Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynghorydd Rheoli Gwasanaeth - Desg Gwasanaeth

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynghorydd Rheoli Gwasanaeth - Desg Gwasanaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Byddwch yn darparu cefnogaeth i'r gwasanaethau a gynigir gan TG y Brifysgol yn y pwyntiau mynediad i staff a myfyrwyr o fewn swyddogaethau Corfforaethol, Gweinyddol, Ymchwil Academaidd a Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol.

Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn benagored.   Cyflog: £21,197 - £23,144 y flwyddyn (Gradd 3)

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 22 Ionawr 2023

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Bydd y deiliad swydd yn gwneud y canlynol: 

* Dan gyfarwyddyd, cyfrannu at ddarparu diagnosis ac opsiynau ar gyfer datrys digwyddiadau caledwedd a meddalwedd â chymhlethdod isel, gan lynu at weithdrefnau a ddiffinnir, a datrys digwyddiadau ar y pwynt cyswllt cyntaf lle bo'n bosibl. 

* Dilyn, mynegi a lle bo angen egluro gweithdrefnau a phrosesau sydd wedi'u cofnodi ar gyfer gwasanaethau TG a geisir yn gyffredin. 

* Cyflawni amrywiaeth o dasgau beunyddiol sydd wedi'u cofnodi a chynnal cofnodion priodol, gan gynnwys ymateb i ymholiadau cyffredinol am unrhyw rai o'r gwasanaethau a gynigir gan TG y Brifysgol.

 * Nodi, cofnodi a chategoreiddio'r holl geisiadau am wasanaeth, a chau'r cofnodion pan fyddant wedi'u datrys yn ôl polisïau a gweithdrefnau a ddiffiniwyd. 

* Canfod cyfleoedd i wella drwy gyflawni eich rôl, gan lunio cynigion i'w hystyried. 

* Cyflawni tasgau a neilltuir yn ôl blaenoriaeth, gan hysbysu defnyddwyr o'r cynnydd a monitro gweithgaredd datrys i gyflawni'r lefelau o wasanaeth y cytunwyd arnynt.    * Ymateb i ymholiadau neu geisiadau am wasanaeth gan ddefnyddwyr, ac ymdrin yn effeithiol gydag ymholiadau neu geisiadau â chymhlethdod isel, gan wybod pryd i drosglwyddo gan rannu gwybodaeth briodol ar gyfer parhau i weithredu i sicrhau datrysiad.    * Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol gyda gwybodaeth gywir, gan sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol. 

* Cyfleu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y lefel briodol. 

* Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm ac adeiladu perthynas gydag aelodau o TG y Brifysgol i sicrhau bod gwasanaethau ansawdd uchel yn cael eu darparu ar y pwynt cyswllt priodol yn ôl anghenion busnes. 

* Cyfranogi mewn unrhyw brosiectau sy'n briodol i'r radd ac/neu i'r set sgiliau. 

* Meddu ar neu fod yn barod i ddatblygu gwybodaeth/lefel briodol o sgiliau yn y technolegau newydd a ddefnyddir a datblygu gwybodaeth/lefel sgiliau mewn unrhyw wasanaeth newydd a gyflwynir gan TG y Brifysgol. 

* Cyflawni rhai dyletswyddau sy'n gysylltiedig â rôl uwch at ddibenion datblygu neu rôl is am resymau gweithredol. 

* Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl.

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf hanfodol

Profiad

1. Profiad o gefnogi a datrys problemau cyffredin mewn caledwedd TG a chymwysiadau meddalwedd mewn amgylchedd TG sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

2. Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, a'r gallu i ddehongli a chyfleu gwybodaeth yn y modd mwyaf priodol.

3. Profiad o gyflenwi gwasanaethau i'r cwsmer yn bersonol, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

4. Y gallu i weithio fel rhan o dîm neu ar eich liwt eich hun, gan gynnwys y gallu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith eich hun o fewn amserlenni sefydledig.

5. Y gallu i fod yn rhagweithiol wrth ymdrin â cheisiadau am gymorth, a pharhau'n ddigynnwrf a gweithio'n effeithiol dan bwysau.

6. Y gallu i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau er mwyn cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol.

7. Tystiolaeth o gymhwysedd drwy broses o gaffael a chymhwyso sgiliau newydd yn rhagweithiol, a pharodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

8. Tystiolaeth o ddilyn, glynu at a chyfrannu at weithdrefnau a phrosesau sydd wedi'u cofnodi.

9. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifennedig ac ar lafar.

Meini Prawf Dymunol

1. Profiad o gasglu gwybodaeth yn ymwneud â cheisiadau gwasanaeth a digwyddiadau.

2. Cymhwyster sylfaen mewn ITIL neu debyg.

3. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.   Gwybodaeth Ychwanegol

Disgwyliadau Safonol Fel gweithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y deiliad swydd yn: 

* Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau ariannol yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol. 

* Cymryd gofal rhesymol dros iechyd a diogelwch eich hun ac eraill a allai gael eu heffeithio gan yr hyn a wnewch neu ei hepgor yn y gwaith yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r CE a Pholisïau a Gweithdrefnau Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd y Brifysgol, yn ogystal â chydymffurfio â'r Brifysgol parthed unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel y cyflogwr.

Cyflog

💰 £21,197 - £23,144

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24k 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £27k - £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31k - £34k 📍 Hybrid📍 Hyblyg Ar gau

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27k 📍 O gartref Ar gau

💰 £10k 📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £18k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau