Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dirprwy Bennaeth

Ysgol Gynradd Penparc

💰 £53k - £58k 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd Penparc

Yn eisiau o Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosib – Swydd Llawn Amser, Parhaol.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar, yn cydweithio’n agos i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Bennaeth ymrwymiad addysgu, a byddai arbenigedd ym maes ADY yn fanteisiol.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac ysgogol, ac arweinydd effeithiol, sy’n hyrwyddo addysgeg o’r radd flaenaf. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â sgiliau rheolaethol cadarn a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.

Fe fydd yr unigolyn yn:

dylanwadu ar gydweithwyr drwy osod esiampl fel model rôl trefnus a chydwybodol;

bod yn barod i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli cadarn;

hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;

ymgynghori â’r Pennaeth a chynnig cyngor adeiladol mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;

cydweithio â staff, disgyblion a rhieni i hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;

bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi o ganlyniad i absenoldebau neu gyfrifoldebau eraill y Pennaeth;

arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;

dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol, ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu ar draws yr ysgol gyfan;

medrau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cadarn;

angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;

gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol sy’n seiliedig ar ymchwil;

ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm effeithiol;

ymrwymiad cryf i gryfhau’r cysylltiadau â’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a phartneriaid ehangach.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Dyddiad cau: Canol nos Sul, 27 Medi 2026 am 11:59yh

Dyddiad cyfweld: Dydd Llun 5 Hydref 2026

Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu â’r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins, am drafodaeth anffurfiol ar [email protected] neu drwy ffonio 01239 810586.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £52,680 - £58,136 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Mind Cymru

💰 £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £32k - £40k 📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Cymuned Llangernyw

💰 £27k 📍 O gartref Ar gau

Menter Iaith Sir Caerffili

💰 £11.60/a 📍 Caerffili Ar gau

Barcud Cyf

💰 £10k 📍 Canolbarth a Gorllewin Cymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

Angor

💰 £18k 📍 Hybrid Ar gau

CBAC

💰 £28k - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Gwent

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

💰 £198/d 📍 Caerdydd Ar gau

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £32k - £35k 📍 Caerdydd Ar gau

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

💰 £42k - £48k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Aberystwyth

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Galeri Caernarfon Cyf

💰 £21k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 £35k 📍 Caerfyrddin Ar gau