Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithwyr Cyswllt yn yr Ysgol Iechyd, Lles a GofalCymdeithasol yng Nghyrmu - K123

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £35k pro rata 📍 O gartref Ar gau

Mae Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn edrych am Ddarlithwyr Cyswllt yn yr Ysgol Iechyd, Lles a GofalCymdeithasol yng Nghyrmu - K123

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn awyddus i recriwtio Darlithwyr Cyswllt sy'n siaradCymraeg ym maes Gwaith Cymdeithasol yn y BrifysgolAgored yng Nghymru. Mae angen darlithwyr i addysgu ac asesu ar unwaith arnom ar y modiwl canlynol; K123.

**Y rôl **

Rhan-amser: 0.113 CALl 

Rydym yn awyddus i recriwtio Darlithwyr Cyswllt sy'n siaradCymraeg ym maes Gwaith Cymdeithasol yn y BrifysgolAgored yng Nghymru. Mae angen darlithwyr i addysgu ac asesu ar unwaith arnom ar y modiwl canlynol; K123. 

Swydd rhan-amser yw hon. 

Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craiddpenodol. Mae'n swydd barhaol, sydd â chyfnod prawf o ddwyflynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith ynsefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith ynsylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is;yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waithmarcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgaumarcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd tasgau eraill ynofynnol, fel rhoi cymorth penodol i fyfyrwyr (unigol ac mewnfforymau), mentora cyfoedion a gweithio gyda thîm y modiwlar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angengweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar adegau. Trafodirlefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawn amser cychwynnol yw £35,333, a delir ar sail pro rata yndibynnu ar eich FTE. Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefiny bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd eithalu dros y flwyddyn galendr lawn. 

Disgwylir i diwtoriaid gefnogi eu myfywyr drwy gydol y modiwl gan ganolbwyntio ar eu dysgu academaidd a sut y maent yn cymhwyso eu dysgu i brofiadau ymarfer a llunioportffolio syml wedi'i fapio yn ôl y Codau Ymarfer a'rSafonau Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. 

Os cewch eich penodi i fod yn diwtor ar y modiwl hwn, efallai y cewch grŵp cymysg o fyfyrwyr sy'ngweithio/ymarfer yng Nghymru, ond rydym yn chwilio ynbenodol am Diwtor sy'n siarad Cymraeg yn rhugl ac sy'ngallu addysgu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

**Yr hyn a gewch yn ôl **

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thuhwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'rdatblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro-rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn argyfer Gweithgarwch Academaidd hunangyfeiredig ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyferGweithgarwch Academaidd y Cytunwyd arno a DatblygiadProffesiynol. 

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (pro rata) ynogystal â Gwyliau'r Banc amrywiol (pro rata) a chynnigdeniadol o ran pensiwn. 

Dyddiad Cau : 06 Rhagfyr 2022 – 12 canol dydd 

Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn eincenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein holl staff gyflawni eu potensial a denu ymgeiswyr amrywiol. Rydym yn cydnabod bod poblwahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaetha diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yngryfder 

Cyflog

💰 £35,333 pro rata

Lleoliad

📍 O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau