Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn

Grŵp Cynefin/Gorwel

💰 £28k - £31k 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

Mae Grŵp Cynefin/Gorwel yn edrych am Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Chwilio am swydd ym maes cefnogi? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau? Dewch i weithio i Gorwel!

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL   1.      Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.   2.      Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn eu llety â chymorth, yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais.   3.      Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth   4.      Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin.   5.      Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu.   6.      Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad.   7.      Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol.   8.      Cyfrifoldeb i ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.   9.      Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.   10.    Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus.   11.    Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer talu budd-dal a rhent, rheoli cyfrifon rhent er mwyn casglu rhent yn effeithiol ac atal ôl-ddyledion.   12.    Cyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr.   13.    Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr.   14.    Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol.     15.    Cynorthwyo Rheolwyr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd.   16.    Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion.   17.    Cynorthwyo'r Rheolwr Cynorthwyol i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau.   18.    Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i ddefnyddwyr gwasanaeth.   19.    Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o'r tueddiadau a'r pynciau llosg cyfredol yn y sectorau cymorth a cham-drin domestig.   20.    Cymryd rôl arweiniol, ar y cyd â'r Rheolwr Gwasanaeth, wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel sy'n ymwneud â chefnogaeth.   21.    Arwain ar hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogi ar gyfer y cynlluniau, gan gynnwys gweithredu'r Rhaglen Rhyddid.   22.    Meddu ar wybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ddigartrefedd, cam-drin domestig a chefnogaeth.   23.    Bod â gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sy'n cynnig “cefnogaeth a mwy”.

Cyflog

💰 £28,235 - £30,854

Lleoliad

📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau