Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio o fewn ein Tîm ac i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal â chynorthwyo gyda gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i’r Cyngor.

Mae'r swydd yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis.

I gael gwybodaeth bellach neu sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Nia Jones, Cydlynydd Cyfieithu, ar 01495 766098 neu Alan Vernon-Jones, Swyddog yr Iaith Gymraeg ar 01495 766096

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Disgrifiad:

Mae deiliaid y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at wasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’n ofynnol i ddeiliaid y swydd:

1.   Ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau sydd yn cael eu llunio gan Feysydd Gwasanaeth y Cyngor, a hynny ar gais y Cydlynydd Cyfieithu, gyda ffocws penodol i gefnogi prosesau democrataidd y Cyngor. 

2.   Cynorthwyo gyda gwasanaethau cyfieithu ar y pryd.

3.   Meithrin cysylltiadau da a sicrhau dulliau cyfathrebu da gyda chleientiaid. 

4.   Blaenoriaethu a rheoli beichiau gwaith mewn ffordd effeithiol er mwyn diwallu terfynau amser y cytunwyd arnynt.

5.   Lle bo angen, cynnig arweiniad i Swyddogion ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth lunio dogfennau, a hynny‘n unol â canllawiau Comisiynydd Iaith Gymraeg.

6.   Gweithio gyda Swyddogion perthnasol i gynnal Gwefan Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog yn unol â Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor.

7.  Cynorthwyo’r Cydlynydd Cyfieithu gyda’r trefniadau gweinyddol sydd yn gysylltiedig â dogfennau pan fydd angen eu hanfon at gyfieithwyr allanol, pan fo hynny’n briodol.

8.   Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod beichiau gwaith, blaenoriaethau ac unrhyw faterion gweithredol eraill.

9.   Darparu gwasanaethau prawf ddarllen ar gyfer cydweithwyr pan fydd angen. 

10. Cynorthwyo’r Swyddog Iaith Gymraeg a’r Cydlynydd Cyfieithu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor, fel y bo angen.

Cyflog

💰 £27,344 - £30,151

Lleoliad

📍 O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau