Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweinyddol (Ansawdd a Gwelliant)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £24k - £27k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Gweinyddol (Ansawdd a Gwelliant)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin gwybodaeth academaidd a sgiliau ymarferol i ffynnu.

Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.

At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym 'nawr yn chwilio am Swyddog Gweinyddol i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin ar sail lawn-amser, barhaol. 

- Y RÔL -

Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol sy'n berthnasol i weithgarwch Ansawdd a Gwelliant yr Athrofa. Mae'r swydd yn gofyn am unigolyn sy'n fedrus o ran gwaith gweinyddol. 

Byddwch yn gweithio gyda Swyddog Gweinyddol Gweithredol (Ansawdd) yr Athrofa, a bydd disgwyl i chi gyfrannu at sicrhau a monitro prosesau ansawdd a gwelliant yr Athrofa, yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol y Brifysgol.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'

- AMDANOCH CHI -

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl y Swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-    Lefel dda o addysg gyffredinol

-    Addysg hyd at lefel HND neu radd

-    Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel

-    Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng

-    Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tyn

-    Y gallu i roi sylw i fanylion

-   Profiad o weithio gyda phwyllgorau

-   Hyfedredd yn y defnydd o becynnau Microsoft

-   Yn amlygu hunangymhelliant a'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth

-   Y gallu i weithio'n rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill

-   Y gallu i weithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau neu o'ch cartref, yn ôl y gofyn

-   Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig

Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:

-   Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch

**- BUDDIANNAU - **

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau.

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais.

Cyflog

💰 £23,715 - £27,131

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau