Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Clercyddol

Prifysgol Bangor

💰 £22k - £23k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Gwasanaeth Cyllid yn gwahodd ymgeiswyr am swydd Swyddog Clercyddol parhaol i ymuno â thîm prysur sy’n cefnogi gweithrediadau’r Gwasanaeth Ystadau a Champws. Byddwch yn gweithio'n agos â rheolwyr y tîm ac aelodau eraill y tîm i wneud amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd cyllidol, gan rannu cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol ar draws amrywiaeth o leoliadau yn ôl gofynion gweithredol.

Byddwch wedi cael addysg hyd lefel TGAU (lleiafswm o 5 gyda graddau A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm mawr prysur. Mae sgiliau TG da a gwybodaeth o Excel a Word yn hanfodol. Byddwch yn aelod tîm blaengar, ymroddedig, effeithiol a chefnogol sy'n gallu gweithio'n hyblyg, yn gyflym ac yn gywir i derfynau amser tynn.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.

Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn un o ofynion dymunol y swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Tachwedd, 2022.

Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu ag: Alison Armstrong, Uwch Gyfrifydd, e-bost; [email protected], ffôn: (01248) 38382169

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £21,630 - £22,662

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau