Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg x 2

Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr Gofal a Chymorth Achlysurol i ymuno â’n Tîm.

Dyletswyddau gofalu a chynorthwyo

Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cyffuriau rheoledig.

Cyflawni dyletswyddau fel y nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth, bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu ddwys.

Cynnal rhaglenni gwaith penodol yn uniongyrchol ac yn rhithwir gydag oedolion a hynny un-i-un neu mewn grŵp, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i gefnogi cynlluniau gofal a chymorth unigol.

Sicrhau y cedwir at systemau gweithio diogel o ddydd i ddydd er mwyn galluogi’r gwasanaeth i fodloni gofynion RIDDOR, COSHH, codi a chario, cymorth cyntaf a meddyginiaeth.

Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys drwy gymryd y camau priodol e.e. cysylltu â meddyg, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân, gwasanaeth heddlu ac ati.

Bod yn gyfrifol am drin yn ddiogel eiddo ac offer sy’n perthyn i’r defnyddiwr gwasanaeth.

Meithrin perthynas waith effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, a chyfathrebu’n dda â nhw.

Adnabod a rheoli risgiau yn y byrdymor a’r tymor canolig i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel a nodi risgiau y mae’n rhaid eu huwchgyfeirio i’r gweithiwr proffesiynol.

Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith ymyriadau ac atal, gan gynnwys achosion cymhleth, a fydd yn cefnogi unigolion â’u lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol a cheisio gwella eu canlyniadau tymor hir.

Gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill mewn ffordd gyson a rhagweithiol, gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau, gan gynnwys mewn amgylchiadau pan fo’r berthynas yn anodd.

Rhoi gofal personol yn unol â’r cynllun gofal a chymorth ac yn cynnwys y technegau codi a chario cywir.

Defnyddio technegau Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol neu Team Teach yn ôl cyfarwyddiadau’r cynllun gofal a chymorth.

Rhoi datganiad llygad-dyst ar gyfer achosion cyfreithiol lle bo angen.

Diweddaru systemau cofnodi yn ôl y galw i gadw cofnod o’ch gwaith.

Gweithio yn ystod y dydd a’r nos ar rota dreigl. Bydd disgwyl i staff nos weithio yn ystod y dydd ar adegau i gyflenwi, hyfforddi neu oruchwylio. Bydd gofyn i staff dydd gyflenwi shifft nos fel rhan o hyfforddiant neu i gyflenwi.

Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â lefel a disgwyliad y swydd, gan gynnwys pan fydd angen gweithio mewn Tîm ac/neu leoliad arall.

Sicrhau Ansawdd

Rhoi gwybod i’r Tîm Rheoli am bob cwyn a chanmoliaeth.

Trafod ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ac eraill, yn ogystal â gyda nhw.

Trefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd.

Cadw cofnodion priodol yn unol â gofynion y Cyngor neu’r Gwasanaeth a darparu data pan fo hynny’n berthnasol.

Cyfrifoldebau Cyffredinol

Hyrwyddo’r Gymraeg a dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth yn ôl gofynion safonau’r Gymraeg a fframwaith Mwy na Geiriau.

Hyrwyddo cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau.

Gweithio fel tîm a deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi ynddo.

Cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff yn gyfrinachol.

Sicrhau bod yr holl gofnodion Iechyd a Diogelwch a goruchwylio gofynnol yn cael eu cwblhau yn unol â pholisïau a systemau perthnasol.

Hyrwyddo a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i breifatrwydd, urddas a dewis.

Hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i fynd allan er mwyn iddynt gadw cysylltiadau cymunedol.

Datblygu gwaith partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ac asiantaethau eraill.

Cadw at ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, polisïau a gweithdrefnau mewnol mewn perthynas â materion proffesiynol a gweinyddol.

Bod yn ymwybodol a gwybod am Strategaethau Cenedlaethol a Lleol perthnasol gan gynnwys y Strategaeth Integredig Gydol Oes a Lles.

Mynychu cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio a chyrsiau hyfforddiant pan fydd yn briodol ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Matthew Parry trwy ebost: [email protected]

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £26,427 - £26,847 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau