Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Addysg Feddygol fel Athro – Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, i ehangu ei chyfadran academaidd ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio’n agos gyda thîm, staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol y rhaglen i gyflwyno addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi’r myfyrwyr drwy eu taith addysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu yn rhan o’r rhaglen MBBCh israddedig, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni cyfrwng Cymraeg/dwyieithog. 

Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a ledled Cymru sy’n gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef rhoi statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn sector y prifysgolion. Mae angen y rôl yn benodol i hwyluso grwpiau Dysgu Seiliedig ar Achosion felly bydd angen iddynt allu ymrwymo i oriau addysgu penodol ar ddyddiau Llun/Gwener yn ystod semester yr Hydref a dyddiau Mawrth/Gwener yn ystod semester y Gwanwyn (mis Medi tan fis Mehefin).

Bydd hefyd yn goruchwylio a chefnogi myfyrwyr israddedig, ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol academaidd yn y rhaglen yn ôl y gofyn; gan geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ôl-raddedig ar lefel 7 (neu gyfwerth) mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r biofeddygol neu ofal iechyd neu brofiad perthnasol, y gallu diamheuol i addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig drwy gymhwyster addysgu, sgiliau cyfathrebu (Cymraeg/Saesneg) rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac amrywiaeth o gyfryngau.

Mae’r gallu i gynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt yn y Gymraeg a’r Saesneg yn allweddol i’r rôl.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r rôl hon, cysylltwch a Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol (Arweinydd Academaidd y Gymraeg) drwy ebostio [email protected]

Oriau amrywiol sydd i’r swydd hon (rhagwelir y bydd yn cynnwys 168 o oriau’r flwyddyn, a byddwn yn cytuno ar y patrwm gwaith maes o law), yn benagroed ac mae ar unwaith. 

Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn, pro rata (Gradd 6), ond rhagwelir mai £35,333 y flwyddyn, pro-rata fydd uchafswm y cyflog cychwynnol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022.   Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.

Cyflog

💰 £35,333 - £42,155

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau