Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr gweithrediadau TG a digidol

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Reolwr gweithrediadau TG a digidol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach. 

Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.   Y Swydd

Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â thîm TG Urdd. Rydym yn gweithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu'r systemau a'r gefnogaeth TG sy'n ofynnol i symud ymlaen yn unol â'n cynllun strategol.

Mae pandemig COVID wedi cyflymu ein cynlluniau trawsnewid digidol ac rydym yng nghanol ein taith i strategaeth cwmwl yn gyntaf. Rydym yn trosglwyddo ein prif systemau data i Microsoft Dynamics 365 ac yn ehangu ein defnydd o feddalwedd Microsoft 365 a Microsoft Azure.

Bydd y rôl hon yn chwarae rhan bwysig mewn sefydlu yr adran TG yn gadarn fel partner busnes pwysig i bob un o adrannau’r Urdd. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd efo profiad eang yn y maes TG, o bosib wedi rheoli rhan o wasanaeth TG corfforaethol, ac yn gyfforddus yn gweithio efo, a dysgu am ddatblygiadau newydd.

Croesawir ceisiadau oddi wrth ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â Chymry Cymraeg.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth TG) ar 07976003341 neu [email protected]

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau – 21 Tachwedd 2022.

Dyddiad Cyfweld – Yn unol a ceisiadau a trafodaeth efo ymgeiswyr.   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £37,519 - £42,404

Lleoliad

📍 Hyblyg, Llangrannog, Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau