Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd TG (x2)

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm TG deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr.

Disgrifiad:

Manyleb Swydd   Teitl Swydd:           Cynorthwyydd TG x2

Adran:               Technoleg Gwybodaeth  

Lleoliad:              Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes,

**Hybrid (50/50) ** Bydd staff sy’n byw mwy na 40 milltir o’u swyddfa Menter a Busnes agosaf yn gallu gweithio o gartref yn barhaol

Rheolwr Atebol:        Rheolwr Gweithrediadau TG

Graddfa:              2

Cyflog:               £20,919 - £22,367 (dibynnol ar brofiad)

Mae cynllun bonws hefyd yn weithredol

Cytundeb:            Parhaol

Ystyrir ceisiadau i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser

Sgiliau Dwyieithog:     Hanfodol

Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr.   Mae’r tîm TG yn gyfrifol am:

·   Gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio’n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;

·   Darparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff

Nod y Swydd   Bydd y Cynorthwyydd TG yn cefnogi’r Adran TG i ddarparu gwasanaeth i’r cwmni, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo’u gwaith.   Prif Gyfrifoldebau   ·   Gweithio’n agos gyda’r tîm i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel

·   Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon drwy ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli ble fod angen

·   Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, gan gynnig cyngor a hyfforddiant sylfaenol

·   Paratoi at aelodau staff sy’n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau gan ddilyn prosesau yr adran

·   Gosod a dosbarthu cyfarpar o fewn amserlen benodol, gan sicrhau bod staff newydd yn medru gweithio’n hwylus ar eu diwrnod cyntaf

·   Gofalu am holl gyfarpar TG y cwmni, cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus

·   Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis – Diweddaru meddalwedd a chaledwedd; Gweithredu copïau wrth-gefn; Gwaith gweinyddol

·   Cynorthwyo’r tîm TG i ddatrys digwyddiadau (incidents), a gweithio ar ddatblygiadau/prosiectau TG

·   Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol

·   Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys

·   Cynorthwyo’r tîm TG i ddiogelu data’r cwmni, gan weithio i leihau’r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data

·   Cynorthwyo staff i ddehongli a gweithio yn ôl ein polisiau TG

·   Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni’n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol   Arall 

·   Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a Busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol

·   Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen

Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol

·   Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a datrys problemau TG eich hunain ac eraill. (Gall hyn fod hefo teulu neu ffrindiau, yn hytrach nag yn y gwaith)

·   Cymhwyster addysg bellach (e.e. NVQ / Lefel AS) neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol

·   Gwybodaeth a sgiliau da efo rhai o’r canlynol:

- Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android   - Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion

- Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office)

·   Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu

·   Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein

·   Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd

·   Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff

·   Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau

·   Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm

·   Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig

·   Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser

·   Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol 

·   Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig 

·   Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr).   Dymunol

·   Cymhwyster proffesiynol TG

·   Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl

·   Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer

·   Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes   Gwneud Cais   Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.

Dyddiad Cau   Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10:00 y bore, 28/11/2022    Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol yn yr wythnos sy’n cychwyn 05/12/2022. Os yw’r wythnos hon yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.

**Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **   Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Nod y Cwmni   Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau.    Yn unol â’n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy’n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy’n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o’r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.   Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy’n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau. 

Cyflog

💰 £20,919 - £22,367

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau