Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn edrych am Gynghorydd Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr x2 (Iaith Gymraeg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Mae'n amser gwych i weithio i'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae gennym fwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen ac mae ein graddedigion ym mhob man – ledled Cymru ac o bob cefndir. Mae gennym dros 50 mlynedd o brofiad o ddarparu dysgu o bell â chymorth ac, yn 2021, ni oedd y brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.

Ni allwn wneud hyn heb ein staff – dyna pam mae recriwtio pobl dalentog ac uchelgeisiol ymhlith ein prif flaenoriaethau. 

Cymerwch gip ar y fideo hwn i ddysgu mwy am Y Brifysgol Agored yng Nghymru. 

**Y rolau **

Mae gennym sawl cyfle newydd a chyffrous i weithwyr gwasanaethau cwsmeriaid proffesiynol ymuno â'n tîm rheng flaen yn y Gwasanaethau Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a phobl sy'n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau ynglŷn â'u dysgu. 

Bydd y rôl yn cynnwys cryn dipyn o waith dros y ffôn (gwneud a derbyn galwadau) ynghyd â defnyddio e-bost, llythyrau, gwe-sgwrsio a dulliau eraill yn ôl yr angen. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda systemau a gwybodaeth gymhleth gan ein bod yn defnyddio sawl cronfa ddata i gadw manylion myfyrwyr, cwmnïau ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod ymholwyr a myfyrwyr yn cael gwybodaeth gywir a byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol er mwyn darparu cymorth. 

Sgiliau a phrofiad

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig i lenwi'r rolau hyn – pobl sy'n dod ag egni i'w gwaith bob dydd ac sy'n gallu darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog. Mae angen pobl arnom sy'n gallu cyfathrebu'n effeithiol â myfyrwyr dros y ffôn ac yn ysgrifenedig a defnyddio systemau TG i gefnogi eu gwaith. Byddant yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn gallu cydweithio ac addasu i gyflawni'r nod.   Byddant yn ymuno â thîm profiadol o hunanddechreuwyr sydd bob amser yn anelu at ragoriaeth. Maent yn credu mewn cefnogi ei gilydd a gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr.

Rydym yn credu bod ein myfyrwyr yn bobl ragorol, a dyna pam rydym am i bobl ragorol wneud cais.

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys proses sefydlu drylwyr yn y sefydliad ac adolygiadau rheolaidd o'ch anghenion hyfforddiant a datblygu.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o fuddiannau sy'n cefnogi ein cyflogeion a'u teuluoedd yn yr hirdymor. Mae'r buddiannau'n cynnwys cynllun pensiwn deniadol a 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn i staff cymorth, yn ogystal â Gwyliau Banc a diwrnodau dros y Nadolig pan fydd y swyddfa ar gau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y rôl hon yn gofyn am ychydig o hyblygrwydd er mwyn gwasanaethu anghenion y busnes.

**Gwerthoedd ein Tîm **

Mae ein gwerthoedd yn y Tîm Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr, Cymru yn bwysig i ni, ac rydym yn disgwyl i'n cydweithwyr ymddwyn mewn ffordd sy'n hybu'r rhain.    _Ymddiriedaeth _

Rydym yn ymddiried yn ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd i wneud ein gwaith gorau a chymryd cyfrifoldeb personol am ein rolau unigryw o fewn y tîm.   Cydymdeimlad

Rydym yn ymateb yn gydymdeimladol tuag at ein myfyrwyr, tuag at ein gilydd, ac yn y penderfyniadau a wnawn.   Cynhwysiant_ _

Rydym yn gynhwysol, yn croesawu amrywiaeth ac yn cymeradwyo unigoliaeth – byddwch yn chi eich hun!    Datblygiad

Rydym bob amser yn dysgu ac yn esblygu yr hyn rydym yn ei wneud i greu'r profiad gorau i'n myfyrwyr a'n staff.

**Sut i wneud cais  **

Er mwyn gwneud cais, anfonwch ffurflen gais wedi'i chwblhau i [email protected]. Bydd angen i chi gynnwys rhif cyfeirnod y swydd yn nheitl eich e-bost, a dylai eich ffurflen gais nodi'n glir sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol sydd wedi'u cynnwys yn y disgrifiad swydd. 

Mae'r ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael o'r dolenni sydd i'w gweld ar dudalen we swyddi'r Brifysgol Agored.

Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn wythnos i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb ac yn eich annog i wneud cais am gyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cyflogaeth ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Cyflog

💰 £21,630 - £23,71

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau