Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Bro360

Golwg Cyf.

💰 £25k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Golwg Cyf. yn edrych am Gydlynydd Bro360

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn dilyn llwyddiant 8 o wefannau bro yn Arfon a Cheredigion, mae ardaloedd eraill yng Nghymru yn dangos diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith, felly mae Golwg yn awyddus i benodi:

**Cydlynydd Bro360 **

Mae’r swydd hon yn allweddol i dwf y rhwydwaith o wefannau bro – yn bwynt cyswllt rhwng pawb sy’n ymwneud â’r prosiect ac yn aelod o dîm fydd yn gweithio’n agos gyda chymunedau i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.

Y swydd

·   Bod yn bwynt cyswllt sy’n gyrru’r prosiect yn ei flaen, gan gynnwys arwain gwaith Ysgogydd lleol.

·   Hyrwyddo’r rhwydwaith yn ddigidol a thu hwnt.

·   Cefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd a’r gwefannau presennol.

·   Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.

·   Cyfrannu syniadau at ddatblygu prosiectau creu cynnwys.

·   Cyfrannu at raglen hyfforddiant.

·   Cadw cofnodion at ddibenion monitro a chyllido.

Y person:

·   Y gallu i drin pobol yn effeithiol.

·   Sgiliau cyfathrebu cryf.

·   Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.

·   Sgiliau TG da.

·   Syniadau ffresh ac unigryw.

·   Trefnus.

·   Egnïol a phenderfynol.

Lleoliad y Swydd: Yn ddelfrydol byddwch wedi’ch lleoli yng Ngwynedd (neu gydag adnabyddiaeth dda o ardaloedd y gwefannau bro). Gweithio o adre a/neu o un o swyddfeydd Golwg yng Nghaernarfon neu Lanbed.

Cyflog: £25,000

Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.

Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 23 Medi 2022

Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.

Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529

Cyflog

💰 £25,000

Lleoliad

📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau