Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £32k - £36k 📍 Campws Hyblyg Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni nawr yn edrych am Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod penodol o 12 mis, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynllunio a monitro pob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg i oedolion – o lunio cyrsiau ac adnoddau i hyfforddiant tiwtoriaid, ymchwil a data, marchnata a chyfathrebu.

Erfyn Diagnostig y Ganolfan yw’r Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg. Nod y Gwiriwr yw darparu diagnostig cynhwysfawr, hawdd i’w ddefnyddio, er mwyn rhoi dangosydd o lefel Cymraeg cyfredol. Bydd y Gwiriwr yn galluogi dysgwyr i ddeall eu lefel Cymraeg cyfredol, gan ganiatáu iddynt chwilio am gwrs Dysgu Cymraeg ar y lefel gywir. Mae’r Gwiriwr hefyd yn galluogi cyflogwyr i gael trosolwg cywir o’u gweithlu yn nhermau eu sgiliau Cymraeg, a all eu cynorthwyo wrth adnabod anghenion hyfforddi. 

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-   Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)

-   Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn a fel rhan o dîm 

-   Dealltwriaeth o egwyddorion dysgu iaith 

-   Gwybodaeth am y CEFR a Chwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

-   Profiad o asesu a dadansoddi cyrhaeddiad ar gyfer y pedair sgìl iaith

-   Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig 

-   Sgiliau TG da gan gynnwys defnyddio pecynnau MS

-   Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn 

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd gyda’r gallu i argyhoeddi a dwyn perswâd

-   Barod a gallu deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn rheoli prosiectau

Profiad o:

-   weithio yn y sector Dysgu Cymraeg,

-   ddarparu cyngor ar ddysgu Cymraeg,

-   ddarparu hyfforddiant a/neu gefnogaeth o fewn maes cysylltiol,

-   ddefnyddio dadansoddiadau data i wneud newidiadau 

- BUDDION –

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 7 Hydref 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £32,348 - £36,386

Lleoliad

📍 Campws Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau