Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Tîm

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn edrych am Swyddog Cefnogi Tîm

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r rôl o gadw ffiniau a threfniadau etholiadol ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru dan arolwg a gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau sy’n ymddangos i’r Comisiwn yn ddymunol er llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae’n gorff statudol â swyddogaethau statudol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

 Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru yn gorff a noddir gan Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, sydd â’r rôl o gadw’r etholaethau seneddol yng Nghymru dan arolwg, yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y’i diwygiwyd).

Diben y Swydd:

Mae deiliad y swydd yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu am rhoi gymorth i tim y Comisiwn gan gynnwys dyletswyddau swyddfa cyffredinol, gan helpu i gydlynu'r broses achredu o ddyfarniadau amrywiol yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith cymorth busnes a chymorth ariannol arall yn ôl y gofyn. Mae deiliad y swydd hefyd yn ymgymryd â'r un rôl ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Swydd ddisgrifiad:

Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Comisiwn gan gynnwys cymryd galwadau ffôn ac ateb ymholiadau lle bo hynny'n bosibl. Trosglwyddo galwadau i'r cydweithwyr priodol pan na allant ateb ymholiad.

Prosesu'r post sy'n dod i mewn.

Cysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Swyddfa'r Cabinet, cyflenwyr, landlordiaid a Chomisiynwyr.

Helpu i gydlynu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a Comisiwn Fiiniau i Gymru gan gynnwys cymryd cofnodion, ymweliadau safle, archebion gwestai, a Chyfarfodydd Cyhoeddus achlysurol, os oes angen.

Cynorthwyo gyda'r camau gofynnol i'r Comisiwn gael achrediadau amrywiol yn y gweithle e.e. Gwobr y Ddraig Werdd, IIP a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach.

Cynnal a diweddaru cronfeydd data'r Comisiwn.

Darparu cymorth Cyllid pan fo'n ofynnol gan y Rheolwr Cyllid.

Darparu cymorth busnes pan fo'n ofynnol gan y Pennaeth Busnes e.e. cymorth gweinyddol ar gyfer recriwtio, asesiadau DSE, cysylltu â'r Rheolwr Adeiladu a dod o hyd i gyflenwyr newydd.

Adeiladu a chynnal perthynas waith gref â rhanddeiliaid allweddol.

Dyletswyddau cyffredinol eraill.

Cyflog

💰 £21,300 - £24,630

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau