Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Estyn yn edrych am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth (Gradd AO)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi’n frwd am TG a gwasanaeth cwsmeriaid? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Systemau Gwybodaeth i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog. Fel rhan o’n tîm Systemau Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn y Gwasanaethau Canolog, bydd gennych chi rôl hanfodol mewn cefnogi cyflawni ein hamcanion allweddol.

Mae ein Gweinyddwyr Systemau Gwybodaeth yn helpu i gynnal a chefnogi’r systemau busnes hanfodol sy’n ategu ein gwaith arolygu a chyngor. 

Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynnal a chadw ein cofnodion a’n systemau rheoli gwybodaeth (gan gynnwys SharePoint ar-lein, yr allrwyd a systemau pwrpasol eraill) ac yn cynnig cefnogaeth a chymorth TG technegol i ddefnyddwyr systemau i sicrhau y caiff ein swyddogaethau allweddol eu cyflawni. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.

Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gwahanol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd a systemau TG, er enghraifft:

·  Darparu cymorth gweinyddol a thechnegol effeithiol a defnyddiol ar gyfer yr holl systemau TG wyneb-yn-wyneb, drwy’r e-bost a thros y ffôn, gan gymryd camau angenrheidiol, lle bo hynny’n briodol

·  Ychwanegu, tynnu a diweddaru caniatâd defnyddwyr a strwythurau safleoedd

·  Awgrymu gwelliannau i brosesau gan ddefnyddio technoleg

·  Datrys unrhyw faterion y rhoddir gwybod amdanynt

·  Ymateb i ymholiadau technegol a helpu defnyddwyr systemau TG i ddatrys problemau

·  Paratoi nodiadau arweiniad a fideos ‘sut i’ i gynorthwyo defnyddwyr a datrys problemau cyffredin

·  Paratoi a darparu hyfforddiant i ddefnyddwyr

·  Darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau systemau gwybodaeth

·  Sicrhau diogelwch safleoedd drwy reolyddion mynediad, creu copïau wrth gefn a chynnal a chadw polisïau diogelwch

·  Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr

Meini prawf yn benodol i’r swydd

Mae’n hanfodol:

·  bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da

·  eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office 365

·  eich bod yn drefnus, yn gallu rheoli amser yn dda a’ch bod yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn terfynau amser cytûn

·  eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol

·  eich bod yn deall sut i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd da

·  eich bod yn gallu nodi a datrys problemau’n gyflym gan ddilyn prosesau sefydledig

·  eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff

·  eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad ar yr un pryd

·  eich bod yn gallu canolbwyntio a chyflawni mewn amgylchedd gweithio hybrid

Mae’n fanteisiol:

·  bod gennych brofiad o greu cynnwys a gweinyddu SharePoint Online

·  bod gennych brofiad o weinyddu systemau gwybodaeth ac egwyddorion diogelwch

·  bod gennych brofiad o ddatblygu/cymhwyso dangosfyrddau Microsoft Power Apps, Power Automate a Power BI

·  eich bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) 

Ymddygiadau allweddol

·  Gweld y darlun cyflawn

·  Newid a gwella

·  Rheoli gwasanaeth o ansawdd da

·  Cyflawni’n gyflym

Cyflog - £21,300 - £24,630 (codiad cyflog yn yr arfaeth)

Oriau gwaith – Yr oriau gweithio amser llawn yw 37 awr dros wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi rhan-amser / llai o oriau, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall. 

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim.

Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am, ddydd Llun, 14 Tachwedd 2022.

Cyflog

💰 £21,300 - £24,630

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau