Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Arlwyo – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun

Ymunwch â’n Tîm fel Cynorthwyydd Arlwyo yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Aberystwyth!

Ydych chi’n angerddol am fwyd ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol? Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo brwdfrydig i ymuno â’n tîm yng Nghartref Preswyl Hafan y Waun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal y safonau uchaf o wasanaeth, gan sicrhau profiad bwyta cadarnhaol i’n preswylwyr.

Cyfrifoldebau allweddol:

  • cynorthwyo i baratoi a gweini prydau a diodydd, gan gynnwys gosod a chlirio byrddau lle bo angen
  • cofnodi tymheredd bwyd yn y man gweini
  • cynnal glanweithdra a hylendid yn y gegin a’r ardaloedd bwyta, gan gynnwys golchi offer a llestri
  • cydweithio â’r tîm arlwyo i ddarparu gwasanaeth eithriadol
  • sicrhau cydymffurfiaeth gaeth â safonau trin bwyd a hylendid cyfredol, wedi’u harwain gan ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd a Safonau Iechyd yr Amgylchedd
  • cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, sy’n cwmpasu codi a chario, COSHH, a defnydd diogel o offer peryglus
  • Oriau gwaith:
  • 35 awr yr wythnos ar rota dreigl pythefnos, i gynnwys sifftiau cynnar/hwyr a gweithio ar benwythnosau
  • Ein hymgeisydd delfrydol
  • profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd cegin
  • yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o arferion diogelwch a hylendid bwyd
  • meddu ar sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol
  • dangos parodrwydd i ddysgu ac ymgymryd â chyrsiau perthnasol yn ôl yr angen
  • Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi

I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:

  • lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol (o 27 i 34 diwrnod y flwyddyn pro rata)
  • cynllun cyfraniadau pensiwn hael (cyfraniad cyflogwr o 14.6%)
  • cymorth i deuluoedd a gofalwyr gan gynnwys. tâl mamolaeth uwch, pasbort gofalwyr ac ati
  • cynllun gostyngiadau Ffordd o Fyw a Siopa
  • cefnogaeth Iechyd a Lles gan gynnwys cwnsela cyfrinachol am ddim, aelodaeth gampfa am bris gostyngol
  • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys cyfraniadau pensiwn gwirfoddol ychwanegol, beicio i’r gwaith, prydlesu ceir

Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod o fuddion gweithwyr ar gael yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â William Ainsworth ar [email protected] / 01970 633001

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £25,614 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau