Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd

Llety Arall Cyf

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

Mae Llety Arall Cyf yn edrych am Gydlynydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am gydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i fenter gymunedol ac amgylcheddol glên sy'n hybu twristiaeth gynaliadwy, yr economi leol ac yn hyrwyddo chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. 

Disgrifiad:

Menter gymunedol yw Llety Arall sy’n cynnig llety o safon, a gofod sy’n hybu a chefnogi gweithgareddau cymunedol. Ein gweledigaeth yw bod ymwelwyr yn cael profiad byw o’r iaith Gymraeg, o diwylliant a threftadaeth Caernarfon. Ers dechrau’r fenter, rydym wedi ceisio gweithredu mewn ffordd sy’n cynnwys pawb, a hefyd mynd ati weithredu mor wyrdd â phosib (drwy ailddefnyddio deunydd, ynni cynaliadwy) a thrwy brynu’n lleol. 

Mae Llety Arall yn eiddo i’r gymuned, gyda dros 400 o bobl wedi buddsoddi yn y fenter. Caiff y fenter ei rheoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sy’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, ac is-bwyllgorau sy’n trafod cyllid, marchnata, yr adeilad a Lle Arall (y gofod cymunedol). Gwirfoddolwyr yw’r bobl yma sydd eisiau gweld Caernarfon yn cael ei gryfhau wrth i’r fenter weithredu er lles y gymuned. Yn yr un ysbryd, rydym eisiau rhoi ein ffydd yn ein staff a rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles y fenter, eu cydweithwyr a’u hunain.

Y swydd a’r person: Rydym yn awyddus i gyflogi Cydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i redeg y busnes o ddydd i ddydd. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, trefnus a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth llinell i staff glanhau. 

Lleoliad: Caernarfon (gyda’r opsiwn o weithio o adref o bryd i’w gilydd os oes mynediad i fand llydan a’r opsiwn o weithio o’r adeilad).

Oriau: 37.5 awr (Oriau hyblyg sy’n cyd-fynd a gofynion tymhorol y gwaith). Gall oriau gwaith amrywio yn ôl prysurdeb tymhorol y llety, yn arbennig dros fisoedd yr haf. Bydd disgwyl i’r Cydlynydd fod yn hyblyg yn ôl gofynion y swydd, gyda’r ddealltwriaeth fod modd cymryd oriau ychwanegol yn ôl. Disgwylir i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd Bwrdd gyda’r nos (fel arfer 5:45pm-7:30pm).

Cyflog

💰 £25,000

Lleoliad

📍 Caernarfon, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau