Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch-weinyddwr Gweithrediadau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.

At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym 'nawr yn chwilio am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod penodol o 12 mis. 

- Y RÔL -

Bydd disgwyl i chi gyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag unedau cymorth eraill yn y Brifysgol yn rheolaidd, yn enwedig y gyfarwyddiaeth Ystadau a Chyfleusterau ehangach, i ddarparu gwasanaeth o lefel uchel i'r staff a'r myfyrwyr. Disgwylir i chi gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol sy'n cydymffurfio â chanllawiau a fframweithiau rheoleiddio perthnasol y Brifysgol. Byddwch yn fedrus iawn o ran y defnydd o becynnau Microsoft, a bydd gennych y gallu i ymgyfarwyddo â phecynnau meddalwedd TG newydd; mae hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.

- AMDANOCH CHI -

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl yr Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-    Wedi cael addysg hyd at lefel HND neu radd (yn ddelfrydol yn y maes dewisol) neu yn meddu ar brofiad amlwg

-    Gweinyddu Busnes hyd at Lefel 4 neu brofiad cyfwerth amlwg

-    Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol cyflym, o ansawdd uchel

-    Profiad blaenorol o ddelio â gwaith gweinyddu Ystadau a Chyfleusterau a rheoli contractau

-    Profiad blaenorol o baratoi dogfennau i'w harchwilio

-    Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel

-    Profiad mewn perthynas â rheoli contractau a thrafodaethau

-    Y gallu i arddangos sgiliau trefnu effeithiol

-    Y gallu i fodloni terfynau amser tyn yn ôl y gofyn

-    Lefel uchel o hyfedredd yn y defnydd o becynnau Microsoft

-    Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg

Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:

-    Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch

Felly, os ydych yn teimlo y gallech ffynnu a chael effaith yn rôl Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £27,929 - £31,411

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau