Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Cynorthwyol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20k 📍 Llanrwst Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Weithiwr Cymorth i Deuluoedd Cynorthwyol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi eisiau gyrfa fuddiol ac am wneud gwahaniaeth i Deuluoedd yng Nghonwy?

Os byddwch yn gweithio yn Sector Gofal Cymdeithasol, Lles Cymunedol Cyngor Conwy, gallwn gynnig mwy na dim ond swydd gofalu i chi. Gallwn roi cyfle i chi gael swydd ystyrlon bwrpasol, gyda chefnogaeth gan dîm cyfeillgar fydd yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial. 

Mae'r Ganolfan Deulu yn cael effaith anferth ar fywydau’r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth rŵan hyn. Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle ar gyfer datblygu eich profiad ymhellach yn y maes hwn.

Rydym i gyd yn ymwybodol nad yw magu teulu yn hawdd, ac mae angen arnom gyngor a chymorth weithiau.

Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda’u bywydau bob dydd gan ddarparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i ymdopi â phroblemau a magu eu gallu i ymdrin â chyfnodau heriol.

Mae hynny’n golygu gwrando ar deuluoedd, eu deall a’u cefnogi i wneud penderfyniadau a dilyn bywyd iach a hapus.

Os ydych yn rhannu’r gwerthoedd hyn rydym am glywed gennych! 

*Helpu pobl i fyw’r bywyd maent am ei fyw. 

*Adeiladu perthynas yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.

*Helpu eraill i deimlo’n dda. 

*Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau.

*Rydych yn dda am ysgogi eraill.   *Rydych yn parchu pobl eraill.

*Mae gennych synnwyr digrifwch da.                            *Dydych chi ddim yn mynd i banig ac rydych yn aros yn dawel mewn sefyllfaoedd anodd.

Am ragor o wybodaeth am y timoedd, ewch i  www.conwy.gov.uk/bywydteuluol 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

 Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.

Cyflog

💰 £20,043 - £20,444

Lleoliad

📍 Llanrwst

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau