Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 2 (Wrth Gefn) – Cartref Preswyl Bryntirion

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!

Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Bryntirion i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 Wrth Gefn (Staff Wrth Gefn ar gyfer shiftiau nos) i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Bryntirion. Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch – gallwn ddysgu’r gweddill i chi!

Am y rôl

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:

darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal

darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol

rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn

hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden

cwblhau cofnodion dyddiol

cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta

Ein cynnig i chi

Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:

  • hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
  • mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch
  • mynediad at gynllun disgowntiau ac arbedion ffordd o fyw Vivup
  • cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa
  • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith

I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyflwyno cais

Rydym wedi ei gwneud yn haws I chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais.Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed

Os bydd angen Cymorth arnoch I gwblhau eich cais,mae croeso I chi gysylltu a 01970 6333949 neu e-bostio [email protected]

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r rol hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl I’r tal canlynol:

Dydd Sadwrn – Amser a chwarter

Dydd Sul – Amser a hanner

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £26,427 - £26,847 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau