Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Seicolegydd Addysg

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £51k - £62k 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Seicolegydd Addysg

Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Seicolegydd Addysg Llawn Amser (Contract Parhaol)

Soulbury Graddfa A 3-8 (£50,987 – £61,963) a hyd at 3 phwynt SPA (os yn gymwys).

Disgrifiad y rôl

Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg: Hanfodol (Bydd yr Awdurdod yn cefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu’r iaith tra yn y swydd).

Mae Ceredigion yn ardal wledig, brydferth gydag arfordir dramatig a chymunedau llawn bwrlwm. Mae’n sir sy’n gyfoethog o ran hanes, diwylliant a chymuned. Mae ysgolion Ceredigion yn anelu at ddarparu’r safonau uchaf o ran addysg ac mae perthynas da iawn rhwng yr ysgolion a gwasanaethau canolog y Sir.

Rydym yn edrych am seicolegydd addysg i ymuno a’n gwasanaeth hapus a brwdfrydig, ac sy’n rhan o dîm ehangach Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles. Mae’r gwasanaeth yn uchel ei pharch o fewn Gwasanaethau Ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu amrediad llawn o wasanaethau seicolegol o fewn Sir Ceredigion er mwyn creu newid, codi safonau a sicrhau cynhwysiant addysgol. Rydym yn cyd-weithio’n llwyddiannus gydag ysgolion ac yn gweithredu dull o ganolbwyntio ar ddatrysiad. Rydym yn gweithredu mewn dull ataliol, gyda’r rhyddid i ddefnyddio amrediad o ddulliau seicolegol i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion.

Rydym yn croesawi ymgeiswyr sy’n medru dechrau yn syth neu fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 2 / 3 o’u doethuriaeth ar hyn o bryd.

Er mwyn cynnal safonau moesegol mae’n hanfodol i’r ymgeisydd fod wedi’i gofrestru, a chynnal cofrestriad parhaus, gyda’r HCPC.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg ar ebost [email protected] er mwyn trefnu sgwrs ffôn.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £50,987 - £61,963 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau