Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn seiliedig ar gampws Caerfyrddin neu Abertawe ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen. 

£37,474 i £43,414 y flwyddyn

-** AMDANOM NI** -

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni nawr yn edrych am Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod penodol o 1 flwyddyn yn y man cyntaf.

- Y RÔL -

Prif ffocws y swydd hon fydd dysgu ar yr ystod o raglenni hyfforddiant a gynigir yn fewnol ac yn allanol gan y Ganolfan. 

Mae’r Ganolfan a’i brandiau Peniarth a Rhagoriaith yn prysur ennill enw da fel un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amrediad eang o gyrsiau sy’n cynnwys cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, a rhaglenni Cymraeg Gwaith ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ychwanegol at hynny, cynigir cyrsiau masnachol eu natur i nifer o gleieintiaid ar draws Cymru. Y Ganolfan sydd hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar yr hyfforddiant iaith Gymraeg a gynigir gan yr Athrofa fel rhan o’i darpariaeth ym maes Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon.    Yn ychwanegol at y gwaith addysgu, mae’r Ganolfan hefyd yn cystadlu am waith prosiect sy’n gallu cynnwys creu adnoddau iaith. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys rhaglenni Cymraeg Gwaith i’w darparu ar-lein ac yn cynnig cyfleoedd uwchsgilio er mwyn defnyddio meddalwedd benodol er mwyn gwneud hynny. Mae nifer o brosiectau fan frand Peniarth sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cydlynu prosiectau o bryd i’w gilydd yn ogystal ag awduro cynnwys.  

Fel sydd eisoes wedi’i nodi, mae’r swydd hon yn ymwneud yn bennaf â dysgu ac addysgu a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da. Yn benodol, cynigia’r swydd gyfle arbennig i unigolyn brwdfrydig a blaengar, sy’n effro i’r cyfleoedd a gynigir gan y Cwricwlwm newydd ac agenda ehangach Cymraeg 2050, gyfrannu at raglen addysgu gyffrous ac amrywiol ei natur. 

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-   Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol

-    Profiad o ddysgu naill ai disgyblion ysgol, oedolion neu fyfyrwyr is ac ôl-raddedig

-    Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro gweithgarwch prosiect

-    Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol

-    Tystiolaeth o ddulliau addysgu blaengar ac arloesol  

-    Profiad o gyfrannu at ddatblygiadau cwricwlaidd

-    Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd

-    Yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau cyfrifiadurol (e.e. MS Office) ynghyd â’r cymhorthion electronig sydd ar gael i wella’r Gymraeg, e.e. Cysgliad, Cymarfer Gallu i gynllunio, addysgu a gwerthuso cyrsiau

-    Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i lefel benodol.

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-    Gradd uwch

-    Cymhwyster addysgu

-    Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg uwch

-    Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg

-    Profiad o ymchwil weithredu yn y dosbarth

- BUDDION

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 17 Tachwedd 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £37,474 - £43,414

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Abertawe, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau