Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni’n awr yn edrych am Ddarlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon i ymuno â’n campws yn Caerfyrddin ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Rydym yn chwilio am addysgwr brwd, ac unigolyn ymroddgar, sy’n awyddus i chwarae rhan allweddol yng nghamau nesaf datblygiad yr Athrofa, a thrwy hynny gael dylanwad cadarnhaol ar ein pobl ifanc a’r proffesiwn. 

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgarwch allanol / masnachol yn ôl y gofyn a, lle bo’n briodol prosiectau wedi’u caffael sy’n ymwneud yn benodol â’r cyfnod cynradd. Bydd yn uchel ei gymhelliant ac yn rhannu uchelgais yr Athrofa i wella bywydau pobl ar draws Cymru gan ddefnyddio grym addysg. 

Byddwch yn cefnogi rhaglenni Addysg Athrawon yr Athrofa, gan addysgu darpar fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Er y byddwch yn cynnal ffocws cynradd, bydd hyn yn debygol o gynnwys cynorthwyo gydag amrywiol lwybrau (h.y. uwchradd) a modylau ar draws y gyfres o raglenni Addysg Athrawon a gynigir o fewn PDPA. 

Bydd y rôl yn cynnwys gwneud pa gyfraniad bynnag sy’n angenrheidiol i gefnogi gweithredu strategaeth addysg ehangach Llywodraeth Cymru a Chenhadaeth ein Cenedl. 

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried fel Darlithydd : Cyfrwng Cymraeg, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-     Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol 

-     Dyfarniad Statws Athro Cymwysedig 

-     Gwybodaeth gynhwysfawr am addysgu’r cwricwlwm cynradd   -     Tystiolaeth o hanes cadarn a llwyddiannus o gyflwyno a datblygu dysgu ac addysgu 

-     Profiad o gyfrannu at asesu, cymedroli, a monitro gwaith ac astudio academaidd 

-     Profiad o ofal bugeiliol a chymorth i ddysgwyr ar gyfer myfyrwyr 

-     Tystiolaeth o ymgysylltu’n briodol â gofynion sicrhau ansawdd a rheoleiddio 

-     Sgiliau rhyngbersonol, cyflwyno a chyfathrebu effeithiol 

-     Sgiliau a phrofiad o arweinyddiaeth ym maes addysg, a phan fo’n briodol, y gallu i reoli a symbylu staff yn effeithiol 

-     Dealltwriaeth o’r cwricwlwm sydd ar y gweill ar gyfer Cymru a rôl briodol Meysydd Dysgu a Phrofiad 

-     Gallu i gyfathrebu’n rhugl (ar lafar ac yn ysgrifenedig) drwy gyfrwng y Gymraeg i safon uchel 

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-     Cymhwyster ôlraddedig lefel uwch (gradd Meistr neu uwch) sy’n berthnasol i’r swydd (neu eich bod yn gweithio tuag at gymhwyster o’r fath).

-     Tystiolaeth o weithio o fewn neu wrth ochr cyrff AU a chyrff cysylltiedig 

-     Portffolio ymchwil cryf 

-     Gwybodaeth a dealltwriaeth o God Ansawdd yr ASA, gwybodaeth am / cynefindra ag AGA ac addysg uwch 

- BUDDION

Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol (pro rata)

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-     Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-     Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-     Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-     Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-     Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-     Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-     Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Darlithydd: Addysg Gychwynnol i Athrawon, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 9 Tachwedd 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £37,474 – £43,414

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau