taliadau grant a materion trethi busnes.
9. Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith effeithiol â swyddogion perthnasol eraill yn CSYM ac mewn sefydliadau eraill megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Busnes Cymru.
10. Cefnogi’r gwaith o gynllunio a gwireddu portffolio o grantiau ar amser ac yn unol â’r gyllideb.
11. Cynorthwyo gyda’r gwaith o dderbyn, ystyried ac ymateb i ymholiadau grantiau busnes.
12. Cynorthwyo i gynnal cofnodion a dogfennau cysylltiedig i sicrhau bod yr holl bolisïau, protocolau a gofynion Archwilio yn y dyfodol yn cael eu bodloni.
13. Cynorthwyo i ddarparu a gweithredu cyfathrebiadau a gweithgareddau cyhoeddusrwydd yn effeithiol (defnyddio dulliau traddodiadol ac arferion modern trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol).
14. Sicrhau bod grantiau’n cael eu rheoli a’u dyfarnu yn unol â meini prawf grant Llywodraeth Cymru a’r rheoliadau ar gyfer y cynllun hwnnw.
15. Dirprwyo ar gyfer y rheolwr llinell neu uwch swyddogion eraill y fel bo'r angen.
16. Efallai y bydd gofyn i ddeilydd y swydd gyflawni unrhyw gyfrifioldebau eraill fel sy'n gydnaws â natur y swydd a'i graddfa.
Cyflog
💰 £20,043 - £21,269
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Profiad Myfyrwyr
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn edrych am Swyddog Profiad Myfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Swyddog Profiad Myfyrwyr i weithio gyda phrifysgolion a cholegau i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael y profiad academaidd gorau posibl mewn addysg uwch. Mae gwaith y tîm Profiad Myfyrwyr yn ymwneud â meysydd fel safonau academaidd, sicrhau ansawdd, dysgu ac addysgu. Byddwch yn rhoi cymorth i bwyllgorau allweddol CCAUC sy’n ein helpu i ddatblygu polisi, gan gynnwys ysgrifennu papurau, gwneud gwaith prosiect a chymryd cofnodion. Byddwch hefyd yn cynnal cyswllt â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol, megis UCM Cymru, QAA, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn dirprwyo ar ran cydweithwyr mewn cyfarfodydd pan fo angen. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ond ni fydd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr unigol. Byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu lefel gyfatebol). Bydd gennych sgiliau trefnu a gweinyddol ardderchog, ac yn ddelfrydol byddwch wedi ennill y sgiliau hynny mewn amgylchedd addysg uwch. Mae sgiliau cyfathrebu a rhifedd effeithiol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau datrys problemau, dadansoddi a TG. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg, gan gynnwys sgwrsio â’n partneriaid a drafftio gohebiaeth e-bost, yn hanfodol, er mwyn cynnal cyswllt effeithiol â phartneriaid, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddwch hefyd yn rhoi peth cymorth ad hoc i dîm cyfathrebu CCAUC. Am fwy o wybodaeth ac am swydd-ddisgrifiad llawn, cliciwch ac Ymgeisio Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio rhithiol Gofynnwch Unrhyw Beth sydd ar agor i bob ymgeisydd, gan groesawu pobl o gefndiroedd tangynrychioledig yn arbennig i gymryd rhan. Ceir manylion llawn y digwyddiad ar ein gwefan. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cyflog
💰 £26,038 - £30,908
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol
Mae Rily Publications yn edrych am Olygydd Creadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych yn frwd dros lyfrau plant Cymraeg a bod gennych brofiad o olygu creadigol, anfonwch eich CV atom cyn gynted â phosibl.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda chyhoeddwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau.
Bydd rôl y golygydd creadigol yn cynnwys gweithio o gartref yn ogystal â bod yn rhan o dîm ehangach, cyfeillgar.
Cefnogir y swydd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae'n rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys addasiadau o lyfrau cymeriad poblogaidd fel Paw Patrol a Roald Dahl hyd at ddatblygu cynnwys gwreiddiol gydag awduron a darlunwyr uchel eu parch.
Rydym yn cynnig rôl barhaol gyda 22.5 awr yr wythnos, gyda phatrwm gweithio hyblyg, a’r cyflog yw £15.40 yr awr (tua £30K pro rata).
Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys lefel uchel o Gymraeg ysgrifenedig ac yn ddelfrydol, y profiad o olygu yn y cyfrwng hwn. (Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer gwblhau ymarfer golygu cyn mynychu cyfweliad.)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 19eg Medi 2022. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn Gymraeg a Saesneg, i [email protected]
Mae Rily Publications yn hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn gyrfaoedd cyhoeddi. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bobl o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau bywyd amrywiol. Mae ein proses recriwtio yn rhydd rhag gwahaniaethu, gan gynnwys ar sail hil, ethnigrwydd, oedran, crefydd, rhyw a rhywioldeb.
Cyflog
💰 £30,000 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Swyddfa
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Swyddfa
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i unigolyn proffesiynol sydd am ennill profiad mewn rôl weinyddol a gallai ddarparu datblygiad i rywun sy’n newydd i’r gweithle, yn ogystal â bod yn addas ar gyfer rhywun sydd â phrofiad mewn rolau gweinyddol yn ein sefydliad rhagorol.
Byddwch yn ennill ystod eang o sgiliau a phrofiad swyddfa, gan hogi eich talent a gwella eich cyflogadwyedd yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a datblygiad ein staff a byddwn yn darparu hyfforddiant rôl-hanfodol perthnasol, yn ogystal ag ystyried eich anghenion datblygu unigol.
Felly, os ydych chi'n barod i gymryd eich cam nesaf fel Cynorthwyydd Swyddfa, gwnewch gais heddiw!
Y Rôl
Fel Cynorthwy-ydd Swyddfa, byddwch yn cynorthwyo gyda gweithrediad effeithiol y swyddfa a materion Iechyd a Diogelwch.
Byddwch yn gweithredu mewn swyddogaeth gwasanaeth cwsmeriaid fel pwynt cyswllt cyntaf y sefydliad, gan gynnwys delio ag ymwelwyr yn y dderbynfa ac ateb y brif linell ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog.
Yn ogystal ag ymdrin ag ymholiadau syml a nodi’r bobl iawn i drosglwyddo ymholiadau iddynt, byddwch yn delio â gwefan ac ymholiadau, yn diweddaru meddalwedd Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid fel y bo’n briodol, yn cynnal ein cronfa ddata o gysylltiadau ac yn rheoli cyfarfodydd gan gynnwys archebu ystafelloedd, teithio a darpariaethau eraill.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Sicrhau bod ein hadeilad yn cael ei gynnal a'i gadw'n ddigonol
- Cynorthwyo gyda rheolaeth y maes parcio
- Cydgysylltu â chontractwyr rheoli cyfleusterau sy'n gweithio ar y safle
- Ymgymryd â hyfforddiant cymorth cyntaf
- Gweithredu fel ymholwr yn y system gyllid, codi archebion a chofnodi danfoniadau
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Swyddfa, bydd angen:
- Profiad mewn rôl debyg, neu sgiliau a thueddfryd y gellir eu trosglwyddo i'r rôl hon
- Sgiliau TGCh hyfedr gan gynnwys Word, Excel, Outlook a Share Point
- Sgiliau trefnu cryf gyda'r gallu i weithio'n hyblyg ar draws gwahanol dimau
- Ffocws cryf ar wasanaeth cwsmeriaid dwyieithog
- Y gallu i gyfathrebu'n hyderus ac effeithiol gyda staff ar draws pob gradd
Byddai rhuglder yn y Gymraeg o fudd i'ch cais. Os nad ydych yn siarad Cymraeg, byddai disgwyl i chi ddysgu rhai ymadroddion sylfaenol i groesawu ymwelwyr allanol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 16 Medi 2022
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Swyddog Gweinyddol, Gweinyddwr Swyddfa, Cynorthwyydd Gweinyddol, Derbynnydd, Cynorthwyydd Personol, neu Ysgrifennydd.
Felly, os ydych chi'n chwilio am gyfle newydd gwych fel Cynorthwyydd Swyddfa, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
Mae Coleg Penybont yn edrych am Gynorthwyydd Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Cynorthwyydd AD yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo a galluogi staff i fod yn "Bopeth y Gallant Fod". Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, phrofiad gweinyddol sylweddol gyda’r gallu i gynnal systemau AD a chynorthwyo’r tîm gyda phob gweithred AD. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.
Cyflog
💰 £19,117 - £20,050
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Bro360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Gydlynydd Bro360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn llwyddiant 8 o wefannau bro yn Arfon a Cheredigion, mae ardaloedd eraill yng Nghymru yn dangos diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith, felly mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Cydlynydd Bro360 **
Mae’r swydd hon yn allweddol i dwf y rhwydwaith o wefannau bro – yn bwynt cyswllt rhwng pawb sy’n ymwneud â’r prosiect ac yn aelod o dîm fydd yn gweithio’n agos gyda chymunedau i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Bod yn bwynt cyswllt sy’n gyrru’r prosiect yn ei flaen, gan gynnwys arwain gwaith Ysgogydd lleol.
· Hyrwyddo’r rhwydwaith yn ddigidol a thu hwnt.
· Cefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd a’r gwefannau presennol.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu prosiectau creu cynnwys.
· Cyfrannu at raglen hyfforddiant.
· Cadw cofnodion at ddibenion monitro a chyllido.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Sgiliau TG da.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Yn ddelfrydol byddwch wedi’ch lleoli yng Ngwynedd (neu gydag adnabyddiaeth dda o ardaloedd y gwefannau bro). Gweithio o adre a/neu o un o swyddfeydd Golwg yng Nghaernarfon neu Lanbed.
Cyflog: £25,000
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgogydd de Ceredigion
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ysgogydd de Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn brwdfrydedd cymunedau de Ceredigion i ymuno â rhwydwaith Bro360, mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Ysgogydd de Ceredigion **
Mae’r swydd hon yn allweddol i ddatblygiad y cynllun – yn gweithio gyda chymunedau de Ceredigion i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Sbarduno gweithgarwch yn yr ardal dan sylw.
· Hyrwyddo’r prosiect yn y cymunedau lleol a thu hwnt.
· Ysgogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu’r prosiect.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Adnabyddiaeth dda o’r ardal.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Gweithio o adre a/neu o swyddfa Golwg yn Llanbed, gyda phwyslais ar weithio yn y bröydd
Cyflog: £20,040
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 O gartref, Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gohebydd Lleol i Golwg360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ohebydd Lleol i Golwg360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y Gohebydd yn gweithio’n rhan o dîm golwg360, yn cynhyrchu straeon newyddion ar gyfer y gwefannau bro a gwasanaeth golwg360.
Mae’r gwefannau bro presennol mewn dwy ardal – Arfon a Cheredigion – ac yn y broses o ehangu ar draws y gorllewin.
Y gwaith
Mae’r swydd yma’n gyfle i fod yn rhan o un o’r cynlluniau newyddiadurol mwya’ arloesol yng Nghymru.
Fe fydd y gwaith yn golygu:
- dod o hyd i straeon lleol gwreiddiol a’u datblygu nhw ar gyfer y gwefannau bro;
- addasu a datblygu straeon cenedlaethol i’w gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa leol;
- addasu straeon o’r gwefannau bro ar gyfer gwasanaeth newyddion cenedlaethol golwg360.
Fe fydd angen gweithio ar draws nifer o wahanol gyfryngau, o brint i fideo, blogiau byw a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser a chyfnod: Swydd lawn-amser, ar gontract penodol tan ddiwedd mis Medi 2023.
Cyflog: £20,040
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion ac ymgeisio: [email protected]
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Mae Gwasg Prifysgol Cymru yn edrych am Gyhoeddwr, Calon (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg Prifysgol Cymru, Gwasg genedlaethol Cymru, yn chwilio am Gyhoeddwr i arwain gwasgnod ffeithiol a lansiwyd ganddi yn ddiweddar, Calon.
Bydd y Cyhoeddwr yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu’r gwasgnod newydd hwn, gan gynnwys comisiynu a datblygu cynnwys llyfrau newydd cyffrous i’r portffolio. Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr, bydd y Cyhoeddwr yn cymhwyso ei wybodaeth a’i brofiad o’r farchnad fasnachol yn y fenter ddiweddar hon.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn egnïol, yn greadigol ac yn ymroddedig i wneud y cyfle cyffrous hwn yn llwyddiant. Bydd ganddo brofiad solet mewn comisiynu ar gyfer marchnad ffeithiol, bydd yn gallu adnabod a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer llyfrau newydd, a datblygu cynnwys yn greadigol â chynulleidfa ryngwladol mewn golwg. Dylai darpar ymgeiswyr fod â sgiliau rheoli awduron rhagorol, dylent fod â ffocws masnachol, a dylent fod â phrofiad o weithio gyda swyddogion cyhoeddusrwydd a phartneriaid allanol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r farchnad fasnachol yn rhagweithiol â chydweithwyr ym mhob rhan o’r Wasg. Byddai rhwydweithiau perthnasol ag awduron a phartneriaid allanol, a diddordeb brwd mewn pynciau Cymreig, yn ddymunol. Mae’r gallu i sgwrsio a chyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg am y rhan fwyaf o’r materion sy’n gysylltiedig â gwaith yn ddymunol am y swydd hon.
Mae’r Wasg yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr amrywiol. Mae’r swydd dros gyfnod mamolaeth Cyhoeddwr Calon. Gall y swydd fod yn swydd amser llawn ac wedi’i lleoli yn adeilad urddasol Cofrestrfa’r Brifysgol yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae hyblygrwydd yn bosibl i’r ymgeisydd priodol.
Y cyflog yw hyd at £33,500 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn, gan ddibynnu ar brofiad, â gwyliau hael o 25 diwrnod ynghyd ag 8 diwrnod statudol a 7 diwrnod arferol y flwyddyn, pro rata. Bydd deiliad y swydd yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y Brifysgol.
Os oes gennych ymholiadau am y swydd ac i ofyn am gopi o'r swydd ddisgrifiad, cysylltwch â[email protected] Os hoffech wneud cais am y rôl, anfonwch lythyr esboniadola CV at Eleri Lewis, Partner Busnes Adnoddau
Dynol:[email protected]
Dyddiad cau: dydd Mawrth 13 Medi 2022
Cyflog
💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Di-sgript (Unscripted)
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.
Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.
Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.
Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin
Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 3 mlynedd
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â'r Adran Gyhoeddi. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Chi hefyd fydd llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn.
Byddwch yn arwain tîm o swyddogion cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfresi S4C, ac yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Bydd disgwyliad ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 ar yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol a'r gwasanaeth e.e. datrys problemau technegol ffrydiau byw a all fod tu allan i oriau gwaith safonol.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd (x3 swydd)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Gyfieithydd (x3 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasanaeth Cyfieithu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am dri Chyfieithydd (dau llawn amser ac un rhan amser) i weithio yn yr Uned Gymraeg flaengar am gyfnod dros dro o 12 mis. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o dîm cyfieithu'r sefydliad sy’n tyfu yn dilyn buddsoddiad pellach i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n gallu gweithio’n effeithiol i ymateb i anghenion y gwasanaeth o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar. Byddem yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934 pro rata
Lleoliad
📍 I'w drafod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Tim (Ariannu’r Celfyddydau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r tîm Prosesu Grantiau yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i weinyddu a chydlynu’r gwaith o gyflawni gweithgarwch ehangach tîm Ariannu’r Celfyddydau. Mae’r Cydlynwyr Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cynnal y wybodaeth sydd yn y systemau rheoli grantiau’r Cyngor Celfyddydau.
Mae hyn yn cynnwys:
- cynorthwyo gyda sefydlu systemau i sicrhau bod cynlluniau ariannu ar gael i ymgeiswyr;
- prosesu grantiau drwy’r system grantiau am oes y grant;
- sicrhau bod y data sydd ar y system grantiau yn gywir;
- cynorthwyo a chynghori ymgeiswyr a staff ar brosesau sy’n ymwneud â systemau a chanllawiau ariannu;
- adolygu cyllidebau ceisiadau; a
- sicrhau bod ceisiadau yn cadw at reolaethau llywodraethu’r Cyngor Celfyddydau.
Mae’r disgrifiad swydd ar gyfer y Cydlynydd Tîm (Ariannu’r Celfyddydau) yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu’r tasgau o ddydd i ddydd yn fwy cywir, ond ni fydd hyn yn lleihau’r cynnig cyflog cychwynnol.
Amdanoch chi
Rydych yn dda yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl ac yn arbennig o gyfforddus yn gweithio gyda ffigurau. Rydych yn hoffi’r cymysgedd o ddadansoddiad rhifiadol a gweinyddol ac yn gallu cyfathrebu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall yn glir i eraill.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Mae’r rôl hon yn rôl llawn amser, ond wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’n llawn amser yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 Cyflog cychwynnol o £24,063
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Mae GwE yn edrych am Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi a chynorthwyo timau o fewn y gwasanaeth i gyflawni gofynion prosiectau penodol ar draws rhanbarth y gogledd.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 15/09/2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cefnogaeth Fusnes (dros cyfnod mamolaeth)
Mae GwE yn edrych am Gydlynydd Cefnogaeth Fusnes (dros cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio gyda’r Uwch Dîm Busnes i sicrhau bod gan GwE drefn lywodraethu gref a chefnogaeth fusnes a gweithredol effeithiol i gyflawni blaenoriaethau’r gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 15 Medi 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ewch i www.gwynedd.gov.uk ‘Swyddi a Gyrfaoedd' neu ffonio 01286 679076.
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!