Swyddog Croesi’r Bont Fflint a Wrecsam
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Croesi’r Bont Fflint a Wrecsam
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
· Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
· Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
· Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin.
· Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
· Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
· Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
· Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Dyddiad cyfweliadau: 10.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £21,049 pro rata
Lleoliad
📍 Sir y Fflint, Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Croesi’r Bont Gogledd Powys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
· Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
· Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
· Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg.
· Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin.
· Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
· Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
· Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
· Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
· Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr. Dyddiad Cyfweliadau: 10.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £21,049 pro rata
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Weithwyr Mân Addasiadau x 3
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
1. Gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm Canllaw Addasu i asesu anghenion cyffredinol y cleient ac asesu peryglon corfforol i’r cleient o fewn ei gartref, gan adnabod y risgiau all fod yn bresennol. 2. Ymgymryd â chyflawni mân waith ymarferol yn feunyddiol mewn cartrefi cleientiaid i leihau'r risgiau a adnabuwyd. 3. Yn dilyn derbyn cyfeiriad priodol drwy’r Gweinyddydd Canllaw Addasu, trefnu i ymweld a chynnal arolwg gweledol o gartref y cleient o safbwynt ei ddiogelwch corfforol, atal codymau ac atal troseddau, gan gynghori’r cleient ynglŷn â’r peryglon posib sydd wedi eu hadnabod. 4. Cyflawni ystod eang o fân waith ymarferol o amgylch y cartref i’r safon uchaf, mewn modd dyfal a gweithgar, gan sicrhau boddhad y cleient. Sicrhau wrth gyflawni’r gwaith bod yr eiddo’n cael ei adael yn ddiogel, glan a thaclus. 5. Pan yn briodol, cyd-drefnu gyda chleientiaid a phartneriaid/asiantaethau allanol i gadarnhau’r gwaith sydd angen ei gwblhau a threfnu i gael mynediad i eiddo’r cleient. 6. Trafod gyda’r cleient ynglŷn ag agweddau tu allan i faes y gwasanaeth Canllaw Addasu a chyfeirio'r mater at wasanaethau eraill sydd ar gael pan fo angen. 7. Datblygu perthynas weithio dda gyda chyrff eraill i sicrhau rhag dyblygu gwasanaethau arbedol eraill a gaiff eu cynnig gan y Cyngor Sir neu’r Bwrdd Iechyd Lleol. 8. Cyfrifol am gadw cerbyd gwaith y gwasanaeth Addasu Cartrefi yn lân ac yn daclus a threfnu unrhyw waith cynnal a chadw angenrheidiol, gan adrodd i’r Cydlynydd Canllaw Addasu pan fo’r gwaith yn cael ei drefnu a phan gaiff ei gwblhau. 9. Cynnal a gweinyddu systemau cyfrifiadurol i gofnodi cyfeiriadau, achosion gwaith ayyb i fonitro gweithrediad ac ansawdd y gwasanaeth, er mwyn darparu adroddiadau perthnasol y gwasanaeth Canllaw Addasu yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £26,849
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Staff Gweithgareddau Merlota
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Darparu gwasanaeth cyflawn a phroffesiynol fel y gall y cwsmeriaid fwynhau amrediad eang o weithgareddau diogel, cyffrous sy’n cynnig cyfleoedd a phrofiad dwyieithog, cymdeithasol ac addysgiadol i blant a phobl ifanc.
I chwarae rhan arwyddocaol yn weithrediad a datblygiad y gweithgareddau a rhediad esmwyth y gwersyll.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Iestyn Evans (Rheolwr Cwsmer) ar 01239 652140 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – Dydd Sul, 03 Gorffennaf 2022 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £19,601 - £22,058
Lleoliad
📍 Llangrannog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yma yn cynnwys:
Croesawu etholwyr/ymwelwyr i’r swyddfa, ateb y ffôn, cymryd negeseuon, gwneud apwyntiadau ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol.
Ymateb i negeseuon ebost ac ymholiadau tebyg yn broffesiynol gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
Cynorthwyo i baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol.
Cynorthwyo’r Uwch Gynghorydd yn ôl y galw, gan gynnwys helpu i weinyddu’r system achosion ar-lein ac i gynnal y gwaith achos
Cynorthwyo’r Rheolwr Ymchwil a Chyfathrebu drwy ddrafftio datganiadau ac erthyglau i’r wasg yn ôl y galw, a monitro cynnwys y papurau newydd lleol.
Cynorthwyo gyda’r gwaith o brosesu a chofnodi gwariant y Swyddfa
Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal cyfleusterau’r swyddfa, gan gynnwys sicrhau trefniadau cynnal y cyfleusterau ac archebu offer/nwyddau’r swyddfa
Mynychu cymorthfeydd yn ôl y galw, gan ddelio gydag unrhyw faterion sy’n codi
Cyflog
💰 £21,225 - £28,624 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Weithiwr Aml Grefft
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
1. Gosod ystafelloedd ymolchi, ceginau ac offer symudedd. 2. Darparu gwasanaeth addasu ar gyfer gosod rheiliau llaw/canllawiau cydio, ‘key safes’, larymau mwg ac ati. 3. Ymweld â chleientiaid, cynghori a dyfynnu ar gyfer gwaith posibl 4. Gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas a materion diogelwch yn y cartref. 5. Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlenni a bennwyd a'r targedau a osodwyd 6. Cadw cofnodion o'r taliadau a dderbyniwyd ac i ddarparu derbynebau ysgrifenedig ar eu cyfer 7. Sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei gofnodi'n gywir. 8. Darparu agwedd ofalgar ac ystyriol tuag at bob cleient 9. Bod yn gyfrifol am archebu deunyddiau, offer ac eitemau eraill o stoc a'u storio'n ddiogel a chadw cofnodion rheoli stoc yn ôl y gofyn 10. Bod yn ymwybodol o nodau ac amcanion yr asiantaeth 11. Meddu ar y gallu i adnabod anghenion ychwanegol cleientiaid a'u cyfeirio'n briodol 12. Hyrwyddo gwasanaethau Canllaw 13. Sicrhau y glynir wrth gôd ymddygiad yr asiantaeth bob amser 14. Hyrwyddo a sicrhau cydymffurfiad â'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r polisi
Iechyd a diogelwch ** ** Tasgau a chyfrifoldebau sy'n hanfodol i'r swydd
1. Cysylltu â'r tîm gweinyddu 2. Cadw dyddiadur o'r llwyth gwaith dyddiol 3. Cysylltu â chleientiaid i drefnu mynediad. 4. Sicrhau bod yr ystafelloedd ymolchi, y ceginau a'r gwaith cynnal a chadw cyffredinol a wneir yn bodloni'r fanyleb ofynnol ac yn rhoi gwerth am arian. 5. Gwneud mân waith trwsio ychwanegol yn ôl y gofyn. 6. Mynychu cyrsiau hyfforddi yn llwyddiannus 7. Ymgymryd â thasgau eraill sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y rheolwr. 8. Yn gyfrifol am gynnal a chadw faniau'r cwmni; sicrhau bod dŵr, olew, teiars ac ati yn cael eu harchwilio'n rheolaidd a bod y cerbydau'n cael eu trethu, eu gwasanaethu/MOT yn ôl y gofyn
Cyflog
💰 £28,647
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Ddarlithydd yn y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad addysgu cynhwysfawr yn ddelfrydol o fewn amgylchedd AB, ac mi fydd yn hapus i gyflwyno darpariaeth ‘Safon Uwch’. Byddai meddu ar brofiad o ddarparu Bagloriaeth Cymru hefyd yn ddymunol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol, brwdfrydedd a chadernid a’r gallu i weithio’n dda ag amrywiaeth eang o alluoedd gwahanol. Mae parodrwydd i deithio o un campws i’r llall yn hanfodol.
*Bydd y swydd hon yn weithredol yn ystod cyfnod Mamolaeth a bydd y contract yn dod i ben unwaith bydd deiliad y swydd yn dychwelyd (bydd rhannu’r swydd hon yn ddwy rôl rhan-amser yn cael ei ystyried).
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jenny Hill, Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol: 01792 890790.
Cyflog
💰 £21,506 - £42,326
Lleoliad
📍 Gorseinon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Cymunedol Morgannwg Ganol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Anfonwch ffurflen gais ar e-bost at [email protected]
Am fwy o wybodaeth plîs cysylltwch gyda Sian Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned ar [email protected]
Dyddiad Cau: 20 Mehefin 2022
Dyddiad Cyfweld : 23/24 Mehefin 2022
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £25,211 - £28,223
Lleoliad
📍 Morgannwg Ganol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Cymunedol Maldwyn

📍 Maelgwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Y Dref Werdd yn edrych am Weithiwr Prosiect Llesiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chyfeillgar i ymuno a'r tim ac i weithio o fewn ein Canolfan Galw Mewn a Hwb Cymunedol i ddarparu cymorth a chyngor i aelodau y gymuned ar rhestr eang o faterion llesiant, gan gynnwys cyngor ynni, cyngor a cymorth gyda budd-daliadau, cyfeiriadau banc bwyd, oergell gymunedol a llawer mwy.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch gyda Gwydion ar y manylion cyswllt.
I wneud cais, rydym yn gofyn am gopi o eich CV a llythyr cefnogol yn egluro pam dyliwch cael eich ystyried am y swydd.
Cyflog
💰 £23,000
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)
Menter a Busnes
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Sector Bwyd (canolbarth Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru.
O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am Reolwr Datblygu i weithio ar draws canolbarth Cymru i gefnogi busnesau bychain a micro i ddechrau ac i dyfu.
Cefndir
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn cychwyn cam newydd erbyn hyn ac rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023.
Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tri llinyn i’r prosiect:
Cefnogaeth i fusnesau newydd a busnesau micro
Cefnogaeth ddiagnostig ar gael i bob busnes o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru
Clystyru a chydweithio rhwng busnesau i hybu effeithiolrwydd a thwf busnesau
Nod y Rôl
- Arwain ar ddatblygu’r prosiect a darparu’r gwasanaeth i fusnesau newydd neu’r rhai sy’n tyfu’n bennaf o fewn yr ardal ddaearyddol benodol a darparu arbenigedd sy’n benodol i’r sector bwyd a diod. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwybodaeth a hwyluso datblygiad busnesau yn y rhanbarth, adnabod ac ymateb i ofynion y sector a chydlynu’r ddarpariaeth o fewn y gyllideb.
Prif Gyfrifoldebau
Datblygu Prosiect a Darparu Gwasanaeth
Sicrhau bod gwasanaethau’r prosiect yn cael eu darparu i gynhyrchwyr a busnesau bwyd a diod o fewn yr ardal benodol
Meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr a phroseswyr i ganfod eu hanghenion ar gyfer twf drwy asesiad diagnostig a chreu rhaglen gefnogaeth briodol
Recriwtio grwpiau ac unigolion ar draws y gadwyn gyflenwi i'r prosiect gan ganolbwyntio ar y potensial ar gyfer twf a chreu swyddi
Gweithio gyda grwpiau o gynhyrchwyr ac unigolion i ganfod a datblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd
Paratoi cynllun gweithredu a chynnal asesiad diagnostig ar ddechrau’r gwaith gyda phob grŵp unigolyn a rheoli’r adnoddau o fewn cyllideb y prosiect
Cydlynu gweithgaredd a rhannu gwybodaeth sy’n deillio o fentrau thematig y rhaglen yn yr ardal, gan sicrhau cyfraniad gan y cleient lle bo angen
Creu cysylltiadau gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch a datblygu marchnadoedd newydd er mwyn sicrhau darpariaeth gydlynol
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Llinell, Rheolwr y Prosiect a’r Rheolwyr Datblygu eraill i gynllunio, rheoli a gweithredu portffolio o ddigwyddiadau/arddangosfeydd a theithiau astudio yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau cynnwys perthnasol a diddorol
Trefnu a darparu gweithdai ar themâu penodol o fewn y rhanbarth
Adnabod anghenion, cynllunio a chynghori busnesau ynglŷn â’u datblygiad, gan gyfeirio at ffynonellau eraill o gefnogaeth lle bo’n briodol
Annog perchnogaeth o’r busnes a’i ddatblygiad trwy gydol y broses gefnogi gan yr aelodau
Rheoli/monitro’r gyllideb a osodir gan Reolwr y Prosiect, gan sicrhau gwerth am arian a darpariaeth ar y cyd lle bo hynny’n ymarferol
Derbyn cyfrifoldeb am bob gweithgaredd a datblygiad cleientiaid yn y rhanbarth a sicrhau bod targedau daearyddol yn cael eu cyrraedd.
Parhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arbenigeddau eraill, gan sicrhau darpariaeth o wasanaethau holistig i’r cwsmer, gydag ymrwymiad i gynnal unrhyw waith ymchwil a dysgu a datblygu sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r anghenion hynny
Bod yn weladwy ac yn hyblyg wrth ddarparu’r gwasanaeth yn y rhanbarth
Monitro a Gwerthuso
Sicrhau bod adroddiadau cywir a pherthnasol yn cael eu darparu trwy gydol oes y prosiect a bod deilliannau’n cael eu monitro’n fanwl, yn cael eu hadolygu a’u hadrodd i’r Rheolwr Prosiect a Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y cytundeb, ac er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
Cadw adroddiadau manwl o weithgareddau a gwaith papur er mwyn monitro a chyrraedd targedau’r prosiect i gydymffurfio â systemau monitro ac adrodd Llywodraeth Cymru
Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod yr holl ddogfennau ar gyfer y gwaith a gwblhawyd yn gyfredol ac wedi’i gwblhau yn unol â gofynion y cynllun
Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd y gwaith gyda phob grŵp/unigolyn, sy’n adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a dderbyniwyd.
Arall
Sicrhau bod safonau ansawdd, gofal cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chymryd rhan mewn gwaith arall yn ymwneud â bwyd ar ran Menter a Busnes yn ôl yr angen
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
Addysg hyd lefel gradd neu gyfwerth mewn busnes, economeg, amaeth, bwyd, diwydiannau’r tir, neu bwnc perthnasol
Dealltwriaeth drylwyr o’r sectorau amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod y wybodaeth a’r gwaith ymchwil sy’n berthnasol i’r sector(au) hynny
Dealltwriaeth eang o ddatblygiad polisi, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn.
Gallu gwerthuso a defnyddio tystiolaeth mewn modd clir ac ymarferol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac i feddwl yn greadigol, gan fynegi manteision, anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
Gallu asesu a datblygu dealltwriaeth glir o anghenion cleientiaid, a’u cefnogi yn unol â’u gofynion unigol
Dealltwriaeth dda o gyfrifon busnes a chynlluniau busnes
Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
Gallu datblygu ac integreiddio gwasanaethau newydd mewn modd effeithiol ac amserol
Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol rhagorol, gyda’r gallu i wneud penderfyniadau anodd a’u cyfathrebu mewn modd diduedd
Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
Ymwybyddiaeth o safonau bwyd a gofynion rheoliadol o fewn y diwydiant
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig ardderchog
Sgiliau TG ar lefel uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (gallai’r swydd olygu teithio ledled Cymru)
Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol.
**Dymunol **
Profiad dangosadwy o redeg ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu
Profiad dangosadwy o weithio / rheoli prosiect ar raddfa debyg
Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy gwblhau ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal (ar gael ar ein gwefan:
www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Nerys Davies ar 07539 030 849
**Cyfweliadau **
Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth ar ddydd 13 Mehefin 2022. Os nad yw’r dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: 10am, 6 Mehefin 2022.
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ceir copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar ein gwefan
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Amrywiaeth a Chydraddoldeb mewn Cymdeithas.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol cryf yn y maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol cydraddoldeb ac amrywiaeth, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hon.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bydd hyn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n chwilio am swydd foddhaus all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig gyda’r ymroddiad i ddatblygu eu dealltwriaeth yn y maes ac i edrych yn greadigol ar ffyrdd i wella gwasanaethau drwy sicrhau cydraddoldeb a hybu amrywiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y siawns i ennill cymhwyster MA mewn Amrywiaeth a Chydraddoldeb mewn Cymdeithas. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd, ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un o swyddogion y Cyngor. Bydd yr hyfforddai felly’n cael y cyfle i weithio gydag a chefnogi holl adrannau’r Cyngor gan ymwneud â swyddogion ar amrywiol lefelau ac aelodau etholedig. Trwy wneud hyn byddant yn magu dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Leol yn gweithio.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Sicrwydd
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Bennaeth Sicrwydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau a’r angerdd ar gyfer y rôl hon yna cliciwch ar y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (sydd fel arfer i’w cael ar dudalen olaf y proffil rôl).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £41517 - £44784
Lleoliad
📍 Llangynnwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo
Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes rheoli tir ac eiddo, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewnRheolaeth Eiddo.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes rheoli tir ac eiddo. Bydd cyfle i’r hyfforddai proffesiynol gynghori ac ymdrin ac amrediad o feysydd gwaith, i gynnwys prisio, negodi, prydlesu, prynu a gwerthu, a hynny yn galluogi’r hyfforddai i enyn profiad digonol er mwyn cymhwyso fel Syrfëwr Siartredig.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r Uned Stadau o fewn yr Adran Tai ac Eiddo, i ddilyn gyrfa ym maes Rheoli Tir ac Eiddo.
Bydd yr hyfforddai llwyddiannus yn darparu cefnogaeth ar Reolaeth Eiddo i holl wasanaethau’r Cyngor, a bydd cyfle i’r hyfforddai enyn profiadau eang ar draws amrediad o feysydd gwaith i gynnwys prisio tir ac eiddo, rheoli prydlesi, materion rheolaeth stad a phrynu a gwerthu eiddo.
Byddwch yn dilyn gradd Meistr mewn Rheoli Eiddo, gyda'r nod o ddatblygu i fod yn Syrfëwr Siartredig gyda’r RICS.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth a'r Uwch Dîm Arwain
Ysgol Brynhyfryd
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Gynorthwyydd Personol i'r Pennaeth a'r Uwch Dîm Arwain
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym am benodi unigolyn blaengar ac uchel ei gymhelliant i gefnogi’r Pennaeth a’r Uwch Dîm Arwain.
Mae'r rôl yn amrywiol iawn ac yn gofyn am sgiliau trefnu rhagorol yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cyflog
💰 Gradd 7 (yn amodol ar werthusiad swydd)
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych am Reolwr Datblygu Gweithlu Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig arwain a chyflwyno Safonau’r iaith Gymraeg o fewn y Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hybu a chefnogi sgiliau Cymraeg staff er mwyn gwreiddio dwyieithrwydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyflwyno cyfleoedd dwyieithog i raglenni a Dysgwyr Seiliedig ar Waith.
Bydd gennych Radd ac, yn ddelfrydol, Cymhwyster Addysgu cydnabyddedig. Bydd gennych hefyd brofiad o ddatblygu/hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg/dwyieithog ar draws corff sector cyhoeddus. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, brwdfrydedd dros agenda’r Gymraeg a byddwch yn gyfarwydd â materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
Cyflog
💰 £45,441
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dadansoddwr Partneriaethau
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Ddadansoddwr Partneriaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Dadansoddydd Partneriaethau.
Diben y swydd yw i gymryd cyfrifoldeb am ddadansoddi data partneriaethau ar draws holl feysydd busnes y Swyddfa, datblygu templedi priodol ar gyfer rheoli ac adrodd ar bartneriaethau'r Swyddfa a datblygu gallu rheoli strategol ar gyfer llywio gwaith craffu, blaengynllunio a gwella sefydliadol. Cymryd cyfarwyddyd gan y Comisiynydd, y Prif Weithredwr ac aelodau eraill o Dîm Gweithredol y Swyddfa.
Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau a’r angerdd ar gyfer y rôl hon yna cliciwch ar y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (sydd fel arfer i’w cael ar dudalen olaf y proffil rôl).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Dyddiad Cyfweliad: 14/06/22
Cyflog
💰 £26565 - £34326
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Rheoli Digwyddiadau, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes Rheoli Digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Rheoli Digwyddiadau, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y disgyblaeth pwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i arbenigwr yn y maes rheolaeth digwyddiadau i ymuno â'r gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau.
Fel rhan o'r swydd byddwch -
Yn ennill profiad o weithio’n draws-adrannol a thraws-asiantaeth fel prif bwynt cyswllt digwyddiadau Gwynedd gan lywio trefnwyr digwyddiadau trwy brosesau swyddogol y Cyngor, ein cymunedau a’n partneriaid.
Yn datblygu cysylltiadau agos a chydweithio gyda busnesau, cymunedau, trefnwyr digwyddiadau a mudiadau o'r sector wirfoddol a chyhoeddus er datblygu'r cyfleoedd adfywio a datblygu economi'r sir yn deillio o gynnal digwyddiadau.
Marchnata hyrwyddo a gwerthu Gwynedd trwy'r digwyddiadau creadigol gan sicrhau delwedd ifanc, egnïol a chyffrous i'r ardal fyddai'n cydweddu ag amcanion y Cyngor.
Yn cael y cyfle i gwblhau cymhwyster MA Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Mae datblygu a chefnogi Digwyddiadau yn flaenoriaeth strategol gan y Cyngor. Mae’n faes sydd gyda proffil uchel ac sydd yn dod a buddion economaidd sylweddol i Wynedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Busnes
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Reolwr Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl Os ydych yn credu mai dyma’r swydd i chi, yna cwblhewch ffurflen gais, gan nodi tystiolaeth yn erbyn pob cyrhaeddiad penodol a generig (sydd fel arfer i’w cael ar dudalen olaf y proffil rôl).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £41,517 - £44,784
Lleoliad
📍 Llangynnwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cyfreithiol, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt.
Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn, fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn magu profiad gyda’r golwg ar ddatblygu i ddod yn gyfreithiwr llywodraeth leol ac yn y dyfodol un o reolwyr ac arweinwyr yn y maes yma. Bydd hyn digwydd o fewn tim sydd yn annog dysgu a datblygu mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r gwasanaeth Cyfreithiol o fewn y Cyngor. Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Gwynedd wedi ei chymhwyso i hyfforddi darpar gyfreithwyr, a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cael profiad o weithredu mewn amrywiaeth eang o feysydd gwaith arbenigol. Bydd cyfle hefyd i gael profiad o gynghori ar faterion corfforaethol megis cyfundrefnau llywodraethu a phriodoldeb y Cyngor. Drwy gydol y cyfnod bydd yr hyfforddai yn datblygu sgiliau craidd megis drafftio dogfennau a chytundebau, darparu cyngor cyfreithiol, trefniadau amryw lysoedd a thribiwnlysoedd ac adfocatiaeth.
Bydd yr hyfforddai yn ymuno a Chymdeithas y Gyfraith ac o dan reolaeth yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae cefnogi cytundeb hyfforddiant yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ac rydym yn chwilio felly am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith.
NODER - Byddwch angen fod wedi cwblhau yn llwyddiannus Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (Legal Practice Course - LPC) er mwyn ymgeisio.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Cyfathrebu
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Ymgynghorydd Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Ymgynghorydd Cyfathrebu.
Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu er mwyn sicrhau darpariaeth o ran materion y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol ar ran y Comisiynydd, byddwch yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol gan ddarparu gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus proffesiynol sy'n hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r Comisiynydd, y Swyddfa a'r heddlu. Byddwch yn mynd ati'n rhagweithiol o ran gwaith cyfathrebu, a phob math o ymgyrchoedd er mwyn ennyn hyder y cyhoedd mewn plismona, y Comisiynydd a'r Swyddfa.
Os credwch fod gennych y sgiliau a'r angerdd dros y rôl hon, cliciwch y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (a geir fel arfer ar dudalen olaf proffil y rôl).Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Cynhelir cyfweliadau ar: 16/06/2022
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £31,425 - £34,326
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Reolwr Dysgu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
- Rhannu casgliadau’r amgueddfa a’r oriel mewn ffordd sy’n hysbysu, yn cyffroi ac yn ysbrydoli
- Bod yn gyfrifol am yr holl ddehongliadau ar y safle, ymgysylltu, dysgu gan gynnwys dysgu digidol
- Creu a chyflwyno'r holl grantiau dysgu, ymgysylltu a dehongli
- Sicrhau bod cynnig addysgiadol Oriel Mon yn ymateb i anghenion athrawon, myfyrwyr Ynys Mon ac i Cwricwlwm Cymru.
- Datblygu adnoddau addysgol yn gysylltiedig ag arddangosfeydd a chasgliadau i’w defnyddio gan sefydliadau addysg (ysgolion, colegau, prifysgolion).
- Hyrwyddo a rhannu adnoddau hanesyddol yn gysylltiedig ag Ynys Môn, drwy waith partneriaeth gyda sefydliadau ymchwil e.e. Archifau Ynys Môn.
- I nodi, cyflwyno ac arfarnu prosiectau dysgu ac ymgysylltu yn gysylltiedig ag arddangosfeydd a chasgliadau Oriel Môn. Bydd hyn yn cynnwys nodi cyrff perthnasol sy’n darparu grantiau, cynorthwyo i lenwi ceisiadau grant, gweithio gyda gweithwyr llawrydd i gydlynu gweithgareddau ac arfarnu gweithgareddau.
- Nodi grwpiau Cymunedol o bob oed ar yr ynys a sicrhau bod eu lleisiau wedi eu adlewyrchu yng nghwaith a chasgliadau Oriel Môn.
- I ddatblygu a rheoli rhaglennau ymgysylltu ee Dosbarthiadau Meistr, Bywluniadu, Diwrnodiau Agored, Llwybrau i’r Teulu ayb
- Cynrychioli a hyrwyddo gwaith Oriel Môn mewn digwyddiadau perthnasol a trwy rhwydweithiau a phartneriaethau ee ee paratoi a rhoi sgyrsiau, cyfweliadau i'r cyfryngau, y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill
- Arwain ar yr holl bartneriaethau Addysg ac Ymgysylltu
- Rheolwr llinell y Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, a gwirfoddolwyr lle bo angen
- Asesu risg gweithgareddau cysylltiedig i sicrhau bod popeth yn cael ei ddarparu'n ddiogel ac yn unol ag arfer gorau cyfredol a'r holl ofynion deddfwriaethol
- Rhannu'r rota ar alwad y tu allan i oriau
Cyflog
💰 £25,927 - £29,174
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn edrych am Brentis Gofal Iechyd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych am helpu a gofalu am bobl?
A ydych yn barod am her?
A fyddech yn hoffi bod yn Nyrs Gofrestredig, ond nad ydych yn teimlo'n barod nac y gallwch barhau mewn addysg lawn-amser (ysgol, coleg neu brifysgol)?
A fyddech yn hoffi dysgu ac ennill arian?
Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau uchod, yna gallai'r rôl hon fod yn addas ar eich cyfer chi!
Mae'r rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i ddod yn Nyrs Gofrestredig trwy ddysgu seiliedig ar waith. Byddwch yn dechrau arni trwy gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Iechyd Clinigol (lefel 2), cyn parhau i Brentisiaeth mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol (lefel 3), ac yna'n ymgymryd ag addysg prifysgol ar drefniant rhan-amser, gan ddechrau ar lefel 4.
Sut y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn wahanol i unrhyw raglen brentisiaeth arall?
Mae’r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn cyfuno llawer o raglenni dysgu mewn un, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo i brofi llwybr uniongyrchol i nyrsio. Ni fydd angen i chi ailymgeisio am y cymwysterau gwahanol wrth fynd ymlaen. Pan fyddwch wedi cwblhau'r rhaglen, byddwch yn Nyrs Gofrestredig gymwys, ac ni fyddwch wedi gorfod talu am unrhyw ffioedd prifysgol. Byddwch yn ennill arian trwy gydol yr amser y byddwch yn dysgu.
Pan fyddwch wedi dod yn Nyrs Gofrestredig, disgwylir i chi barhau'n gyflogedig gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf dwy flynedd. Prif ddyletswyddau'r swydd
**Gofal iechyd **
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar ofal ar lefel ragarweiniol, yn cynnwys gweithio gyda mentor yn ardaloedd y cleifion, gan eich paratoi i ddarparu gofal i gleifion. Gwaith Domestig/Porthora
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â chynllun yr ysbyty, yn ogystal â'r safonau a ddisgwylir mewn amgylchedd gofal iechyd. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu, gan amlygu'r rhinweddau y mae eu hangen i ddod yn nyrs y dyfodol. Bydd yn rhoi cipolwg ar y modd y mae gwasanaethau cymorth yn chwarae rhan bwysig mewn gofal cleifion, trwy ddarparu amgylchedd hylan. Gan fod maeth a hydradiad yn rhan hanfodol o ofal cleifion, bydd hyn yn rhoi cipolwg ar wasanaeth bwyd, 'Bwydlen Cymru Gyfan', gofynion deietegol a phrosesau adrodd.
Gwaith gweinyddol sy'n canolbwyntio ar gleifion
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â'r systemau gweinyddol mewn amgylchedd gofal iechyd. Rhoddir sylw i brosesau cofnodi a'r angen am gyfrinachedd a pharch mewn perthynas â gwybodaeth cleifion. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu llafar, gan ddatblygu eich cydnerthedd wrth ddelio â chleifion a staff. Bydd y lleoliad yn rhoi cipolwg ar systemau TG amrywiol, gan roi profiad o gyfathrebu trwy e-bost, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn rhoi profiad cyfannol, i ddatblygu nyrsys y dyfodol. Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Beth y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn ei olygu?
Byddwch yn ymgymryd â chwrs ymsefydlu cynhwysfawr, a fydd yn eich paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith yn y Bwrdd Iechyd
Byddwch yn cael cymorth gan fentor yn y gweithle
Byddwch yn cael yr hyn sy'n gyfwerth â diwrnod yr wythnos o 'hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith', er mwyn meithrin eich dysgu
Byddwch yn cael mentor o'r coleg
Byddwch yn mynd i weithdai, lle bydd gennych gyfle i drafod a rhannu syniadau
Byddwch yn gweithio tuag at gael cymwysterau galwedigaethol, gan ddatblygu trwy'r lefelau wrth i chi feithrin hyder a phrofiad
Byddwch yn cwblhau pedwar lleoliad gwaith ar gylchdro yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, a hynny yn y meysydd canlynol:
- Gwaith Domestig/Porthora
- Gwaith Gweinyddol sy'n Canolbwyntio ar Gleifion
- Gofal Iechyd
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael?
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Iechyd Clinigol
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Llythrennedd Digidol
Prentisiaeth Lefel 3
- Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol
Tystysgrif Lefel 4 mewn Gofal Iechyd
BSc (Gradd) mewn Nyrsio Cyffredinol Oedolion
Beth yw'r gofynion mynediad?
Rhaid i chi fod yn unigolyn caredig a gofalgar sy'n frwd dros helpu pobl eraill
Rhaid i chi fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn ym mis Medi 2022
Mae'n rhaid bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Rhaid i chi allu amlygu caredigrwydd a thosturi ac angerdd dros helpu eraill
Rhaid i chi allu amlygu parodrwydd i weithio'n galed
Ni ddylech feddu ar gymhwyster lefel 3 llawn ym maes iechyd (os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni)
Ni ddylech fod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd
Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais sydd wedi'i hatodi, a hynny cyn y dyddiad cau. Yn yr adran 'Gwybodaeth Ategol', dywedwch wrthym pam yr ydych yn credu y dylech gael eich dethol ar gyfer y cyfle hwn, a hynny mewn dim mwy na 100 gair y cwestiwn.
Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?
Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?
Ar ôl y dyddiad cau, estynnir gwahoddiad i’r rheiny a fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus fynd i ddiwrnod asesu. Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl ac yn gyfle i chi gwrdd â ni, yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am y rhaglen. Bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddarparu fideo byr yn cyflwyno eu hunain i’r Academi Prentisiaethau. Os cewch eich recriwtio’n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth o fod yn Brentis Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2022. Bydd y rheiny nad oeddent yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gennym ni, eu Coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.
Pam y dylech wneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Dyma rai o'r rhesymau dros wneud hynny
Mae prentisiaethau'n ffordd wych o ddechrau ar yrfa yn y GIG
Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth sy'n talu (‘dysgu wrth ennill’)
Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol a fydd yn eich cefnogi ac yn eich helpu i feithrin y sgiliau ymarferol y mae arnoch eu hangen
Byddwch yn ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a hynny heb orfod talu ffioedd dysgu
Mae prentisiaethau'n gam cyntaf posibl at hyfforddiant proffesiynol (e.e. i fod yn nyrs, yn beiriannydd)
Mae'n brofiad gwych – gweithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth go iawn
Manyleb y person
Cymwysterau a gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Saesneg a Mathemateg i safon resymol
Gwybodaeth Ategol
Meini prawf hanfodol
Beth sy'n gwneud gofalwr da yn eich barn chi?
Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Sut y byddech chi/eich teulu/eich ffrindiau yn teimlo pe byddech yn dod yn Nyrs Gofrestredig?
Profiad
Meini prawf hanfodol
Y gallu i weithio mewn amgylchedd tim
Deall pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
Profiad y gellir ei ddangos mewn amgylchedd gofalgar – gall fod o wirfoddoli neu brofiad gwaith
Profiad y gellir ei ddangos o weithio gyda gosodiadau TG yn cynnwys Microsoft Office
Cyflog
💰 £4.81 yr awr
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol Cyflogres Dros Dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn brifysgol â hanes hir, a chanddi enw da yn rhyngwladol am ansawdd ei haddysg a’i hymchwil. Saif y ddinas rhwng arfordir gogledd Cymru a mynyddoedd Eryri ac mae gan y brifysgol safle sydd gyda’r gorau ymysg prifysgolion gwledydd Prydain.
Mae cyfle wedi codi i Swyddog Clercyddol Cyflogres Dros Dro llawn-amser am gyfnod penodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ymarferol cadarn o weithio mewn swydd weinyddol ariannol mewn sefydliad modern yn defnyddio technoleg gwybodaeth. Bydd rhai o’r dyletswyddau’n cynnwys gweithio’n agos gyda Rheolwr y Gyflogres ac aelodau eraill o’r tîm i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd, gan rannu cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth cyflogres hyblyg ac ymatebol, paratoi a gwirio data a dderbynnir gan y Gwasanaethau Academaidd/Proffesiynol/Masnachol i’w mewnbynnu i system gyflogres Agresso a chyflawni gwaith gweinyddol y gyflogres e.e. cofnodi staff newydd a diweddaru a chynnal cofnodion y gyflogres.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 5 TGAU gyda graddau A* - C (yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol (neu brofiad perthnasol).
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib ac mae’r swydd ar gael tan 31/05/2023.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith gweithio deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail ran-amser neu rannu swydd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Linda Williams, Gwasanaethau Cyllid e-bost: [email protected]. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 30 Mai 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £20,600 - £22,847
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!