Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Y Gegin

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Y Gegin

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Rheolwr Y Gegin i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. 

- Y RÔL -

Cyfrifoldeb Rheolwr Y Gegin fydd cadw'r amgylchedd yn lân a thaclus gyda o leiaf lefel 4 o Radd Hylendid Bwyd. Disgwylir i’r Rheolwr osod arferion a gweithdrefnau cadw tŷ o’r safon uchaf sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol gan gadw cofnodion a sicrhau bod canllawiau yn cael eu dilyn mewn modd amserol. Ar hyn o bryd gellir eistedd 46 yng ngofod y caffi ei hun, 20 ychwanegol ar ochr y dderbynfa a 18 tu fas a bydd gofyn i'r Rheolwr ystyried ffyrdd o ddatblygu’r wasanaeth ymhellach.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. 

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Rheolwr Y Gegin, bydd arnoch angen y canlynol:

-    HND neu Radd mewn maes perthnasol NEU brofiad cyfatebol.

-    Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 3.

-    Profiad blaenorol mewn rôl rheoli gwasanaeth cwsmeriaid. 

-    Gwybodaeth ragorol am safonau bwyd a gwasanaeth y diwydiant.

-    Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth bwyd gyfredol (HACCAP, alergenau, ac ati).

-    Profiad blaenorol o gynllunio a darparu bwydlenni a bwyd o safon (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad)

-    Profiad blaenorol o reoli cyllidebau (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad).

-    Profiad blaenorol o reoli adnoddau mewn modd cost effeithiol ac effeithlon.

-    Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel.

-    Sgiliau TG rhagorol a defnydd o Microsoft office, gyda gwybodaeth dda o gyfryngau cymdeithasol.

-    Profiad blaenorol o oruchwylio tîm helaeth a'r gallu i gymryd perchnogaeth a rheolaeth.

-    Profiad o ymdrin â chwsmeriaid heriol ac ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn effeithiol.

-    Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a chynadleddau, i'r safonau uchaf.

-    Profiad o ddatblygu tîm i gwrdd ag anghenion dyrys y busnes sy'n aml-sgil ac yn llawn cymhelliant.

-    Profiad blaenorol o ddatblygu perthynas waith dda gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol.

-    Gallu dangos creadigrwydd a sylw i fanylion, sgiliau trefnu a rheoli amser.

-    Profiad blaenorol o gadw cofnodion, data a dogfennaeth yr adran.

-    Yn dangos lefelau uchel o hunan-gymhelliant.

-    Profiad o weithio gyda therfynau amser tynn ac yn gallu ymateb yn unol â hynny.

-    Profiad blaenorol o gysoni arian parod a til. Deiliad trwydded DPS (neu wedi’i chwblhau o fewn y 3 mis cyntaf o gyflogaeth).

-    Y gallu a’r parodrwydd i weithio’n hyblyg o ran dyletswyddau a phatrymau shifftiau er mwyn ymateb i anghenion busnes.

-    Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *

Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:

-    Profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau cynadledda a phreswyl o ansawdd uchel.

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau.

- Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol.

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu.

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl.

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau.

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela.

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau.

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Rheolwr Y Gegin, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £27,929 - £31,411

Lleoliad

📍 Campws Caerfyrddin, Campws Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau