Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid

Cyngor Tref Caerfyrddin

💰 £35k - £38k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin, yn chwilio am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid sydd yn brwdfrydig a hyblyg i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cyngor yn y dyfodol. 

Dylech fod â phrofiad o gyllidebau, cyllid a gweinyddu cyfarfodydd. Dylech hefyd feddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a medru gweithio fel rhan o dîm bach i helpu i gyflawni cynllun strategol y Cyngor. Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus lle bydd yn angenrheidiol.

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr da, ac mae staff yn mwynhau'r manteision sy'n deillio o weithio i gyflogwr bach sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sy'n angerddol am ei bobl ac yn darparu'r hyblygrwydd i sicrhau'r cydbwysedd gorau rhwng bywyd a gwaith. Patrwm gweithio i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr sy'n cynnwys ffurflen gais, disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan Gyngor Tref Caerfyrddin ar y ddolen hon: www.cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk 

Cysylltwch â Chlerc Cyngor Tref Caerfyrddin, Emma Smith [email protected] ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4.30pm ar ddydd Gwener 25ain o Dachwedd 2022. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 12fed o Ragfyr 2022. 

Prif Ddiben y Swydd:

·   Cefnogi Clerc y Dref i sicrhau pob agwedd yn ymwneud â llywodraethu corfforaethol a gweinyddu ariannol y Cyngor.

·   Dirprwyo ar ran Clerc y Dref yn ei absenoldeb.

·   Cyfrifoldeb penodol am reoli'r holl gofnodion a gweithdrefnau ariannol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.

·   Mynychu cyfarfodydd y Cyngor a sicrhau bod agendâu a chofnodion yn cael eu paratoi, eu cymeradwyo a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a gofynion cyfreithiol.

·   Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â rôl reoli o fewn Cyngor Tref Caerfyrddin yn unol â chyfarwyddiadau'r Clerc a'r Cyngor Tref, a bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau eraill, fel y nodir yn y disgrifiad swydd hwn.

Prif Gyfrifoldebau:

·   Cadw cofnodion ariannol cywir a rheoli a monitro'r cyllid a rheolaethau ariannol y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.

·   Cynghori Clerc y Dref a'r Cyngor ar materion ariannol a sicrhau bod yr holl rwymedigaethau statudol ariannol yn cael eu cyflawni.

·   Goruchwylio'r rhestr fisol o daliadau i'w cymeradwyo gan lofnodwyr awdurdodedig a phrosesu taliadau mewn modd amserol.

·   Adolygu'r gofrestr rheoli risg ariannol yn rheolaidd gyda Chlerc y Dref a sicrhau bod adroddiadau'n cael eu darparu ar gyfer y Cyngor Tref ar gyfnodau rheolaidd.

·   Sicrhau bod trefniadau yswiriant digonol ar waith i'r Cyngor gwmpasu’r holl risgiau ariannol a nodwyd.

·   Gweithio gyda Chlerc y Dref i sicrhau bod cyllideb flynyddol ar ffurf drafft ac argymhelliad praesept yn cael ei baratoi'n amserol bob blwyddyn.

·   Paratoi adolygiadau chwarterol o'r gyllideb a chymodi banc ar gyfer cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyllid.

·   Paratoi adroddiadau terfynol, datganiad blynyddol y Cyngor o gyfrifon a’r datganiad blynyddol, yn ôl y gofyn ac yn unol â'r holl ganllawiau a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.

·   Ymgysylltu a darparu gwybodaeth i archwilydd mewnol a chyflwyno'r cyfrifon blynyddol i'r archwilwyr allanol yn ôl y gofyn.

·   Cadw cofnodion TAW statudol y Cyngor, cyflwyno TAW yn fisol, a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno'n brydlon ynghyd ag unrhyw daliad.

·   Casglu ceisiadau am gymorth grant a fydd yn cael eu hadolygu gan Glerc y Dref a'r Pwyllgor.

·   Cynnal Cofrestr Asedau Sefydlog o eiddo'r Cyngor yn rheolaidd.

·   Goruchwylio'r holl gyfrifoldebau rheoli ariannol a gyflawnir gan staff y Cyngor Tref.

·   Mynychu holl gyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Tref – fel arfer mae tri chyfarfod y mis ac fe'u cynhelir gyda'r nos.

·   Paratoi agendâu, cofnodion a phapurau eraill sy'n gysylltiedig â holl gyfarfodydd y Cyngor a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a deddfwriaeth.

Cyfrifoldebau Eraill

Datblygiad Personol

·   Datblygu'n broffesiynol drwy ddiweddaru gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau i sicrhau bod materion y Cyngor Tref yn cael eu rheoli'n effeithlon.

Rheoli Staff

·   Rheoli, goruchwylio a chefnogi'r defnydd effeithiol o’r rôl a nodwyd.

Rheoli Adnoddau

·   Sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu rheoli'n effeithiol yn unol â pholisi a deddfwriaeth.

Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.

MANYLEB PERSON

Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn tuag at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.

Mae'n bosibl bod y sgiliau a phrofiadau a rhestrir isod wedi deillio o waith cyflogedig neu waith gwirfoddol.

Gofynion Hanfodol:

·   Profiad o reolaeth ariannol, gan gynnwys creu a monitro cyllidebau.

·   Profiad o weithio gyda phecynnau cyfrifyddu digidol, gan gynhyrchu cyfrifon diwedd blwyddyn, cyllidebu, dadansoddi amrywiant, cofnodi incwm, rheoli cyfriflyfr a rheoli credyd.

·   Yn gallu gweithio y tu allan i oriau arferol yn rheolaidd (fel arfer mae tri chyfarfod gyda’r nos bob mis)

·   Profiad o ddefnyddio systemau TG eraill, gan gynnwys Microsoft Office a meddalwedd rheoli ariannol.

·   Sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweinyddu da.

·   Sgiliau rheoli a rhyngbersonol da.

·   Gallu gweithio ar ei ben ei hun neu fel rhan o dîm.

·   Sgiliau iaith (gweler y wybodaeth bellach isod):

Cymraeg - gwrando a siarad – lefel 4 (gyda hyfforddiant ar gael i gyrraedd lefel 5)

Saesneg – gwrando, siarad a darllen – lefel 4. Ysgrifennu – lefel 5*

Gofynion Dymunol:

·   Ymwybyddiaeth o weithdrefnau ariannol llywodraeth leol gan gynnwys rheolaeth ariannol a gofynion cyfreithiol, ac ati.

·   Addysg a/neu reolaeth lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall (e.e. cymwysterau AAT / ICB, CiLCA)

·   Dealltwriaeth dda o’r rôl a chyfrifoldebau'r swydd.

Cyflog

💰 £35,411 - £38,296 pro rata

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau