Swyddog Data a Chlercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Data a Chlercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (16 awr yr wythnos) uchod yn gweithio i Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gontract cyfnod penodol.
Diben y swydd yw rhoi cefnogaeth glercyddol effeithiol i waith gweinyddol amrywiol Ymestyn yn Ehangach Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf 5 TGAU gyda graddau A * - C (yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol o waith gweinyddol neu glercyddol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. Mae’r swydd ar gael tan 29 Awst 2025.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Mae’r swydd yn amodol ar archwiliad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 23 Ionawr 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Y Gegin
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Y Gegin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Rheolwr Y Gegin i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Mae hwn yn ail-hysbyseb, nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
- Y RÔL -
Cyfrifoldeb Rheolwr Y Gegin fydd cadw'r amgylchedd yn lân a thaclus gyda o leiaf lefel 4 o Radd Hylendid Bwyd. Disgwylir i’r Rheolwr osod arferion a gweithdrefnau cadw ty o’r safon uchaf sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol gan gadw cofnodion a sicrhau bod canllawiau yn cael eu dilyn mewn modd amserol. Ar hyn o bryd gellir eistedd 46 yng ngofod y caffi ei hun, 20 ychwanegol ar ochr y dderbynfa a 18 tu fas a bydd gofyn i'r Rheolwr ystyried ffyrdd o ddatblygu’r wasanaeth ymhellach.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Rheolwr Y Gegin, bydd arnoch angen y canlynol:
- HND neu Radd mewn maes perthnasol NEU brofiad cyfatebol.
- Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 3.
- Profiad blaenorol mewn rôl rheoli gwasanaeth cwsmeriaid .
- Gwybodaeth ragorol am safonau bwyd a gwasanaeth y diwydiant.
- Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth bwyd gyfredol (HACCAP, alergenau, ac ati).
- Profiad blaenorol o gynllunio a darparu bwydlenni a bwyd o safon (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad).
- Profiad blaenorol o reoli cyllidebau (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad)
- Profiad blaenorol o reoli adnoddau mewn modd cost effeithiol ac effeithlon
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel.
- Sgiliau TG rhagorol a defnydd o Microsoft office, gyda gwybodaeth dda o gyfryngau cymdeithasol.
- Profiad blaenorol o oruchwylio tîm helaeth a'r gallu i gymryd perchnogaeth a rheolaeth.
- Profiad o ymdrin â chwsmeriaid heriol ac ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn effeithiol.
- Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a chynadleddau, i'r safonau uchaf.
- Profiad o ddatblygu tîm i gwrdd ag anghenion dyrys y busnes sy'n aml-sgil ac yn llawn cymhelliant.
- Profiad blaenorol o ddatblygu perthynas waith dda gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Gallu dangos creadigrwydd a sylw i fanylion, sgiliau trefnu a rheoli amser.
- Profiad blaenorol o gadw cofnodion, data a dogfennaeth yr adran.
- Yn dangos lefelau uchel o hunan-gymhelliant.
- Profiad o weithio gyda therfynau amser tynn ac yn gallu ymateb yn unol â hynny.
- Profiad blaenorol o gysoni arian parod a til. Deiliad trwydded DPS (neu wedi’i chwblhau o fewn y 3 mis cyntaf o gyflogaeth).
- Y gallu a’r parodrwydd i weithio’n hyblyg o ran dyletswyddau a phatrymau shifftiau er mwyn ymateb i anghenion busnes.
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau cynadledda a phreswyl o ansawdd uchel
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Rheolwr Y Gegin, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 24 Ionawr 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol (Clerc)
Mae Cyngor Cymuned Llangernyw yn edrych am Swyddog Gweithredol (Clerc)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Gweithredol (Clerc) i ymdrin ag agweddau gweithredol dydd i ddydd y Cyngor Cymuned.
Bydd y Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am weinyddu effeithiol y Cyngor Cymuned, gan gynnwys cadw cofnodion gweithgaredd ac ariannol a gweithredu fel prif bwynt cyswllt.
Mae hon yn swydd amrywiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth er gwell i gymuned Bro Cernyw wrth gysylltu a gweithio hefo nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid. Yn gyfle i ddatblygu profiad a meithrin sgiliau, cynigir hyfforddiant a Mentora perthnasol i gyd fynd a dyheadau deilydd y swydd.
Prif Ddyletswyddau:
• Cymryd gofal o gyfrif e-bost y Cyngor gan ddyrannu ag ymateb yn amserol.
• Derbyn gohebiaeth ac anfonebau gan gofnodi’r wybodaeth hynny.
• Gosod Agenda misol ar y cyd a’r Cadeirydd. Rhannu'r agenda ar e-bost i’r cynghorwyr ynghyd a’r munudau o’r cyfarfod diwethaf.
• Trefnu i archebu lleoliad ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor (cylchdroir rhwng canolfannau Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin).
• Trefnu i osod copi o’r agenda ar wefan y Cyngor ac ar hysbysfyrddau’r tair ward.
• Cymryd cofnodion cywir yn ystod cyfarfodydd y Cyngor (a gynhelir ar nôs Fercher olaf y mis fel rheol) gan eu teipio a threfnu cyfieithu i’r Saesneg. (Telir tâl ychwanegol os yw deilydd y swydd yn awyddus i’w cyfieithu ei hun) Sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar y wefan wedi cymeradwyaeth y Cyngor Cymuned.
• Bod yn brif gyswllt ar gyfer sylwadau gan y Cyngor ar geisiadau cynllunio gan sicrhau ymateb o fewn terfynnau amser.
• Adrodd yn ôl i’r Cyngor Sir ar unrhyw faterion sydd yn codi gan Gynghorwyr yn ystod y cyfarfod Cyngor Cymuned.
• Pontio rhwng y Cyngor Cymuned a gweithgaredd y Cyngor Sir gan gynrychioli buddiannau’r Cyngor fel sydd yn berthnasol.
• Ymateb i unrhyw ohebiaeth ar ran y Cyngor.
• Ymgymryd a dyletswydd Swyddog ariannol cyfrifol gan ymdrin a materion ariannol y Cyngor.
• Trefnu i dalu anfonebau wedi cymeradwyo a chyflwyno unrhyw sieciau i’r banc.
• Paratoi datganiad chwarterol i’r Cyngor a’i incwm a gwariant.
• Sicrhau bod yswiriant y Cyngor yn gyfredol.
• Paratoi adroddiad flynyddol y Cyngor ar y cyd a’r Cynghorwyr.
• Cynrhychioli y Cyngor ar bwyllgorau Un Llais Cymru a phwyllgorau perthnasol eraill fel bod angen.
Cyflog
💰 £27,344 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-Weithiwr/wraig Chwarae Clwb Gofal Plant Bro Allta, Ystrad Mynach
Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn edrych am Uwch-Weithiwr/wraig Chwarae Clwb Gofal Plant Bro Allta, Ystrad Mynach
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i arwain a datblygu clwb gofal plant ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg llwyddiannus i blant oedran cynradd yn Ystrad Mynach. Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau newydd a dilyn hyfforddiant.
Dydd Llun-Iau : 3:15pm-5:30pm*
*Oriau ychwanegol ar gael yn ein Clwb Gwyliau
Bydd yr ymgeisydd llwydiannus yn siaradwr/wraig Cymraeg gyda NVQ Lefel 3 Gofal Plant /Gwaith Chwarae. Bydd cyfleoedd a chefnogaeth pellach i ddilyn hyfforddiant ac ennill rhagor o gymwysterau.
Cyflog
💰 £11.60 yr awr
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cadeirydd
Mae Barcud Cyf yn edrych am Gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ein pwrpas craidd yw bod yn gymdeithas dai nid-er-elw sy’n buddsoddi arian o renti, grantiau, a chontractau mewn gweithgareddau adeiladu a chynnal a chadw tai, gwasanaethau gofal, mynd i’r afael â newid hinsawdd/datgarboneiddio a rhaglenni cymunedol. Yn ymroddedig i adeiladu cymunedau cryf a chynaliadwy ac wedi’i ffurfio drwy uno 2 Gymdeithas flaenllaw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn 2020, mae Barcud yn ceisio Cadeirydd newydd.
Byddwch yn gweithio ar draws perfeddwlad Cymru - Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro gan ein harwain ni ar y cam nesaf o’n taith mewn ardal o Gymru lle mae llawer o angen o ran tai, diweithdra tlodi, anghydraddoldeb, ac iechyd gwael o hyd. Mae arnom angen llais credadwy dros anghenion yr ardal hon. Bydd eich cyfraniadau chi o ran cysylltiadau ac arweinyddiaeth yn cefnogi hynny.
Mae gwir gyfranogiad gan denantiaid a phreswylwyr yn hanfodol i Barcud. Bydd y Bwrdd yn cydweithio’n agos â’n Grŵp Monitro Barcud, grŵp annibynnol i denantiaid, i lunio polisi a strategaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gweithio mewn partneriaeth â’n tri is-gwmni yn ogystal ag ystod o gyrff yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i gyflawni ein nodau.
Yn ogystal â’ch cyswllt Cymreig, bydd gennych sgiliau arweinyddol ac anweithredol strategol wedi’u profi, ac ymroddiad i’n gwerthoedd ni a’r ardaloedd lle yr ydym yn gweithredu. Rydym yn awyddus i siarad â chi os ydych yn gadeirydd profiadol, neu’n barod ar gyfer eich swydd gyntaf fel cadeirydd bwrdd, yn fedrus wrth harneisio’r dalent o’ch amgylch, ac yn cynnig yr egni a’r sgiliau arweinyddol i’n helpu ar y cam nesaf yn ein taith.
Gellwch lawrlwytho pecyn swydd o www.campbelltickell.com/jobs.
I gael trafodaeth bellach galwch Kathy Carter yn Campbell Tickell ar 07786 831690 neu ebostiwch [email protected]
Yn cau ddydd Gwener 3ydd o Chwefror 2023 ǀ 12 hanner dydd
Cyflog
💰 £10,000
Lleoliad
📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio o fewn ein Tîm ac i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal â chynorthwyo gyda gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i’r Cyngor.
Mae'r swydd yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis.
I gael gwybodaeth bellach neu sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Nia Jones, Cydlynydd Cyfieithu, ar 01495 766098 neu Alan Vernon-Jones, Swyddog yr Iaith Gymraeg ar 01495 766096
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Disgrifiad:
Mae deiliaid y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at wasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’n ofynnol i ddeiliaid y swydd:
1. Ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau sydd yn cael eu llunio gan Feysydd Gwasanaeth y Cyngor, a hynny ar gais y Cydlynydd Cyfieithu, gyda ffocws penodol i gefnogi prosesau democrataidd y Cyngor.
2. Cynorthwyo gyda gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.
3. Meithrin cysylltiadau da a sicrhau dulliau cyfathrebu da gyda chleientiaid.
4. Blaenoriaethu a rheoli beichiau gwaith mewn ffordd effeithiol er mwyn diwallu terfynau amser y cytunwyd arnynt.
5. Lle bo angen, cynnig arweiniad i Swyddogion ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth lunio dogfennau, a hynny‘n unol â canllawiau Comisiynydd Iaith Gymraeg.
6. Gweithio gyda Swyddogion perthnasol i gynnal Gwefan Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog yn unol â Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor.
7. Cynorthwyo’r Cydlynydd Cyfieithu gyda’r trefniadau gweinyddol sydd yn gysylltiedig â dogfennau pan fydd angen eu hanfon at gyfieithwyr allanol, pan fo hynny’n briodol.
8. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod beichiau gwaith, blaenoriaethau ac unrhyw faterion gweithredol eraill.
9. Darparu gwasanaethau prawf ddarllen ar gyfer cydweithwyr pan fydd angen.
10. Cynorthwyo’r Swyddog Iaith Gymraeg a’r Cydlynydd Cyfieithu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor, fel y bo angen.
Cyflog
💰 £27,344 - £30,151
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gryfhau a datblygu ei safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol ym meysydd cynllunio iaith, gweinyddiaeth ddwyieithog a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio ar draws y Brifysgol a chynorthwyo i sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol a’i cholegau academaidd yn gweithredu Polisi iaith y Brifysgol a gwireddu amcanion Strategaeth y Gymraeg. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd medrau dwyieithog ym maes cyflogaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd berthnasol ynghyd â dealltwriaeth dda o egwyddorion cynllunio iaith a’r modd y mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu gweithredu o fewn sefydliadau. Bydd ganddo/i ddealltwriaeth gadarn hefyd o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg uwch ac yng nghyd-destun cyflogadwyedd.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol).
Trwy ein fframwaith Gweithio'n Ddeinamig, bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, a fydd yn cael ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mawrth neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.
Mae hon yn swydd barhaol.
Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu (01248 388697; [email protected]).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023.
Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Llawrydd
Mae Angor yn edrych am Swyddog Datblygu Llawrydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A oes gennych ddiddordeb i weithio I Elusen newydd arloesol sydd yn anelu i annog unigolion a’u teuluoedd i gymryd rhan effro'r neu lesiant yn y dyfodol?
Mae Angor yn awyddus i benodi Swyddog Datblygu I weithio’n llawrydd 25 awr yr wythnos ar draws Sir Gâr am gyfnod o 12 mis. Bydd y gwaith datblygu yn cael ei fonitro gan Ymddiriedolwyr drwy gydol y cyfnod.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
07380 125690 [email protected]
Cyflog
💰 £18,087
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu
Mae CBAC yn edrych am Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffem benodi Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu cyfrwng Cymraeg i ymuno â'n tîm AD. Gan gydweithio'n agos â'r Uwch Bartner Busnes AD: Datblygu Sefydliadol, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddarparu strategaethau Dysgu a Datblygu ac Ymgysylltu â'r Cyflogai sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Y rôl:
Byddwch chi'n cydlynu, yn trefnu ac yn cyfathrebu ynghylch gweithgareddau Dysgu a Datblygu mewnol ac allanol ar draws y corff. Byddwch chi hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol ragweithiol ddwyieithog ar gyfer mentrau Ymgysylltu â'r Cyflogai, Buddsoddwyr mewn Pobl a Datblygiadau Sefydliadol eraill.
Bydd gennych rôl allweddol yn darparu trefniadau sefydlu mewnol a chyfleoedd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chefnogi'r dasg o sicrhau bod gennym ddiwylliant dysgu cynhwysol.
Amdanoch chi:
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi'n hyderus wrth gyfathrebu ac yn meddu ar sgiliau cynllunio a threfnu cryf. Bydd y gallu gennych i weithio ac i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn deall pwysigrwydd Dysgu a Datblygu ac yn gallu dangos profiad o weithio mewn tîm sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Ein Buddion:
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol), gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn cystadleuol a nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd.
I gael gwybod mwy am y rôl, neu am weithio gyda ni, peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag Elizabeth East (hi) ([email protected]), a fydd yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 22 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £27,639 - £29,445
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn siroedd Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Mynwy a Thorfaen. Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, y Gweithle a’r teulu (Cymraeg yn y Cartref). Yn ogystal, mae gan Dysgu Cymraeg Gwent raglen eang o weithgareddau cefnogi dysgwyr i atgyfnerthu'r broses ddysgu.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent am benodi Cydlynydd Datblygu a Chymorth Casnewydd a Mynwy, a fydd yn parhau i ddatblygu a gwella'i darpariaeth yn bellach. Prif gyfrifoldebau’r swydd fydd trefnu a monitro cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y ddwy ardal hon.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o faes Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys profiad llwyddiannus o drefnu darpariaeth yn ogystal â phrofiad o ddysgu Cymraeg. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu trefnu a datblygu cyrsiau newydd, dysgu i safon uchel, blaenoriaethu gwaith a gweithio'n dda fel rhan o dîm sy'n arwain a threfnu darpariaeth allweddol.
Swydd llawn amser yw hon, ac fe'i lleolir yn swyddfeydd Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu a sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Sylwch y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg a hefyd gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau fel ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £30,014 - £32,843
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aelod
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn edrych am Aelod
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Disgrifiad:
Y Rhaglen Adolygu
Bydd yr Aelodau yn:
Datblygu’r Polisi ac Ymarfer a’r Fethodoleg Maint Cynghorau ar gyfer y Rhaglen Adolygu Etholiadol nesaf, gan adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o'r rhaglen flaenorol a chomisiynu ymchwil ar faterion penodol.
Sicrhau bod ymgynghori eang â Llywodraeth Cymru, cynghorau sir a bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a thref, a'r holl randdeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon.
Asesu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer nifer cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, gan ystyried cymhlethdodau ac, yn aml ffactorau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd, o ran demograffeg a seilwaith yr ardal sy'n cael ei hadolygu, ac ystod eang o safbwyntiau a geir yn adborth drwy ymgynghori.
Gweithredu ar y cyd i wneud penderfyniadau drafft a therfynol ar adolygiadau etholiadol unigol.
Gweithio gyda phrif gynghorau i sicrhau bod ffiniau cymunedau a threfniadau etholiadol yn cael eu hadolygu a'u cydgysylltu'n rheolaidd â'r rhaglen o adolygiadau etholiadol.
Gweithredu ar y cyd i wneud gorchmynion ar adolygiadau cymunedol unigol.
Bod yn ymwybodol, bob amser, o'r risgiau, o ran enw da a materion eraill, sy'n gysylltiedig â'r adolygiadau, a'r canlyniadau posibl i'r Comisiwn, ei aelodau a Llywodraeth Cymru.
Rhoi cymorth a rheolaeth i'r Comisiwn wrth iddo fabwysiadu methodoleg newydd i gynnal adolygiadau etholiadol ac ehangu ei gylch gwaith i wneud gwaith Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
**Comisiynydd Arweiniol **
Mae pob Aelod yn gyfrifol am oruchwylio nifer o adolygiadau etholiadol penodol fel Comisiynydd Arweiniol. Wrth gyflawni'r rôl hon bydd aelod yn:
Arwain cyflwyniadau ac annerch cyfarfodydd ymgysylltu â chynghorau sir a bwrdeistref sirol gan gynnwys yr arweinydd, aelodau cabinet, cynghorwyr wardiau, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, ac uwch-swyddogion cynghorau; cynghorwyr a chlercod cynghorau cymuned a thref; y cyhoedd a grwpiau eraill a fydd â diddordeb yn yr adolygiad.
Ymweld â'r ardal leol sy'n cael ei hadolygu.
Cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu e.e. gweithdai, seminarau.
Asesu ystod gychwynnol o opsiynau ar gyfer nifer y cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli.
Cynnig yr opsiynau a ffefrir a'r rhesymau dros y penderfyniadau hynny i'r Comisiwn.
Goruchwylio'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol.
Llywodraethiant Corfforaethol
Rhaid i’r Aelodau hefyd:
Sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn atebol.
Monitro'r gyllideb yn fisol (£1,205,000 yn 2022/23). Mae hyn yn cynnwys cyllideb yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru (sy'n ymwneud ag adolygiadau seneddol).
Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithio yn unol â deddfwriaeth, ei gynlluniau, ei weithdrefnau a'i bolisïau a bod y rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
Bod yn ymwybodol o nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru a sicrhau bod ei hegwyddorion o ran datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r Gymraeg yn rhan annatod o waith y Comisiwn.
Darparu arweiniad a ffocws i'r sefydliad wrth iddo wireddu ei amcanion a chyflawni ei ddyletswyddau a sicrhau bod Llythyr Cylch Gwaith y Gweinidog yn cael ei gyflawni.
Cefnogi'r Prif Weithredwr mewn perthynas â materion adnoddau dynol, gan sicrhau bod sgiliau'r staff yn cael eu datblygu a'u cynnal.
Gweithio'n agos fel tîm o Gomisiynwyr a chyda'r staff.
Ymgysylltu'n gyson â rhanddeiliaid i gynnal yr enw da am ragoriaeth.
Yn ogystal, efallai y bydd Aelod yn ymuno â'r Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg neu Is-bwyllgor y Gweithlu, a byddai hynny’n cynnwys ymrwymiad pellach o ran amser.
Cyflog
💰 £198 am ddiwrnod llawn, £99 am hanner diwrnod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Disgrifiad:
Rhif y swydd: 15553BR
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol i gynorthwyo'r darpariaeth o fewn Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys materion logisteg, megis cyflenwi a lleoliadau, gweinyddu prosesau ariannol, anfonebau, derbyn nwyddau ac yn y blaen, a chynorthwyo'r Swyddog Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a thymor penodol hyd at 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £21,197 – £23,144 y flwyddyn (Gradd 3)
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 22 Ionawr 2023
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 – £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Meithrinfa Plas Pawb
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Reolwr Meithrinfa Plas Pawb
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Cyfrifoldeb am sicrhau bod meithrinfa Plas Pawb yn darparu gwasanaeth gofal plant a’r addysg o’r safon uchaf gan ddatblygu’r gweithgareddau ar gyfleusterau i’w llawn botensial er lles y plant.
Disgrifiad:
Rheolwr Meithrinfa Plas Pawb
CYFLOG: £30,151 - £32,020
LLEOLIAD: CAERNARFON
CYF: 22-23534-H2
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cyfrifoldeb am sicrhau bod meithrinfa Plas Pawb yn darparu gwasanaeth gofal plant a’r addysg o’r safon uchaf gan ddatblygu’r gweithgareddau ar gyfleusterau i’w llawn botensial er lles y plant.
• Gweithredu fel Is Rheolwr Safle gan sicrhau cydymffurfiaeth i drefniadau Iechyd a Diogelwch.
• Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer.
• Staff y feithrinfa (fyny i 25 aelod o staff).
• Cyllid gan gynnwys arian man.
• Offer y feithrinfa.
• Cerbydau Plas Pawb.
• Staff Achlysurol – Chwarae.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Swydd dros dro yw hon am gyfnod o 2 flynedd. Ystyrir secondiad ar gyfer y swydd yma.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Owen ar (01286) 678824 [email protected]
Dyddiad cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076
eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 19/01/2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Prosiectau Economaidd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Datblygu Prosiectau Economaidd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Cynorthwyo’r Rheolwr Rhaglen Swyddi Gwerth Uchel a Parth Menter Eryri i ddenu swyddi o ansawdd i Wynedd, trwy gefnogi datblygiadau economaidd mawrion, cefnogi mewnfuddsoddiadau o bob maint ac annog busnesau cynhenid i dyfu ac ychwanegu gwerth i’w gweithgaredd.
Disgrifiad:
Swyddog Datblygu Prosiectau Economaidd – GWASANAETH Rhaglenni Datblygu Economaidd
CYFLOG: Gradda S2 (18-22) £27,344 – 29,439
LLEOLIAD: Pencadlys, Caernarfon
Ref:22-23569
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Rhaglen Swyddi Gwerth Uchel a Parth Menter Eryri i ddenu swyddi o ansawdd i Wynedd, trwy gefnogi datblygiadau economaidd mawrion, cefnogi mewnfuddsoddiadau o bob maint ac annog busnesau cynhenid i dyfu ac ychwanegu gwerth i’w gweithgaredd.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Rhaglen Swyddi Gwerth Uchel a Parth Menter Eryri i adnabod anghenion sgiliau datblygiadau economaidd gwerth uchel, a chyfathrebu’r rhain i weithwyr presennol, a gweithwyr y dyfodol.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Rhaglen Swyddi Gwerth Uchel a Parth Menter Eryri i helpu busnesau i adfer, addasu a gwella yn dilyn pandemig Covid, a materion eraill sydd wedi ansefydlogi’r economi.
• Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer TG, offer arddangos Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Nia Swann Bowden ar 01286 679 774
Cynnal cyfweliadau ar y 24ain o Ionawr, 2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 19 IONAWR, 2023.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £27,344 – 29,439
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol dwyieithog i chwarae rhan ganolog mewn cefnogi ein cydweithwyr Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau a Digwyddiadau i gyflawni gweithgarwch allanol a mewnol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i adeiladu ymgyrchoedd wedi'u halinio ar gyfer y gwahanol sianeli, gan sicrhau bod cynnwys yn cael ei deilwra i fodloni gofynion allweddol y gynulleidfa er mwyn cynyddu ymgysylltiad a chodi enw da Met Caerdydd. Agwedd hanfodol o’r rôl fydd i reoli gwybodaeth gyhoeddus y Brifysgol, cysylltiadau â'r cyfryngau ac anghenion ysgrifennu copi yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn ogystal, fel ein Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol byddwch hefyd yn:
- Sicrhau bod negeseuon allanol yn gyson ac yn gywir gan cynnwys cydlynu cynnwys dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
- Rheoli'r cynnwys cysylltiedig corfforaethol ar sianeli Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd a gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i alinio cynnwys â'r cynlluniau cyffredinol a grëwyd gan y tîm Brand a Chynnwys.
- Sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno mewn tôn llais cyson a phroffesiynol.
- Gweithio'n agos gyda staff ar draws y Brifysgol i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu beirniadol ac ysgrifennu a dosbarthu straeon newyddion, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau, darnau barn ac ati.
- Cefnogi'r tîm Rhanddeiliaid i reoli cyfathrebiadau staff a myfyrwyr gan gynnwys cynhyrchu ac ysgrifennu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer cylchlythyrau e-bost, llwyfannau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol ac arddangosfeydd ar y campws.
- Cefnogi'r tîm Digwyddiadau Corfforaethol yn enwedig wrth greu, golygu, adolygu'r holl gyfathrebu cysylltiedig.
- Cydweithio â Swyddogion Marchnata Ysgolion i gefnogi cynlluniau marchnata a chynorthwyo recriwtio myfyrwyr. **Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu **
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r allu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad profedig wrth reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Profiad helaeth o ddatblygu, ysgrifennu a golygu cyfathrebiadau deniadol o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd a sianeli.
- Profiad o feithrin perthnasoedd rhanddeiliaid effeithiol gyda gallu profedig i drafod, darbwyllo a dylanwadu'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion strategol.
- Gallu datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu rhagweithiol a weithio yn unol â chanllawiau brand.
- Y gallu i greu cynnwys amlgyfrwng gyda sgiliau TG cryf gan gynnwys yn benodol y defnydd o Microsoft Teams, rheoli cynnwys, prosesu geiriau, taenlenni, e-bost, a golygu delweddau.
- Y gallu i drin gwybodaeth sensitif gyda phwyll a thringarwch ac i gysylltu'n hyderus â chydweithwyr ar bob lefel y tu mewn a'r tu allan i'r brifysgol.
- Wedi cymhwyso i lefel gradd neu gyfwerth mewn maes sy’n gysylltiedig â chyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus/marchnata. Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydyn ni'n falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig i'n gilydd, ac yn un tîm; ni yw Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
- Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
- Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â therapi cyflenwol.
- Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
- Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro ar [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £32,348 - £35,333
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn edrych am Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol ar gyfer unigolyn sy’n mwynhau’r cyfle i ddatblygu a chynnal perthynas waith ragorol gyda phobl hyn a rhanddeiliaid allweddol.
Byddwch yn ymwneud â meysydd polisi sy’n gysylltiedig â’r wyth maes sy’n ystyriol o oedran ac yn defnyddio eich sgiliau dylanwadu i annog a galluogi rhanddeiliaid i rannu arfer da. Mae gallu cyfathrebu’n fedrus yn y Gymraeg yn hanfodol.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Am ragor o wybodaeth a manylion ymgeisio, ewch i'n gwefan. Dyddiad Cau: Dydd Llun 30 Ionawr 4.00y.p
Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar Dydd Mercher 15 Chwefror.
I wneud cais am rôl yr Arweinydd Polisi ac Ymarfer, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £41,704 - £47,840
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau Marchnata a Denu Myfyrwyr
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau Marchnata a Denu Myfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau yn atebol i’r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau, a’i waith fydd datblygu ac arwain ar Farchnata Trosi Ceisiadau a Throsi Ysgoloriaethau ar gyfer y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau.
Mae'r tîm Marchnata Trosi Ceisiadau yn gyfrifol am yr holl weithgareddau trosi, gan feithrin ein myfyrwyr o'r cyfnod ymgeisio hyd at y cyfnod cofrestru, a hynny gan ddefnyddio system gyfathrebu integredig sy’n defnyddio sawl cyfrwng. Mae’r tîm yn gyfrifol hefyd am y gwaith arwain strategol ar y system newydd i reoli cysylltiadau â chwsmeriaid (CRM) sy’n cael ei datblygu yn yr adran Marchnata a Denu Myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu’n weithredol at arwain prosiectau o fewn y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau trwy ddefnyddio dulliau marchnata traddodiadol a digidol ar gyfer pob lefel o recriwtio (Israddedig ac Uwchraddedig) ym mhob marchnad (Y DU ac yn Rhyngwladol).
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Sulwen Richards, Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau [email protected].
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Marchnata
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n dda efo geiriau, yn hyderus efo’ch hiwmor ac yn angerddol am ardal Caernarfon a gogledd orllewin Cymru?
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Marchnata i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni.
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am berson deinamig i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i arwain ar waith cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni. Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Creu a gweithredu strategaeth farchnata ar gyfer Galeri a Cei Llechi
• Creu a dogfennu ymgyrchoedd marchnata a chydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd apersonnel Dylunio a Digidol i weithredu ymgyrchoedd a hyrwyddiadau marchnata digidol
• Cydlynu cyllideb marchnata’r cwmni
• Cysylltu â chwmnïau sy'n ymweld â'r ganolfan / dosbarthwyr ffilm / artistiaid parthed eu gofynion nhw o ran cyhoeddusrwydd a marchnata
• Gweithredu systemau cyfathrebu mewnol effeithiol gyda chyd-weithwyr, y bwrdd a chwmniau preswyl
• Arwain ar y gwaith o weithdredu systemau cyfathrebu allanol gyda chwsmeriaid
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddil y Tîm Creadigol ar brosiectau creadigol a masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd cyfredol a newydd, a thargedu cynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau penodol
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm
• Cydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a gweddill y Tîm Creadigol wrth ysgrifennu copi dwyieithog, golygu a phrwffio ar gyfer amryw o blatfformau, yn cynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol Galeri a Cei Llechi, datganiadau i’r wasg a phecynnau gwybodaeth
• Cydweithio gyda’r personnel Dylunio a Digidol i gynhyrchu deunydd print a chyhoeddusrwydd
• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen• Monitro gwerthiant tocynnau a gweithredu ar hyn fel bo’r angen Creu, monitro ac ymateb i adroddiadau ariannwyr gan gydweithio efo’r Cyfarwyddwr Creadigol, y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Cydlynydd Rhaglen Greadigol
• Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus
• Ysgrifennu ceisiadau am wobrau
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (llunio adroddiadau, creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau ac ymgyrchoedd
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cynhyrchu Cwmni
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cwmni profiadol i ymuno â’r tîm.
Os oes gennych chi brofiad proffesiynol mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol a’r gallu i arwain tîm ac ysgogi eraill, efallai dyma’r rôl i chi.
Mae swydd y Rheolwr Cynhyrchu Cwmni yn un newydd i’r Adran Gynhyrchu, ac wedi ei chreu er mwyn cefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu gyda chyfrifoldebau gweithredol yr adran ac i sicrhau fod cynyrchiadau’r cwmni o safon cynhyrchu uchel. Bydd y person yn y swydd hon yn arwain ar yr ochr gynhyrchu o’n cynyrchiadau yn ystod cyfnodau ymarfer a chyfnod perfformio, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau eraill y cwmni. Ry’n ni hefyd yn recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd ar hyn o bryd, felly mae’n gyfnod cyffrous i’r Adran Gynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, y cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £35,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cynhyrchu
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Bennaeth Cynhyrchu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Bennaeth Cynhyrchu i ymuno â’r tîm.
Oes gennych chi wybodaeth eang am gynhyrchu, rheoli llwyfan, ac agweddau technegol, yn ogystal â phrofiad o sicrhau safonau iechyd a diogelwch uchel o fewn amgylchedd theatr? Efallai dyma’r swydd i chi.
Mae’r Pennaeth Cynhyrchu yn cefnogi’r gwaith o greu a chyflwyno theatr wych ac yn gyfrifol am oruchwylio llwyfannu llwyddiannus ein cynyrchiadau ar daith, a chefnogi prosiectau eraill y cwmni. Yn ogystal â recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd, ry’n ni hefyd yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni i gynyddu capasiti Adran Gynhyrchu’r cwmni. Bydd cyfle felly i’r Pennaeth Cynhyrchu newydd ffocysu ar faterion mwy strategol. Bydd datblygu sgiliau yn y maes ac adnabod cyfleoedd hyfforddi i ehangu’r gweithlu hefyd yn flaenoriaeth i’r Pennaeth Cynhyrchu, wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r prinder technegwyr a phobl sydd â sgiliau rheoli llwyfan a rheoli cynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd - neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £40,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Rhaglen Greadigol
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Rhaglen Greadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau?
Oes gennych chi syniadau am ddigwyddiadau byw sydd angen eu clywed?
Mae GALERI, Caernarfon yn chwilio am Gydlynydd Rhaglen Greadigol i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i gydlynu a chyflwyno rhaglen artistig amrywiol a byrlymus.
Disgrifiad:
Mae hi’n gyfnod gyffrous yn hanes y cwmni, ac rydym yn edrych i ddatblygu cyfleoedd newydd a lledaenu’n cyrhaeddiad. Ein bwriad felly yw i ehangu’r Tîm Creadigol i gynyddu ein hallbynnau a gwneud y mwyaf o bob cyfle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau byw - boed yn gerddoriaeth, drama, sgyrsiau, dawns neu unrhyw beth arall, rydym yn awyddus i glywed gennych!
Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda’r Tîm Creadigol a Phenaethiaid Adrannau i gynnal a chefnogi systemau gweinyddol gan gynnwys casglu gwybodaeth cytundebu, cyllido, cyd-arwain prosiectau a chyfathrebu mewnol sy'n drawsadrannol
• Cydlynu trawsadrannol gan gynnwys cynnal cyfarfodydd, rheoli dyddiadur a chydweithio gyda’r Tîm Creadigol i greu adroddiadau adrannol
• Cefnogi'r Cyfarwyddwr Creadigol trwy gynnal systemau gweinyddol a darparu cymorth megis ymchwil, prawfddarllen, nodiadau briffio, trefnu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol a datblygu cyflwyniadau
• Casglu gwybodaeth am gynigion prosiectau a mentrau creadigol a anfonwyd at y Cyfarwyddwr Creadigol, cadw ar ben tueddiadau cyfredol ac ymgymryd â thasgau penodol wrth gwmpasu prosiectau a gynhwysir yn y rhaglen megis ymweliadau safle, teithiau, gweithdai, coladu gwybodaeth dechnegol, casglu adborth a chwmpasu cyllidebau
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Marchnata i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Ymateb i ymholiadau am y rhaglen yn ôl yr angen a mynychu digwyddiadau allweddol yn yr ardal ar ran y Tîm Creadigol, gan gynrychioli Galeri
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol i raglennu’r sinema
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Cyd-ddatblygu prosiectau masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd, megis cynllun cyfeillion
• Helpu i sefydlu Galeri fel ychwanegiad dymunol at y gylchdaith ar gyfer darparwyr a pherfformwyr perthnasol
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwyr
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry'n ni'n chwilio am aelodau newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am ddau Ymddiriedolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon a llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau.
Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
Cyllid
Theatr, fel ffurf artistig
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y manylion cyswllt uchod.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru diddordeb ar gael yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cadeirydd
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am Gadeirydd sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i'r cwmni’n gyffredinol wrth i ni geisio cyflawni’r weledigaeth hon.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n gallu llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Mae bod yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Gadeirydd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Gadeirydd, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ar y manylion cyswllt uchod.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!