Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gosod Safonau a Chydymffurfiaeth

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Gosod Safonau a Chydymffurfiaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae gennym gyfle cyffroes i berson brwdfrydig sy’n dymuno gweithio gyda’r Comisiynydd i wella perfformiad cyrff wrth iddynt ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Bydd y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb penodol am oruchwylio cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus adnabyddus fel Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, ICO, Ofcom, Amgueddfa Cymru, Canolfan Celfyddydau Cymru a mwy. 

Disgrifiad:

Dyletswyddau penodol

CYFLWYNO A GOSOD SAFONAU A CHYTUNO DYLETSWYDDAU IAITH

Bod yn gyfrifol am wneud gwaith ymchwil er mwyn cadw gorolwg dros y graddau y mae ac y dylai personau fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ac er mwyn dysgu a meithrin dealltwriaeth am sectorau. 

Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau safonau er mwyn gwneud safonau’n benodol gymwys i bersonau. Cadw at brosesau’r Mesur a chanllawiau mewnol wrth weithredu holl gamau yn unol â rhaglen ac amserlen osodedig a chasglu tystiolaeth dibynadwy ar gyfer adroddiadau safonau. Bod yn gyfrifol am baratoi adroddiadau safonau ar grŵp penodol o bersonau / personau a phwnc penodedig i sylw’r Uwch Swyddog.

Bod yn gyfrifol am osod hysbysiadau cydymffurfio ar bersonau. Ymgynghori gyda portffolio penodol o bersonau ynghylch cynnwys hysbysiadau cydymffurfio cyn eu gosod. Poblogi cofrestr hysbysiadau cydymffurfio’r Comisiynydd yn brydlon a chywir.    Bod yn gyfrifol am ystyried a phrosesu heriau gan sefydliadau ynghylch anghymesuredd neu afresymoldeb y dyletswyddau a osodwyd arnynt.

Lle nad yw safonau’n gymwys, bod yn gyfrifol am baratoi neu ddiwygio cynlluniau iaith Gymraeg o dan ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

**CODAU YMARFER **

Bod yn gyfrifol am ymchwilio a drafftio codau ymarfer Comisiynydd y Gymraeg yn unol â rhaglen baratoi osodedig. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori’n eang ar eu cynnwys. Bod yn gyfrifol am ddarparu codau ymarfer i sefydliadau darostyngedig i safonau yn unol â rhaglen ddyroddi hysbysiadau cydymffurfio’r Comisiynydd lle bo codau ymarfer ar gael. 

**CYDYMFFURFIO GYDA DYLETWYDDAU AC YMRWYMIADAU **

Gyda phortffolio penodol o sefydliadau, bod yn gyfrifol am weithredu rhaglen waith i reoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith, gan gynnwys:

- dadansoddi gwybodaeth o amrediad o ffynonellau am gydymffurfiaeth sefydliadau â’u dyletswyddau iaith

- cadw cofnodion cyfredol a gwybodaeth am berfformiad sefydliad a gallu cynhyrchu gwybodaeth yn amserol ac i safon uchel

- ffurfio barn ar y graddau mae sefydliadau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau iaith gan ymyrryd yn ôl yr angen, ac yn unol â chanllawiau a pholisïau’r Comisiynydd

- ymateb i ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan sefydliadau a phersonau eraill

- monitro gweithrediad cynlluniau gweithredu a roddir mewn lle yn dilyn ymchwiliadau gorfodi

- arwain perthynas reoleiddio briodol gyda sefydliadau unigol 

Ymgymryd â gwaith rheoleiddio llorweddol a all gynnwys: 

- Casglu a dadansoddi tystiolaeth annibynnol gan ddefnyddwyr am eu profiadau iaith ac adnabod rhwystrau wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus

- Cynnal arolygon siopwr cudd

- Cynnal astudiaethau thematig ar effeithiolrwydd trefniadau ac arferion sefydliadau mewn meysydd penodol

- Monitro safonau atodol a chasglu gwybodaeth yn codi o gofnodion a gedwir gan sefydliadau 

- Cyfrannu at waith hybu a hwyluso gan gynnwys chwilio am enghreifftiau o arferion llwyddiannus

- Cyfrannu at y gwaith o addysgu sefydliadau am ofynion safonau drwy amryw gyfryngau e.e. cynorthwyo neu gynnal seminarau neu weithdai ar ganfyddiadau gwaith rheoleiddio; cyhoeddi adroddiadau ar ganfyddiadau arolygon ac astudiaethau’r Comisiynydd. 

DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL 

- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.

Cyflog

💰 £32,460 - £39,690

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau