Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch-swyddog Gweinyddol

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni’n awr yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol i ymuno â’n campws yn Llambed ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Byddwch yn gefnogi’r Profost yn ei waith o ddydd i ddydd gan sicrhau bod cynlluniau a phrosiectau penodol yn cael eu gwireddu’n rheolaidd. Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a fydd yn cynnwys trefnu dyddiadur y Profost, trefnu a chefnogi cyfarfodydd ar y campws ac yn y gymuned, trefnu digwyddiadau ar y campws gan gynnwys y rheini a drefnir ar y cyd ag asiantaethau a grwpiau allanol, ymgysylltu ag ystod o bartneriaid allanol, ymgymryd â thasgau ymchwil priodol, cymryd cofnodion yn ôl y gofyn ynghyd â gweinyddiaeth ariannol. Byddwch yn ddarparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer Cyfarwyddwr Bwyd ac Economi Wledig Canolfan Tir Glas a phrosiectau cysylltiedig megis Yr Arsyllfa Wledig.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried fel Uwch-swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-    Lefel dda o addysg gyffredinol

-    Gradd israddedig neu brofiad amlwg cyfatebol

-    Profiad perthnasol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel 

-    Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng

-    Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tynn

-    Y gallu i roi sylw i fanylion

-    Profiad o weinyddu pwyllgorau ar lefel sefydliadol

-    Hyfedredd da yn y defnydd o Microsoft a phecynnau meddalwedd eraill 

-    Y gallu i gyfathrebu’n hyderus a chywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig*

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-    Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch

-    Profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid

- BUDDION –

Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Uwch-swyddog Gweinyddol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 10 Hydref 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £27,929 - £31,411

Lleoliad

📍 Llanbedr Pont Steffan

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau