Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 Cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

Mae Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y ‘Times a Sunday Times Good University Guide 2022’ ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni nawr yn edrych am Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod parhaol. 

- Y RÔL -

Y Prif Weithredwr sydd yn rheoli pob agwedd ar waith y sefydliad ac yn atebol am ei berfformiad. Mae prif gyfrifoldebau’r Prif Weithredwr yn cynnwys:

·   arwain pob agwedd ar waith y Ganolfan.

·   datblygu a gwireddu gweledigaeth, gwerthoedd a chyfeiriad strategol y Ganolfan gan gynnig arweiniad cadarn i staff, partneriaid a budd-ddeiliaid allweddol;

·   sicrhau bod strategaethau corfforaethol y Ganolfan yn cael eu trosi’n allbynnau clir a mesuradwy ar gyfer cynyddu nifer yr unigolion sy’n dysgu Cymraeg ac yn cyrraedd rhuglder bob blwyddyn.

Bydd cymwyseddau craidd y rôl yn cynnwys: 

·   gweithio’n effeithiol ar lefel genedlaethol gan ddatblygu partneriaethau effeithiol;

·   cynnal perthynas effeithiol gydag aelodau’r Bwrdd Cwmni, Darparwyr Dysgu Cymraeg a Llywodraeth Cymru;

·   sefydlu perthynas gyda’r wasg er mwyn cynnal proffil addas a chadarnhaol i’r Ganolfan;

·   sicrhau bod gweledigaeth y Ganolfan yn perthnasu i nodau strategol Llywodraeth Cymru;

·   creu diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformiad uwch, arloesedd a darpariaeth sy’n gweddu’n union i anghenion dysgwyr y Gymraeg;

·   cynnal gwelliant parhaus ym mhob agwedd ar waith y Ganolfan; 

·   arwain tîm staff y Ganolfan a goruchwylio rheoli prosiectau a chyllid yn llwyddiannus.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol

-    Profiad o hygrededd cydnabyddedig fel rheolwr/rheolwraig, reoli newid yn y gweithle, arwain strategaeth sefydliadol neu genedlaethol, weithio ar lefel genedlaethol, weithio o dan amgylchiadau heriol, ddatblygu partneriaethau effeithiol a ddelio â’r wasg a’r cyfryngau.

-   Meddu ar y gallu i yrru gweledigaeth strategol a chymwyseddau llywodraethiant, i reoli disgwyliadau a chynnydd yn erbyn amcanion tymor byr, canolig a hirdymor, y gallu i arwain rheoli perfformiad, y gallu i reoli cyllidebau sylweddol gan sicrhau gwerth am arian, y gallu i arwain tîm ar lefel genedlaethol gan sicrhau cyfranogiad llawn gan gydweithwyr a’r gallu i greu diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformiad uwch.

-   Ysfa i lwyddo ar lefel genedlaethol Meddu ar frwdfrydedd, egni ac ymrwymiad i gyflawni canlyniadau llwyddiannus

-   Agwedd broffesiynol tuag at waith a chydweithwyr

-   Cydnabod pwysigrwydd ffurfio perthnasau gwaith cadarn

-   Gallu i gydweithio’n effeithiol â staff proffesiynol eraill

-   Y gallu i weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill

-   Y gallu i flaenoriaethu gwaith, gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio’ch blaengaredd eich hun

-   Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol ac yn dangos hynny

-   Meddu ar y gallu i drawsnewid meysydd sy’n tanberfformio

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ysbrydoli cydweithwyr 

-   Meddu ar y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

-   Meddu ar sgiliau cyflwyno effeithiol

-   Meddu ar sgiliau gweinyddol a threfnu effeithiol

-   Yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio’r pecynnau cyfrifiadurol diweddaraf

-   Tystiolaeth o gymhelliad personol 

-   Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg 

-   Parodrwydd i deithio i fannau eraill yng Nghymru yn rheolaidd

-   Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i lefel benodol.

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-   Gradd uwch

-   Ymwybyddiaeth gadarn o faes Dysgu Cymraeg

- BUDDION

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 14 Tachwedd 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 Cyflog cystadleuol

Lleoliad

📍 Campws Caerfyrddin, Llanbed, Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau