Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cywain, rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg i ymuno â ni. Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.    Bydd y swydd wedi ei rhannu ar gyfartaledd 90% ar brosiect Cywain, a 10% ar waith corfforaethol Menter a Busnes.

Disgrifiad:

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.   Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid.   Mae tair elfen i’r prosiect: 

●   Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro 

●   Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru 

●   Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd    **Nod y Rôl **

●   Arwain ar ddatblygu briffiau dylunio a chefnogi’r Arweinydd Marchnata a Digwyddiadau a staff eraill y prosiect gyda datrysiadau a chysyniadau creadigol yn ôl yr angen ar gyfer ystod gwahanol o ofynion prosiect a chwmni, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddiadau, adroddiadau, stondinau arddangos, cynnwys marchnata sy’n wynebu’r defnyddwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol

●   Arwain a rheoli gwaith dylunio a phrosiectau ei hun, gan weithio’n agos gyda’r rheolwr llinell i sicrhau fod prosiectau ar y trywydd iawn ac o fewn y gyllideb a’n alinio gyda gweithgareddau eraill y tîm marchnata

●   Creu dogfennau ac ymateb i ofynion eraill Menter a Busnes yn ôl y galw   Prif Ddyletswyddau

●   Amrediad llawn o wasanaethau dylunio graffeg i Cywain, gan gynnwys creu cysyniadau, graffeg a chynlluniau ar gyfer yr arddangosfeydd a chyhoeddiadau trosglwyddo gwybodaeth

●   Aelod canolog yn y tîm marchnata a digwyddiadau gan gymryd rôl ragweithiol wrth reoli ystod o brosiectau dylunio ac arwain ar gynhyrchu gofynion digidol a chynnwys creadigol y cwmni

●   Creu a rheoli gwaith dylunio ar gyfer ei argraffu, y we a’r cyfryngau hyrwyddo electronig a sioeau byw, digwyddiadau ac arddangosfeydd

●   Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata ac aelodau eraill y tîm i ddatblygu syniadau creadigol, i ffurfio briffiau dylunio a chwblhau prosiectau dylunio o’r dechrau hyd y diwedd

●   Helpu i hybu brand Cywain a Menter a Busnes drwy gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol

●   Defnyddio technegau creadigol ac arloesol i gyrraedd cynulleidfa eang i hyrwyddo’r gwaith

●   Gwerthuso gofynion dylunio’r prosiect ac awgrymu’r fformat / opsiynau gorau sydd ar gael o fewn yr amser

●   Rheoli’r berthynas gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr, yn arbennig cwmniau argraffu, datblygwyr ac ati i sicrhau gwerth am arian ac ansawdd uchel cyson

●   Gweithio i amserlen y prosiect, sydd yn aml yn ddyddiadau tynn, gan sicrhau ansawdd a safon uchel

●   Sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac arddangosfeydd sy’n wynebu’r cwsmer yn cwrdd â safonau brandio corfforaethol Llywodraeth Cymru

●   Cyfrifoleb am ddatblygu a chynnal canllawiau brand Cywain, gan gynnwys cynorthwyo i sicrhau cysondeb brand ar draws oll brosiectau Cywain a gwaith dylunio allanol

●   Cynorthwyo’r tîm ehangach i ddatblygu cynnwys creadigol a datrysiadau i broblemau a syniadau dylunio ac i weithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata, copi a chyfres o ddeunyddiau ar gyfer gweithgareddau ac ymgyrchoedd

●   Hwyluso’r broses greadigol ar gyfer y gwahanol ffrydiau gwaith o fewn prosiect Cywain, prosiectau corfforaethol Menter a Busnes a gwaith dylunio prosiect eraill, gan gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau effeithiolrwydd o fewn y cwmni ac i sicrhau cysondeb brand Menter a Busnes ar draws y prosiectau a gwahanol adrannau

●   Sicrhau fod y prosesau caffael cywir yn cael eu dilyn a bod anfonebau yn cael eu derbyn a’u prosesu yn amserol ar gyfer gwaith dylunio a gofynion creadigol fel ffotograffeg a fideograffeg brand   **Arall **

●   Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a iechyd a diogelwch

●   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’n ofynnol

●   Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol   Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol

●   Gradd mewn dylunio graffeg neu gymhwyster wedi’i seilio yn y gwaith neu brofiad cyfatebol

●   Profiad o reoli a darparu atebion creadigol

●   Agwedd ffres a phortffolio dylunio arloesol a chreadigol

●   Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector bwyd a diod

●   Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys rheoli amser, ar gyfer yr holl ohebiaeth copi caled ac electronig

●   Profiad o reoli ffeiliau gan gynnwys defnyddio meintiau a fformatau amrywiol

●   Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) gwych i unigolion a grwpiau o amrywiol feintiau

●   Profiad a gwybodaeth am holl Gyfres Greadigol Adobe - yn benodol Illustrator Photoshop ac InDesign

●   Sgiliau rhyngbersonol gwych

●   Gallu gweithio ar ei b/phen ei hun yn ogystal ag o fewn tîm

●   Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithiol

●   Agwedd hyblyg a’r gallu i weithio i amserlenni tynn

●   Gallu cadw data’n gyfatebol â deddfau diogelu data perthnasol

●   Gallu gweithio i ddyddiadau tynn

●   Gallu ysgogi ei hun i weithio, gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun

●   Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Fwyd a’r cwmni

●   Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

●   Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod.   Manteisiol 

●   Profiad o reoli perthynas â chwmnïau argraffu a chyflenwyr eraill

●   Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (llafar ac ysgrifenedig)

●   Gwybodaeth am raglen Cywain

●   Car i’w ddefnyddio a pharodrwydd i deithio

●   Profiad o ddylunio graffeg symud   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Alex James ar 07539 173 732.   Cyfweliadau

Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn rhithiol. Os yw’r dyddiad yma yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.   Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10yb, dydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.

Cyflog

💰 £27,433 - £30,205

Lleoliad

📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau