Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Bennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

_Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn swyddfa Caerdydd, gyda'r cyfle i weithio o adref ar rai diwrnodau bob wythnos yn unol â dull gweithio hybrid Cymorth Cristnogol. _ _  _ _Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel llunio rhestr fer a’r panel cyfweld. _   Amdanom ni

Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich cam proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol.   Am y swydd

Rôl gyflenwi dros gyfnod mamolaeth hyd at 12 mis yw hon, gyda phwyslais ar gysylltiadau eglwysig lefel uchel, codi arian yn gymunedol, yn enwadol ac yn sefydliadol a chyfle i lywio tîm newydd i helpu i gyflawni ein strategaeth ar ei newydd wedd.

Mae'r rôl yn arwain ac yn rheoli tîm Cymorth Cristnogol Cymru, gan ysbrydoli a chyflawni targedau codi arian, codi ymwybyddiaeth a sicrhau ymgyrchu ac eirioli effeithiol. Drwy gydweithio mewnol rhagorol a phartneriaethau allanol cryf, mae'r rôl yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros uwch gynrychiolaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru ac am reoli rhanddeiliaid gyda'r eglwysi ac arweinwyr eglwysig, y cyhoedd yn ehangach, y cyfryngau, y sector preifat a sefydliadau eraill.    Amdanoch chi

Byddwch yn unigolyn sy’n angerddol am weledigaeth Cymorth Cristnogol a'r effaith y gall eglwysi a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru ei chael i drechu tlodi byd-eang.

Bydd gennych brofiad o arwain, rheoli, cefnogi ac ysgogi staff a gwirfoddolwyr mewn cyd-destunau eglwysig a/neu fusnes/codi arian, a byddwch yn gallu arwain a gweithio ar y cyd â chydweithwyr o bell, gan gynnal gweledigaeth ac egni a throi'r weledigaeth honno yn gynlluniau gwaith. 

Bydd gennych wybodaeth sylweddol am ddiwinyddiaeth a phrofiad o weithio gyda'r eglwys a strwythurau eciwmenaidd yng Nghymru. Yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o godi arian, ymgyrchu a gweithio gyda'r cyfryngau, bydd gennych hefyd sgiliau cyflwyno rhagorol yn gyhoeddus, yn y cyfryngau ac ar draws ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys pregethu ac arwain gwasanaethau eglwysig.  

Mae Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. 

Er mwyn diwallu anghenion y rôl, bydd gofyn i chi fynychu digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn enwedig ar adegau allweddol yng nghalendr Cymorth Cristnogol.   

Cyflog

💰 £54,516

Lleoliad

📍 Caerdydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,481 - £27,222 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29,116 - £35,627 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,450-£38,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £33,706 - £40,588 📍 Nantgarw Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £51,675 - £59,979 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £42,729- £49,600 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £28,866 - £44,450 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,561 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,433 - £32,980 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Llanuwchlyn Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Bangor Ar gau

💰 £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £33,000 – £36,961 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22,017 – £32,956 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,371 - £32,909 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Ynys Môn Ar gau