Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.
O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.
Disgrifiad:
Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 9 mis
Cyfnod prawf: 4 mis
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn siroedd Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Mynwy a Thorfaen. Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, y Gweithle a’r teulu (Cymraeg yn y Cartref). Yn ogystal, mae gan Dysgu Cymraeg Gwent raglen eang o weithgareddau cefnogi dysgwyr i atgyfnerthu'r broses ddysgu.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent am benodi Cydlynydd Datblygu a Chymorth Casnewydd a Mynwy, a fydd yn parhau i ddatblygu a gwella'i darpariaeth yn bellach. Prif gyfrifoldebau’r swydd fydd trefnu a monitro cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y ddwy ardal hon.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o faes Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys profiad llwyddiannus o drefnu darpariaeth yn ogystal â phrofiad o ddysgu Cymraeg. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu trefnu a datblygu cyrsiau newydd, dysgu i safon uchel, blaenoriaethu gwaith a gweithio'n dda fel rhan o dîm sy'n arwain a threfnu darpariaeth allweddol.
Swydd llawn amser yw hon, ac fe'i lleolir yn swyddfeydd Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu a sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Sylwch y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg a hefyd gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau fel ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £30,014 - £32,843
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddydd AD
Mae Boom Cymru yn edrych am Weinyddydd AD
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda phencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg sy’n symud yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddydd AD i gefnogi ein Rheolydd AD. Bydd y person yn y rôl yma yn gyfrifol am lunio cytundebau (yn y Gymraeg a'r Saesneg) i staff a gweithwyr llawrydd, yn helpu staff newydd i gynefino ac yn gweinyddu hyfforddiant. Bydd hefyd yn helpu i gynnal y gwiriadau a chynnal y cofnodion sydd eu hangen ar swyddfa AD brysur yn gywir yn ogystal ag ymgymryd â llawer o ddyletswyddau gweinyddol a chymorth AD cyffredinol eraill.
Mae hwn yn gyfle cyffrous, yn enwedig i rywun sy'n chwilio am yrfa mewn AD. Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu, gweinyddol a TG profedig gyda llygad am fanylyn. Rhaid iddynt allu cyfathrebu’n gryf, bod yn rhagweithiol a meddu ar allu profedig i gyflawni o fewn terfynau amser.
Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr eglurhaol a disgwyliadau cyflog i [email protected] erbyn 13eg o Ionawr 2023.
Cytundeb – 12 mis
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).
Cyflog
💰 Dibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar. Prif waith y Swyddog Cyllid fydd arwain a bod yn gyfrifol am faterion cyllid yr undeb o ddydd i ddydd.
Trosolwg o’r rôl
Mae’r Swyddog Cyllid yn gyfrifol am gynllunio, monitro a gweinyddu materion cyllid yr Undeb
Rheolwr Llinell: Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyllid
• Paratoi adroddiadau a rhagamcanion ariannol er mwyn caniatáu monitro a chynllunio ariannol effeithiol
• Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol i gyflwyno gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynghylch materion cyllid
• Paratoi adroddiadau a manylion ariannol ar gyfer yr Archwilwyr erbyn diwedd Ionawr yn flynyddol, a mynychu cyfarfodydd gyda’r Archwilwyr
• Codi anfonebau, derbynebau ac ymdrin â biliau perthnasol gan gynnwys costau teithio
• Gwirio, codio a chofnodi taliadau / symudiadau (transactions) ariannol yr undeb o ddydd i ddydd
• Prosesu a gwirio debyd uniongyrchol / Instruction Run
• Casglu taliadau aelodaeth trwy Debyd Uniongyrchol (BACS) yn fisol, prosesu negeseuon BACS (megis AUDDIS, ADDACS ac ARUDD)
• Talu cyflog a phensiwn staff ar ddiwedd bob mis trwy system BACS a’r meddalwedd perthnasol a chydweithio gyda chwmni allanol sy’n gweinyddu’r gyflogres i ddarparu gwybodaeth berthnasol
• Cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i weinyddu trefniadau yswiriant UCAC trwy ddarparu manylion perthnasol
• Gwneud taliadau achlysurol yn seiliedig ar benderfyniadau’r Gymhorthfa / Cynllun Digolledi
• Talu honoraria yn flynyddol i’r Llywydd Cenedlaethol a’r Trysorydd Cenedlaethol
Cyflog
💰 £28,876 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth GMC Cymru
Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Bennaeth GMC Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer meddygon yn y DU ac mae'n rheoleiddio yng nghyd-destun gweithlu gofal iechyd wedi'i globaleiddio, lle mae gweithlu meddygol y DU yn gynyddol ryngwladol ac amrywiol yn ethnig Mae'r GMC wedi ymrwymo i ddiogelu cleifion ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig trwy sicrhau safonau uchel o addysg ac ymarfer meddygol. Mae'n gwneud hyn trwy weithio gyda meddygon, adrannau iechyd llywodraeth, cyflogwyr, addysgwyr meddygol a grwpiau cleifion. Mae Pennaeth GMC Cymru yn rôl uwch hollbwysig ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol Gan adrodd i'n Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Swyddfeydd Cenedlaethol Cynorthwyol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol yn fewnol yn ogystal ag yn allanol i sicrhau darparu swyddogaethau statudol ac amcanion strategol GMC o fewn Cymru. Yn fewnol, bydd hyn yn golygu arwain ein swyddfa Cymru a sicrhau bod y gweithrediadau eang a ddarperir gan y tîm yn effeithlon ac effeithiol ym mhob maes, ynghyd â gweithio ar draws y GMC i addysgu, cynorthwyo a chydlynu ymdrechion i uchafu ein heffaith. Yn allanol, byddwch yn chwarae rhan arweiniol yn cynrychioli'r GMC mewn perthnasoedd i'r lefelau uchaf o'r sector iechyd a'r llywodraeth. Byddwch yn cyfrannu'n eang ar amrediad o feysydd polisi a darparu gwahanol. Byddwch yn darparu cymorth i ddarparwyr gofal iechyd ar draws y genedl ac yn cael y cyfle i ffurfio meddwl polisi yn unol a strategaeth GMC ehangach a'ch syniadau eich hun o ble gallwn gael effaith.
Bydd ein Pennaeth GMC Cymru yn dod â dealltwriaeth drwyadl o'r dirwedd, prosesau a blaenoriaethau gwleidyddol, gofal iechyd a pholisi yng Nghymru. Bydd ganddo/ganddi brofiad arweinyddiaeth wedi'i brofi mewn amgylchedd cymhleth sy'n cael ei graffu arno'n fawr, a hanes cryf o arwain a datblygu timau cynhwysol. Bydd yn arddangos y gallu i ymgysylltu ar lefel uwch gredadwy ac i adeiladu perthynas, gan ymgysylltu, dylanwadu a gweithio'n briodol gyda sefydliadau eraill, gan adeiladu consensws a gwneud penderfyniadau cadarn yn wyneb problemau cymhleth. Byddwch yn dod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn wleidyddol graff, â gallu adeiladu perthnasoedd a chyfathrebu neilltuol. Byddwch yn dod â'r mewnwelediad, gallu dadansoddol, gweledigaeth strategol a phenderfyniad i gyflawni pethau yn y rôl ddiddorol ac ymestynnol unigryw hon. Mae diwylliant mor hanfodol â gallu, a bydd ein pennaeth GMC Cymru yn gweithredu'n gwbl unol â'n hymddygiadau arweinyddiaeth, modelu rôl ac yn datblygu hyn yn ein tîm.
Mae'n sefydliad wedi'i adeiladu ar degwch ac ymddiriedaeth - ymddiriedaeth y cleifion a'r proffesiwn meddygol. Rydym yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac rydym yn croesawu persbectifau a syniadau newydd y gallech eu cyflwyno. Rydym wedi gosod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad wrth galon ein strategaeth gorfforaethol, fel rheoleiddiwr proffesiwn cynyddol amrywiol yn ogystal â fel sefydliad. Mae cynyddu amrywiaeth ein harweinyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol, ac anogir ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod, ac am sgwrs gyfrinachol galwch ein hymgynghorwyr cynghorol yn GatenbySanderson, Olivia Robinson neu Matt Malone ar 07964 826291.
Cyflog
💰 Deniadol
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn chwilio am Gyfieithydd.
Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) /Rhan amser (unai 22.5 neu 30 awr yr wythnos) parhaol.
Mae swydd llawn amser parhaol gyda ni. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan unigolion sydd yn edrych am waith cyfieithu yn rhan-amser neu i rannu swydd.
Rydym yn dymuno recriwtio cyfieithwyr i ymuno â Thîm Cyfieithu o fewn yr Uned Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Rydym yn dîm o ieithyddion a chyfieithwyr sy'n tyfu, er mwyn cefnogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a sefydliadau eraill GIG Cymru gyda gwasanaethau cyfieithu. Bydd y gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol, wrth i ni gyfieithu ystod eang o gynnwys yn amrywio o gynnwys tudalennau gwe, taflenni gwybodaeth i gleifion, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, swydd-ddisgrifiadau, polisïau, rhyngwynebau ar gyfer systemau a chymwysiadau a llawer mwy. Rhaid bod gennych brofiad sylweddol mewn cyfieithu a phrawfddarllen o'r Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb, yn ddelfrydol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid bod gennych feistrolaeth ardderchog ar ramadeg yn y ddwy iaith a bydd gennych radd yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill a/neu ieithyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog rhagorol, ac i'r ymgeisydd iawn sy'n gallu dangos bod ganddo'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol rydym yn gallu cynnig cyflog teg i adlewyrchu'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad hynny. Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu a chronfeydd termau, a byddwch yn gallu cyfieithu rhwng 2,500 a 3,500 o eiriau o leiaf mewn diwrnod gwaith, yn dibynnu ar gymhlethdod y dogfennau hynny. Mae gennym swyddfeydd ym Mhont-y-pwl, Caerdydd, Nantgarw, Abertawe, Caerfyrddin, Dinbych a Llanelwy. Rydym hefyd yn cynnig gweithio hybrid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ar ffurf ysgrifenedig o wahanol ddogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Saesneg, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Microsoft Word, PowerPoint, Excel, Outlook, In-design, gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu fel Memsource. Fel aelod o'r tîm, bydd y cyfieithydd yn cyfieithu ystod eang o ddogfennau diddorol, cymhleth, technegol, cyfrinachol a sensitif. Bydd y cyfieithydd hefyd yn gyfrifol am gyfieithu cyhoeddiadau, adroddiadau, polisïau, agendâu, cofnodion, papurau bwrdd, datganiadau i'r wasg, llythyrau, ffurflenni, papurau recriwtio a chynnwys gwe/cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Cyfieithu gwybodaeth, dogfennau a ffurflenni ar gyfer cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n gofyn am gywirdeb a'r defnydd o'r iaith, terminoleg, arddull a chystrawen fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r derbynwyr.
Prawf-ddarllen eich gwaith eich hun a gwaith aelodau eraill o'r tîm. Sicrhau bod cyfieithiadau'n bodloni ansawdd golygyddol. Dilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Uned y Gymraeg i ddarparu gwasanaethau cyfieithu prydlon a chywir o ansawdd uchel i'n cleientiaid o fewn GIG Cymru.
Paratoi pob dogfen cyn ei chyfieithu, gan sicrhau bod y ddogfen yn ramadegol gywir. Bydd hyn yn golygu cyfathrebu ag awdur y ddogfen er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r pwnc, e.e. polisïau a gweithdrefnau.
Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch gydag Oliver Owen (Rheolwr Cyfieithu) am fwy o wybodaeth: [email protected]
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol am benodi Swyddog Cyfathrebu (Cymraeg yn hanfodol) i gefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata’r coleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf, a’r gallu i droi gwybodaeth gymhleth yn gopi diddorol a chreadigol o safon uchel. Byddai profiad o greu cynnwys digidol a fideo i'w ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol a sianeli’r we o fantais.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu’n cefnogi gweithgareddau marchnata a chyfathrebu ysgolion academaidd penodol y coleg ac yn gweithio’n ddwyieithog. Byddant yn mynd ati i wella sut mae’r ysgolion academaidd yn cyflwyno eu hunain i’r byd allanol, ynghyd â chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r ysgolion academaidd i sicrhau bod eu hunaniaeth, eu gwerthoedd a'u gweledigaeth yn cael eu cyfleu mewn gwahanol ddeunyddiau. Bydd llawer o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu sy'n ymwneud â recriwtio myfyrwyr a throsi ceisiadau, yn ogystal ag arddangos a dathlu ymchwil.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys perthnasol ar gyfer ystod o brosiectau digidol ac argraffedig. Byddant yn cydweithio yn yr ysgolion academaidd ac adran cyfathrebu ganolog y brifysgol, yn ogystal â chydweithwyr ar draws timau’r coleg ar gyfer y we, marchnata a chyfathrebu.
Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r coleg yn gymuned fywiog, amrywiol ac ysbrydoledig. Mae’r coleg yn cynnwys deg ysgol academaidd, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg, ac rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil.
O fusnes i’r gyfraith a cherddoriaeth i newyddiaduraeth, mae gennym allu deallusol a gydnabyddir yn rhyngwladol i ystyried y cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol allweddol wrth astudio’r economi, gwleidyddiaeth a chymdeithas.
Cewch ragor o wybodaeth am y swydd hon drwy gysylltu â Rhys Phillips, Rheolwr Cyfathrebu, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ([email protected]).
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) ac mae’n benagored.
Cyflog: £28,762 hyd at £33,314 y flwyddyn (Gradd 5)
Polisi’r brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol ym Manyleb yr Unigolyn (a'r Meini Prawf Dymunol os yw'n berthnasol), gan ddefnyddio'r drefn/rhifo fel y maent yn ymddangos ar ffurf datganiad ategol. Cadwch fel 'Datganiad Name_XXXXXBR_Supporting' wrth lanlwytho eich atodiad fel y gellir ei adnabod yn hawdd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 13 Ionawr 2023 Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £28,762 - £33,314
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfle arlwyo ym Mwthyn Ogwen
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Cyfle arlwyo ym Mwthyn Ogwen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arbenigwr arlwyo ar gyfer canolfan breswyl Bwthyn Ogwen ger Bethesda. Bydd y contractwr llwyddiannus yn darparu ar gyfer grwpiau o bobl ifanc sy'n aros yn y ganolfan i brofi'r dirwedd naturiol leol gyda'r Outward Bound Trust. Mae hwn fel arfer yn weithrediad o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag archebion trwy gydol y flwyddyn.
Datganiadau o ddiddordeb erbyn 30 Rhagfyr.
Cysylltwch
Datganiadau o Ddiddordeb ac ymholiadau drwy gysylltu a Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol a Joanne Bewley, Cydlynudd Cyfleusterau;
· [email protected] neu 07779 222180
· [email protected] neu 07890 898113
Amserlen: Datganiadau Diddordeb inni cyn gynted a bo modd, ond ddim hwyrach na 30ain o Ragfyr.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cywain, rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg i ymuno â ni. Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig. Bydd y swydd wedi ei rhannu ar gyfartaledd 90% ar brosiect Cywain, a 10% ar waith corfforaethol Menter a Busnes.
Disgrifiad:
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd **Nod y Rôl **
● Arwain ar ddatblygu briffiau dylunio a chefnogi’r Arweinydd Marchnata a Digwyddiadau a staff eraill y prosiect gyda datrysiadau a chysyniadau creadigol yn ôl yr angen ar gyfer ystod gwahanol o ofynion prosiect a chwmni, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddiadau, adroddiadau, stondinau arddangos, cynnwys marchnata sy’n wynebu’r defnyddwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
● Arwain a rheoli gwaith dylunio a phrosiectau ei hun, gan weithio’n agos gyda’r rheolwr llinell i sicrhau fod prosiectau ar y trywydd iawn ac o fewn y gyllideb a’n alinio gyda gweithgareddau eraill y tîm marchnata
● Creu dogfennau ac ymateb i ofynion eraill Menter a Busnes yn ôl y galw Prif Ddyletswyddau
● Amrediad llawn o wasanaethau dylunio graffeg i Cywain, gan gynnwys creu cysyniadau, graffeg a chynlluniau ar gyfer yr arddangosfeydd a chyhoeddiadau trosglwyddo gwybodaeth
● Aelod canolog yn y tîm marchnata a digwyddiadau gan gymryd rôl ragweithiol wrth reoli ystod o brosiectau dylunio ac arwain ar gynhyrchu gofynion digidol a chynnwys creadigol y cwmni
● Creu a rheoli gwaith dylunio ar gyfer ei argraffu, y we a’r cyfryngau hyrwyddo electronig a sioeau byw, digwyddiadau ac arddangosfeydd
● Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata ac aelodau eraill y tîm i ddatblygu syniadau creadigol, i ffurfio briffiau dylunio a chwblhau prosiectau dylunio o’r dechrau hyd y diwedd
● Helpu i hybu brand Cywain a Menter a Busnes drwy gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol
● Defnyddio technegau creadigol ac arloesol i gyrraedd cynulleidfa eang i hyrwyddo’r gwaith
● Gwerthuso gofynion dylunio’r prosiect ac awgrymu’r fformat / opsiynau gorau sydd ar gael o fewn yr amser
● Rheoli’r berthynas gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr, yn arbennig cwmniau argraffu, datblygwyr ac ati i sicrhau gwerth am arian ac ansawdd uchel cyson
● Gweithio i amserlen y prosiect, sydd yn aml yn ddyddiadau tynn, gan sicrhau ansawdd a safon uchel
● Sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac arddangosfeydd sy’n wynebu’r cwsmer yn cwrdd â safonau brandio corfforaethol Llywodraeth Cymru
● Cyfrifoleb am ddatblygu a chynnal canllawiau brand Cywain, gan gynnwys cynorthwyo i sicrhau cysondeb brand ar draws oll brosiectau Cywain a gwaith dylunio allanol
● Cynorthwyo’r tîm ehangach i ddatblygu cynnwys creadigol a datrysiadau i broblemau a syniadau dylunio ac i weithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata, copi a chyfres o ddeunyddiau ar gyfer gweithgareddau ac ymgyrchoedd
● Hwyluso’r broses greadigol ar gyfer y gwahanol ffrydiau gwaith o fewn prosiect Cywain, prosiectau corfforaethol Menter a Busnes a gwaith dylunio prosiect eraill, gan gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau effeithiolrwydd o fewn y cwmni ac i sicrhau cysondeb brand Menter a Busnes ar draws y prosiectau a gwahanol adrannau
● Sicrhau fod y prosesau caffael cywir yn cael eu dilyn a bod anfonebau yn cael eu derbyn a’u prosesu yn amserol ar gyfer gwaith dylunio a gofynion creadigol fel ffotograffeg a fideograffeg brand **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a iechyd a diogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’n ofynnol
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Gradd mewn dylunio graffeg neu gymhwyster wedi’i seilio yn y gwaith neu brofiad cyfatebol
● Profiad o reoli a darparu atebion creadigol
● Agwedd ffres a phortffolio dylunio arloesol a chreadigol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector bwyd a diod
● Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys rheoli amser, ar gyfer yr holl ohebiaeth copi caled ac electronig
● Profiad o reoli ffeiliau gan gynnwys defnyddio meintiau a fformatau amrywiol
● Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) gwych i unigolion a grwpiau o amrywiol feintiau
● Profiad a gwybodaeth am holl Gyfres Greadigol Adobe - yn benodol Illustrator Photoshop ac InDesign
● Sgiliau rhyngbersonol gwych
● Gallu gweithio ar ei b/phen ei hun yn ogystal ag o fewn tîm
● Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithiol
● Agwedd hyblyg a’r gallu i weithio i amserlenni tynn
● Gallu cadw data’n gyfatebol â deddfau diogelu data perthnasol
● Gallu gweithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun i weithio, gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun
● Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Fwyd a’r cwmni
● Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
● Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod. Manteisiol
● Profiad o reoli perthynas â chwmnïau argraffu a chyflenwyr eraill
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (llafar ac ysgrifenedig)
● Gwybodaeth am raglen Cywain
● Car i’w ddefnyddio a pharodrwydd i deithio
● Profiad o ddylunio graffeg symud Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Alex James ar 07539 173 732. Cyfweliadau
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn rhithiol. Os yw’r dyddiad yma yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10yb, dydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd
Mae Llety Arall Cyf yn edrych am Gydlynydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i fenter gymunedol ac amgylcheddol glên sy'n hybu twristiaeth gynaliadwy, yr economi leol ac yn hyrwyddo chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Disgrifiad:
Menter gymunedol yw Llety Arall sy’n cynnig llety o safon, a gofod sy’n hybu a chefnogi gweithgareddau cymunedol. Ein gweledigaeth yw bod ymwelwyr yn cael profiad byw o’r iaith Gymraeg, o diwylliant a threftadaeth Caernarfon. Ers dechrau’r fenter, rydym wedi ceisio gweithredu mewn ffordd sy’n cynnwys pawb, a hefyd mynd ati weithredu mor wyrdd â phosib (drwy ailddefnyddio deunydd, ynni cynaliadwy) a thrwy brynu’n lleol.
Mae Llety Arall yn eiddo i’r gymuned, gyda dros 400 o bobl wedi buddsoddi yn y fenter. Caiff y fenter ei rheoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sy’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, ac is-bwyllgorau sy’n trafod cyllid, marchnata, yr adeilad a Lle Arall (y gofod cymunedol). Gwirfoddolwyr yw’r bobl yma sydd eisiau gweld Caernarfon yn cael ei gryfhau wrth i’r fenter weithredu er lles y gymuned. Yn yr un ysbryd, rydym eisiau rhoi ein ffydd yn ein staff a rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles y fenter, eu cydweithwyr a’u hunain.
Y swydd a’r person: Rydym yn awyddus i gyflogi Cydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i redeg y busnes o ddydd i ddydd. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, trefnus a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth llinell i staff glanhau.
Lleoliad: Caernarfon (gyda’r opsiwn o weithio o adref o bryd i’w gilydd os oes mynediad i fand llydan a’r opsiwn o weithio o’r adeilad).
Oriau: 37.5 awr (Oriau hyblyg sy’n cyd-fynd a gofynion tymhorol y gwaith). Gall oriau gwaith amrywio yn ôl prysurdeb tymhorol y llety, yn arbennig dros fisoedd yr haf. Bydd disgwyl i’r Cydlynydd fod yn hyblyg yn ôl gofynion y swydd, gyda’r ddealltwriaeth fod modd cymryd oriau ychwanegol yn ôl. Disgwylir i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd Bwrdd gyda’r nos (fel arfer 5:45pm-7:30pm).
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Meithrinfa Plas Pawb
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Reolwr Meithrinfa Plas Pawb
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Cyfrifoldeb am sicrhau bod meithrinfa Plas Pawb yn darparu gwasanaeth gofal plant a’r addysg o’r safon uchaf gan ddatblygu’r gweithgareddau ar gyfleusterau i’w llawn botensial er lles y plant. Gweithredu fel Is Rheolwr Safle gan sicrhau cydymffurfiaeth i drefniadau Iechyd a Diogelwch.
Disgrifiad:
RHEOLWR MEITHRINFA PLAS PAWB
CYFLOG: £30,151 - £32,020
LLEOLIAD: CAERNARFON
CYF: 22-23534
Pwrpas y Swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Cyfrifoldeb am sicrhau bod meithrinfa Plas Pawb yn darparu gwasanaeth gofal plant a’r addysg o’r safon uchaf gan ddatblygu’r gweithgareddau ar gyfleusterau i’w llawn botensial er lles y plant.
- Gweithredu fel Is Rheolwr Safle gan sicrhau cydymffurfiaeth i drefniadau Iechyd a Diogelwch. Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Swydd dros dro yw hon am gyfnod o 2 flynedd. Ystyrir secondiad ar gyfer y swydd yma.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Owen ar (01286) 678824 [email protected]
Dyddiad cynnal cyfweliadau 16/01/2023
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076
eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 5 IONAWR, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Graddfa gyflog: TS - £21,300 - £24,630
Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
2 x Parhaol, 1 x Cyfnod penodol 12 mis
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd. Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
**PRIF GYFRIFOLDEBAU **
Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)
1. Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
2. Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
3. Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
4. Manteisio ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
5. Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac awgrymu gwelliannau i’r prosesau os oes angen.
6. Defnyddio’r fframwaith cyfieithu allanol i gomisiynu gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfieithwyr allanol.
7. Cymryd rhan yn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)
Cefnogi’r busnes
1. Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
2. Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer cyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.
3. Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.
Mae angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn – mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbyseb ar wefan y Llywodraeth.
Dyddiad cau: 09/01/23 16:00
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Cymru, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyrwyddo Darllen
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Swyddog Hyrwyddo Darllen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chyfeillgar, gyda sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf, i ymuno â’r Adran Blant.
Disgrifiad:
Swyddog Hyrwyddo Darllen
Dwli ar lyfrau plant?
Chwilio am swydd sy’n llawn amrywiaeth a chreadigrwydd?
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chyfeillgar, gyda sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf, i ymuno â’r Adran Blant. Bydd y Swyddog Hyrwyddo yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau amrywiol ar gyfer annog darllen er pleser o fewn ysgolion a chartrefi. Mae’r swydd hon yn galw am unigolyn trefnus a chreadigol sy’n mwynhau gweithio’n agos ar draws adrannau amrywiol.
Y swydd:
Cyflog: £24,496–£28,371 (Band 4 – pwyntiau 12–20)
30 awr yr wythnos (dros 4 neu 5 diwrnod) – i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus
Dyddiad cychwyn: Chwefror 2023 – neu cyn gynted â phosibl
Ar gyfer gwneud cais, anfonwch CV a llythyr yn egluro pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd. Dylai eich CV nodi enwau a chyfeiriadau dau berson y gellir cysylltu â hwy am dystiolaeth bellach. Os yw’r ymgeisydd mewn swydd ar hyn o bryd, dylai’r cyflogwr presennol fod yn un o’r canolwyr.
Ceisiadau i’w cyflwyno erbyn dydd Llun, 16 Ionawr 2023, a dylid eu hanfon at:
Y Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB.
Ffôn: (01970) 629541, neu’n electronig at [email protected]
Cyflog
💰 £24,496 - £28,371
Lleoliad
📍 Hyblyg, Castell Brychan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru
Mae Cwmpas yn edrych am Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cwmpas yn credu y dylai ein heconomi a’n cymdeithas weithio’n wahanol, gan roi pobl a’r blaned yn gyntaf. Rydym yn asiantaeth gydweithredol a datblygu, yn gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol. Rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd i ymuno â’n tîm. Os oes gennych chi ddiddordeb, darllenwch ymlaen!
Disgrifiad:
Hyfforddwr - Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru Crynodeb o’r Prosiect: Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn rhaglen gynhwysiant digidol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yng Nghymru i ystyried sut i gynyddu cynhwysiant digidol i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu elwa o fod ar-lein. Fel rhaglen, rydym ni’n gweithio er mwyn sicrhau bod gan bawb y sgiliau, mynediad a’r cymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn hyderus. Byddwch yn rhan o dîm Cymru gyfan, gan weithio gyda chydweithwyr sy’n cyflawni ystod o gyfrifoldebau fel rhan o dîm darparu ehangach sy’n gweithio tuag at ddeilliannau penodol.
Crynodeb o’r swydd: Datblygu a darparu hyfforddiant a chymorth gyda’r nod o wella sgiliau, hyder a chymhelliant staff rheng flaen a gwirfoddolwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, er mwyn gwella lefelau sgiliau Digidol a Chynhwysiant yng Nghymru.
Cyflog cychwynnol: £25,013 - £29,793 y flwyddyn.
Contract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Bydd y swydd hon yn golygu teithio ledled Cymru a gweithio gartref. Bydd milltiroedd busnes yn cael eu had-dalu.
Dyddiad cau: 22:00, Dydd Sul, 8 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £25,013 - £29,793
Lleoliad
📍 O gartref, Teithio ledled Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth GMC Cymru
Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Bennaeth GMC Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer meddygon yn y DU ac mae'n rheoleiddio yng nghyd-destun gweithlu gofal iechyd wedi'i globaleiddio, lle mae gweithlu meddygol y DU yn gynyddol ryngwladol ac amrywiol yn ethnig Mae'r GMC wedi ymrwymo i ddiogelu cleifion ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig trwy sicrhau safonau uchel o addysg ac ymarfer meddygol. Mae'n gwneud hyn trwy weithio gyda meddygon, adrannau iechyd llywodraeth, cyflogwyr, addysgwyr meddygol a grwpiau cleifion. Mae Pennaeth GMC Cymru yn rôl uwch hollbwysig ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol Gan adrodd i'n Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Swyddfeydd Cenedlaethol Cynorthwyol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol yn fewnol yn ogystal ag yn allanol i sicrhau darparu swyddogaethau statudol ac amcanion strategol GMC o fewn Cymru. Yn fewnol, bydd hyn yn golygu arwain ein swyddfa Cymru a sicrhau bod y gweithrediadau eang a ddarperir gan y tîm yn effeithlon ac effeithiol ym mhob maes, ynghyd â gweithio ar draws y GMC i addysgu, cynorthwyo a chydlynu ymdrechion i uchafu ein heffaith. Yn allanol, byddwch yn chwarae rhan arweiniol yn cynrychioli'r GMC mewn perthnasoedd i'r lefelau uchaf o'r sector iechyd a'r llywodraeth. Byddwch yn cyfrannu'n eang ar amrediad o feysydd polisi a darparu gwahanol. Byddwch yn darparu cymorth i ddarparwyr gofal iechyd ar draws y genedl ac yn cael y cyfle i ffurfio meddwl polisi yn unol a strategaeth GMC ehangach a'ch syniadau eich hun o ble gallwn gael effaith.
Bydd ein Pennaeth GMC Cymru yn dod â dealltwriaeth drwyadl o'r dirwedd, prosesau a blaenoriaethau gwleidyddol, gofal iechyd a pholisi yng Nghymru. Bydd ganddo/ganddi brofiad arweinyddiaeth wedi'i brofi mewn amgylchedd cymhleth sy'n cael ei graffu arno'n fawr, a hanes cryf o arwain a datblygu timau cynhwysol. Bydd yn arddangos y gallu i ymgysylltu ar lefel uwch gredadwy ac i adeiladu perthynas, gan ymgysylltu, dylanwadu a gweithio'n briodol gyda sefydliadau eraill, gan adeiladu consensws a gwneud penderfyniadau cadarn yn wyneb problemau cymhleth. Byddwch yn dod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn wleidyddol graff, â gallu adeiladu perthnasoedd a chyfathrebu neilltuol. Byddwch yn dod â'r mewnwelediad, gallu dadansoddol, gweledigaeth strategol a phenderfyniad i gyflawni pethau yn y rôl ddiddorol ac ymestynnol unigryw hon. Mae diwylliant mor hanfodol â gallu, a bydd ein pennaeth GMC Cymru yn gweithredu'n gwbl unol â'n hymddygiadau arweinyddiaeth, modelu rôl ac yn datblygu hyn yn ein tîm.
Mae'n sefydliad wedi'i adeiladu ar degwch ac ymddiriedaeth - ymddiriedaeth y cleifion a'r proffesiwn meddygol. Rydym yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac rydym yn croesawu persbectifau a syniadau newydd y gallech eu cyflwyno. Rydym wedi gosod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad wrth galon ein strategaeth gorfforaethol, fel rheoleiddiwr proffesiwn cynyddol amrywiol yn ogystal â fel sefydliad. Mae cynyddu amrywiaeth ein harweinyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol, ac anogir ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod, ac am sgwrs gyfrinachol galwch ein hymgynghorwyr cynghorol yn GatenbySanderson, Olivia Robinson neu Matt Malone ar 07964 826291.
Cyflog
💰 Deniadol
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Am fwy o fanylion cysylltwch â Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 13 Ionawr 2023, 12:00yp
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £25,211 - £28,223
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd yn rhoi cefnogaeth weinyddol effeithiol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-radd, a gweithgareddau effaith ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus yn y coleg a'r ysgolion sy’n rhan o’r coleg.
Disgrifiad:
PRIFYSGOL BANGOR
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
CYF: BU02887
Cyflog: £24,285 - £27,131 y flwyddyn ar Raddfa 5
Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Cefnogaeth Academaidd (Ymchwil, Effaith a Datblygiad Proffesiynol Parhaus), sy’n swydd llawn amser parhaol yn gweithio yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y swydd yn rhoi cefnogaeth weinyddol effeithiol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-radd, a gweithgareddau effaith ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus yn y coleg a'r ysgolion sy’n rhan o’r coleg.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon lefel A neu NVQ Lefel III mewn maes pwnc perthnasol (neu gymhwyster cyfwerth); bod â phrofiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel ac ati). Mae angen sgiliau cyfathrebu a threfnu da, ynghyd â'r gallu i gofnodi data yn fanwl gywir. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn addysg uwch, yn enwedig mewn swydd weinyddol, yn fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sy’n rhesymol bosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu swydd. Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol am y swydd trwy gysylltu â Sian Peris Owen, Rheolwr y Coleg ar [email protected].
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Ionawr 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cynnwys a Chyhoeddi
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Reolwr Cynnwys a Chyhoeddi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Reolwr Cynnwys a Chyhoeddi i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £41,700 - £49,370
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (ynghyd â gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Dyma'r cyfle delfrydol i weithiwr marchnata proffesiynol dwyieithog wneud eu marc ar gyfathrebu'r sefydliad.
Y Rôl
Fel y Rheolwr Cynnwys a Chyhoeddi, byddwch yn goruchwylio arddull olygyddol, naws llais ac ansawdd ein sianeli cyfathrebu allanol a mewnol.
Fel rhan o'n tîm o storïwyr corfforaethol, byddwch yn dod â'n naratif yn fyw mewn ffyrdd sy'n atseinio gyda'n cynulleidfaoedd targed. Ac mae gennym lawer i’w drafod, gan gynnwys ailwampio’r cymwysterau TGAU yn sylweddol a fydd yn cael eu haddysgu o 2025.
Byddwch yn arwain datblygiad golygyddol a chyflwyno cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a chyhoeddiadau swyddogol eraill, gan sicrhau hygyrchedd i’n holl gynulleidfaoedd. Rhan allweddol o'r rôl yw ysgrifennu copi ac is-olygu cynnwys golygyddol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gan gefnogi'r Pennaeth Cyfathrebu yn ogystal â'r Tîm Cyfathrebu ehangach ar gysylltiadau â'r cyfryngau, cyfathrebu strategol, ymgyrchoedd a chreu cynnwys, byddwch hefyd yn dirprwyo'r Pennaeth Cyfathrebu.
Amdanat ti
I gael eich ystyried yn Rheolwr Cynnwys a Chyhoeddi, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cyhoeddi gan weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad golygyddol ac ysgrifennu copi profedig
- Profiad cryf o arwain a chyfathrebu
- Y gallu i ddarparu copi i ystod eang o gynulleidfaoedd gan gyfieithu materion technegol i Gymraeg a Saesneg clir
- Gwybodaeth am arfer gorau mewn cyhoeddi a datblygiadau diweddar mewn technoleg
- Gwybodaeth am arfer gorau o ran hygyrchedd wrth gynhyrchu cyhoeddiadau
- Sgiliau cyfathrebu hynod effeithiol
- Gradd neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Ionawr 2023.
Gallai sefydliadau eraill alw hwn yn Arweinydd Cynnwys a Chyhoeddi, Rheolwr Cynnwys Digidol, Rheolwr Golygyddol, Rheolwr Cyhoeddi neu Arweinydd Tîm Cynnwys a Chyhoeddi.
Felly, os ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa fel Rheolwr Cynnwys a Chyhoeddi, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £41,700 - £49,370
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Gweithrediadau
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Bennaeth Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd sy’n gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.
Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol.
Gan edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau.
Felly, mae Pennaeth Gweithrediadau yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain y Gymdeithas, gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, a gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr Digwyddiadau Anrhydeddus y Gymdeithas, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion a Phwyllgorau.
Cyfrifoldebau Allweddol
Bydd gan Bennaeth Gweithrediadau gyfrifoldeb am gynllunio, cydlynu, a chyflawni holl agweddau gweithredol ein digwyddiadau mewnol, yn cynnwys:
· paratoi Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau,
· caffael a rheoli contractau gwasanaethau allweddol a hurio yn cynnwys diogeledd, rheoli traffig, parcio, giatiau a mynedfeydd, pebyll, glanhau, rheoli gwastraff, cyfathrebu a system sain ayb.
· arolygu’r holl gystadlaethau da byw a goruchwylio’r Adran Dda Byw,
· arolygu a goruchwylio’r Adran Stondinau Masnach,
· diogelwch digwyddiadau a chyswllt â’n Cynghorydd Iechyd a Diogelwch,
· trwyddedu a chydymffurfiaeth,
· cynllunio at argyfyngau,
· rheolaeth llinell staff a gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, aelodau, pwyllgorau a grwpiau rhanddeiliaid allweddol.
Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu yn ôl y gofynion.
Pennaeth Gweithrediadau yw’r swyddog arweiniol sy’n gyfrifol am ddarparu’r Ffair Aeaf hefyd.
Mae hon yn swydd gyffrous ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.
Ynglŷn â Chi
Mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau pwysig ar gyfer y swydd. Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon.
Profiad
· Hanes o lwyddiant blaenorol yn rheoli digwyddiadau.
· Profiad o weithrediadau y gellir ei ddangos.
· Rheoli contractau a chyflenwyr.
· Gwybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoli risg.
· Cynhyrchu, rheoli a gwerthuso cyllidebau.
· Rheoli staff a gweithio fel tîm.
Sgiliau a gwybodaeth
· Llythrennedd TG rhagorol
· Yn dra threfnus.
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
· Sgiliau rheoli amser rhagorol, gallu i flaenoriaethu, gweithio dan bwysau ac amldasgio.
· Sgiliau cyflwyno rhagorol yn Saesneg (hanfodol) a Chymraeg (dymunol) – ar lafar ac yn ysgrifenedig.*
· Menter a chreadigrwydd.
· Sylw astud i fanylion.
· Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch a hyderus.
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones ([email protected]).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 3 Ionawr 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023.
Gweler manylion y pecyn buddion a’r telerau cyflogaeth cyffredinol yn y ddogfen ategol.
* Ystyrir sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad i’r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle.
Cyflog
💰 Tua £40,000
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt, Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Archif a Chyfleu
Mae S4C yn edrych am Swyddog Archif a Chyfleu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.
Cyflog: Yn unol a phrofiad.
Cytundeb: 12 mis cyfnod mamolaeth.
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Addysgwyr Carlam Cymru
Mae E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Addysgwyr Carlam Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a ddechreuwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 yw e-sgol, gyda’r nod o gynorthwyo ysgolion i gynnig ystod mor eang â phosibl o bynciau TGAU a Safon Uwch. Defnyddir dull hybrid i addysgu pynciau drwy e-sgol.
Ym mis Ionawr 2021, comisiynwyd e-sgol gan Lywodraeth Cymru i hwyluso a chynnal cyfres o sesiynau adolygu byw ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Dyna gychwyn y prosiect Carlam Cymru.
Mae sesiynau adolygu Carlam Cymru yn cefnogi myfyrwyr ledled Cymru ar draws ystod o bynciau craidd a di-graidd. Cynhelir y sesiynau hyn fel Digwyddiadau Byw ar ddyddiadau penodol ar ôl oriau ysgol, gyda phob sesiwn yn cael ei recordio. Caiff y recordiadau eu rhoi ar wefan e-sgol yn dilyn y digwyddiadau byw er mwyn darparu adnoddau adolygu i fyfyrwyr ledled Cymru.
Hyd yma, mae 4 rownd o sesiynau adolygu Carlam Cymru wedi’u darparu, sef Gwanwyn 2021, Hydref 2021, Gwanwyn 2022 a Hydref 2022. Bydd Carlam Cymru yn parhau yn ystod 2023 a’r tu hwnt i hynny.
Y rôl
Rydym yn edrych am athrawon brwdfrydig sy’n dysgu cyrsiau TGAU a/neu Safon Uwch yn eu hysgolion ar hyn o bryd, neu sydd wedi dysgu yn ddiweddar, a fyddai’n gallu cyflwyno sesiynau adolygu ar-lein yn hyderus.
Cyflog
💰 £28,866 - £44,450 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio o fewn ein Tîm Iaith Gymraeg ac i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Disgrifiad:
Mae deiliaid y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at wasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’n ofynnol i ddeiliaid y swydd:
1. Ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau sydd yn cael eu llunio gan Feysydd Gwasanaeth y Cyngor, a hynny ar gais y Cydlynydd Cyfieithu, gyda ffocws penodol i gefnogi prosesau democrataidd y Cyngor.
2. Darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i gyfarwyddiaethau.
3. Meithrn cysylltiadau da a sicrhau dulliau cyfathrebu da gyda chleientiaid.
4. Blaenoriaethu a rheoli beichiau gwaith mewn ffordd effeithiol er mwyn diwallu terfynau amser y cytunwyd arnynt.
5. Lle bo angen, cynnig arweiniad i Swyddogion ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth lunio dogfennau, a hynny‘n unol â canllawiau Comisiynydd Iaith Gymraeg.
6. Gweithio gyda Swyddogion perthnasol i gynnal Gwefan Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog yn unol â Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor.
7. Cynorthwyo’r Cydlynydd Cyfieithu gyda’r trefniadau gweinyddol sydd yn gysylltiedig â dogfennau pan fydd angen eu hanfon at gyfieithwyr allanol, pan fo hynny’n briodol.
8. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod beichiau gwaith, blaenoriaethau ac unrhyw faterion gweithredol eraill.
9. Darparu gwasanaethau prawf ddarllen ar gyfer cydweithwyr pan fydd angen.
10. Cynorthwyo’r Swyddog Iaith Gymraeg a’r Cydlynydd Cyfieithu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor, fel y bo angen
Cyflog
💰 £27,344 - £30,151
Lleoliad
📍 Hybrid, O gartref, Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym am benodi unigolyn blaengar ac uchel ei gymhelliant i ymuno a’r tim fel Cyfieithydd. Mae'r rôl yn amrywiol iawn ac yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol yn ogystal â sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Disgrifiad:
Gwasanaeth: Addysg
Lleoliad: Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
Gradd Gyflog: Lefel 7 Sir Ddinbych £29,439 - £32,020
Oriau: 37 awr yr wythnos
Parhaol
I gychwyn: 9 Ionawr 2023 neu cyn gynted a phosib Swydd Allanol
Cyflog
💰 £29,439 - £32,020
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!