Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen

💰 £25,000 📍 Bethesda Ar gau

Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad prosiectDyffryn Gwyrdd i atal tlodi trwy weithredu amgylcheddol. Mae tîm Dyffryn Gwyrdd yn cefnogi Pantri Pesda sy’n gynllun rhannu bwyd yn lleol a chynlluniau cludiant cymunedol sy’n atal tlodi trafnidiaeth. 

Rydym wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd i sefydlu Hwb Cymunedol fydd yn darparu cefnogaeth i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i gynorthwyo’n cymunedaui fyw eu bywyd gorau posib.Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn: 

1.  Darparu gwasanaethau i wella a grymuso iechyd, llesiant a chymuned ein ardal

2.  Creu gofodau cymunedol diogel a chynnes i drigolion Dyffryn Ogwen fanteisio ar wasanaethau yn eu cynefin

3.  Cyd-weithio gyda Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid strategol eraill i ddarparu gwasanaethau, cyngor a chefnogaeth ar faterion o bwys i drigolion Dyffryn Ogwen

4.  Creu cyfleoedd ar gyfer grymuso cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles cymunedol acamgylcheddol 

5.  Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli cymunedol acamgylcheddol.

6.  Lleihau effeithiau tlodi trafnidiaeth trwy gydweithio gyda chynllun cludiant cymunedol trydan Partneriaeth Ogwen.

7.  Lleihau effeithiau tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy weithio mewn partneriaeth gyda Prosiect Sero Net Gwynedd a chyrff eraill i addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.

Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn cael ei redeg o adeiladau cymunedol Partneriaeth Ogwen a bydd y Rheolwr yn cydweithio’n agos gyda Rheolwr Dyffryn Gwyrdd, tim rheoli Partneriaeth Ogwen,Prif Swyddog y Bartneriaeth a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen.Bydd yr Rheolwr yn gweithio’n agos gyda asiantaethau sy’n darparu cymorth i’r cyhoedd.

Rydym yn awr yn chwilio am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen fydd yn gyfrifol am redeg Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen er mwyn gwella iechyd, llesiant a chymuned yn Nyffryn Ogwen. 

Oriau Gwaith

Cyflogir y Rheolwr 37 o oriau’r wythnos.

Lleoliad Swydd

Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.

Prif Ddyletswyddau

Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth o adeiladau Partneriaeth Ogwen fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth o’r radd flaenaf i drigolion Dyffryn Ogwen ym maesydd iechyd, llesiant a chymuned. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys;

1.  Rheoli’r holl weithgareddau yn, ac yn gysylltiedig gyda Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen.

2.  Cydweithio gyda Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen a thîm y Dyffryn Gwyrdd er mwyn cynnwys gymaint o’r gymuned a sydd bosib yng ngwaith yr Hwb.

3.  Sicrhau cyfartaledd a hygyrchedd gwasanaethau’r Hwb o fewn y grwp targed/trigolion Dyffryn Ogwen.

4.  Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol i sicrhau ystod eang o wasanaethau yn yr Hwb i gyfarfod anghenion trigolion Dyffryn Ogwen.

5.  Goruchwylio a chefnogi datblygiad gwasanaethau newydd yn yr Hwb ee cymorth ar fynediad i waith, budd-daliadau, rheoli dyled etc.

6.  Cyd-weithio gyda Hybiau Cymunedol yng Ngwynedd a thu hwnt i efelychu eu llwyddiant a rhannu arfer da o Ddyffryn Ogwen.

7.  Hyrwyddo a marchnata cyfleoedd a gwaith yr Hwb drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy gyfryngau traddodiadol.

8.  Mynychu cyfarfodydd llywio misol gyda Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd i adrodd ar gynnydd y prosiect.

9.  Rheoli a chofnodi perfformiad yr Hwb, monitro ac adrodd ar ddatblygiadau a darparu adroddiadau i’r partneriaid a Phwyllgor Rheoli Partneriaeth Ogwen.

10. Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt. 

11. Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.

12. Mynychucyfarfodyddtîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd. 

13. CynrychioliPartneriaeth Ogwen mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith y sefydliad.

14. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.

15. Cefnogi staff a gwirfoddolwyr Pantri Pesda i leihau tlodi bwyd yn yr ardal a chefnogi Cydlynydd Pantri Pesda gyda chynlluniau atal tlodi bwyd.    **Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **

Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.

**Cefnogaeth Weinyddol **

Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant yr Hwb.   Atebolrwydd a Rheoli Staff

Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwenyn atebol i Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen a bydd yn rheoli Cydlynydd Pantri Pesda.

Cyflog

💰 £25,000

Lleoliad

📍 Bethesda

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau