Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr Cymru

💰 £55,000 – £70,000 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith yn edrych am Gyfarwyddwr Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygiad annibynnol sy’n ymrwymedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Rydym yn canolbwyntio ar y cwestiynau mawr, gan gynnwys sut gallwn ni helpu i wella safonau byw a mynd i’r afael â chostau byw? Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddod o hyd i swyddi safonol? Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddatblygu eu sgiliau mewn marchnad swyddi sy’n newid?

Mae hon yn rôl weithredol sy’n arwain gwaith y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredol a gweithio gyda nhw i bennu a llywio gweledigaeth uchelgeisiol. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisïau ac arfer dysgu gydol oes a chyflogaeth ac rydym yn awyddus i barhau i wneud hynny, gan gynyddu ein heffaith ymhellach.

Bydd angen i ddeiliad y rôl arwain y broses o adnabod y blaenoriaethau y dylem fod yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith o safon uchel a gwneud yn siŵr bod hyn yn cael effaith, trwy gynnal perthynas gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys gwleidyddion, llunwyr polisïau, y cyfryngau ac ymarferwyr. Drwy wneud hynny, byddwch yn arwain tîm bach yng Nghymru a gweithio gyda’r sefydliad drwyddo draw.

Mae deiliad y swydd hon yn aelod pwysig hefyd o’r Uwch Dîm Rheoli, felly mae sgiliau arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydweithio ar draws y sefydliad yn hollbwysig. Mae hyn yn debygol o gynnwys arwain mentrau traws-sefydliad yn ogystal â helpu i arwain y sefydliad cyfan a gweithio gyda’n Bwrdd a Grŵp Strategaeth Cymru.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Fuddsoddwr mewn Pobl (arian) ac mae’n ymfalchïo yn hynny. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad staff, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth mewnol ac allanol. Rydym yn cynnwys staff wrth wneud penderfyniadau mewn llawer o wahanol ffyrdd, yn ogystal â nifer o fentrau sy’n cael eu harwain gan staff sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant yn y gwaith.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i’n staff, a byddwn yn ystyried trefniadau gweithio rhan-amser a hyblyg, gan gynnwys gweithio gartref.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, y rhain yw sylfaen ein gwerthoedd a’n cenhadaeth sefydliadol, ac rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan bob grŵp sy’n cael eu tangynrychioli mewn cymdeithas.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig buddiannau hael gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad o 18% gan y cyflogwr, hawl hael i 25 diwrnod o wyliau (sy’n cynyddu i 27 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), yn ogystal ag 8 gŵyl y banc a 6 diwrnod braint (gan gynnwys cau dros y Nadolig) y flwyddyn. Rydym yn cynnal adolygiad blynyddol o gyflogau, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cynnydd cyflog a bonws.

Cyflog

💰 £55,000 – £70,000

Lleoliad

📍 Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24k 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £27k - £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31k - £34k 📍 Hybrid📍 Hyblyg Ar gau

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27k 📍 O gartref Ar gau

💰 £10k 📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £18k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau