Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru

Cymorth Cristnogol

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich ca\m proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol.    **Gofynion y swydd **

Dyma swydd gyffrous yn nhîm Cymorth Cristnogol Cymru (un o ddwy rôl o’r fath sy’n bodoli yng Nghymru) sy'n gweithio i gryfhau, ysgogi, ysbrydoli a darparu adnoddau i bobl ac i eglwysi yng Nghymru er mwyn eu galluogi i roi, gweithredu a gweddïo mewn ymateb i dlodi byd-eang. Gan ganolbwyntio'n benodol ar y De a’r De-ddwyrain, bydd y rôl yn cynnig cymorth pwrpasol ac yn aml wyneb yn wyneb i eglwysi, Grwpiau a rhwydweithiau Cymorth Cristnogol, gan weithio'n greadigol ar draws yr enwadau i feithrin cefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol.  

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am rai o feysydd gwaith y tîm mewn eglwysi ledled Cymru. Er enghraifft, cyfathrebu rheolaidd â rhwydweithiau eglwysig, datblygu rhwydwaith o siaradwyr gwirfoddol mewn eglwysi yng Nghymru, ymgysylltu â phobl sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ymgyrchoedd eglwysig, meysydd codi arian pwrpasol, a digwyddiadau a gwyliau.    **Amdanoch chi **

Byddwch yn awyddus iawn i weithio ar y cyd ag eglwysi ac eraill er mwyn eu hysbrydoli i fynd ati i weithredu i oresgyn tlodi ym mhob cwr o’r byd. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r gwahanol gynulleidfaoedd eglwysig sy’n bodoli yng Nghymru, ac o ardaloedd daearyddol y De/De-ddwyrain. Bydd gennych brofiad o weithio i ddatblygu cydberthynas sy’n ysbrydoli pobl i weithredu, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu negeseuon mewn cyd-destun diwinyddol. Byddwch yn hapus i fod allan yn cwrdd â phobl, gan feithrin partneriaethau, cefnogi gwirfoddolwyr a chyfathrebu'n greadigol ac yn ddeinamig am waith Cymorth Cristnogol. 

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig da. 

Mae disgwyl i ymgeiswyr fyw yn yr ardal benodol y mae'r swydd yn ei chwmpasu, sef De/De-ddwyrain Cymru. 

Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel sy’n llunio rhestr fer a’r panel cyfweld. 

Cyflog

💰 £36,255 - £39,644

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau