Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Tîm Llety Diogel i Blant

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Lefel 2 – Gofal a Chymorth o fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion. Bydd y rôl hon yn gweithio ar rota ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn rhan hanfodol o dîm ehangach gan gynnwys Rheolwr Cofrestredig, Rheolwr Cynorthwyol a Lefel 3 – Gofal a Chymorth.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy’n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Susan Davies– [email protected]

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £27,274 - £28,608 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau