Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)

💰 £28k 📍 Y Fenni📍 Bargod +22 Ar gau

Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych yn siaradwr Cymraeg?

A fyddech yn mwynhau'r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynnal a chadw plant ac mae'n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a gwarchod rhai o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Yn DWP rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.

Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau'r DWP

Swydd ddisgrifiad

Bydd eich rôl yn cynnwys

  • Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
  • Cynnig cyngor a chefnogaeth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a lle bo angen eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad swydd mewn amgylchedd digidol e.e. gwefannau chwilio am swydd, e-bost, uwchlwytho dogfennau ac ati
  • Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.

Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.

Manyleb bersonol

Meini Prawf Allweddol

I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi

  • Fod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg llafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Iaith)
  • Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);

Ieithoedd

Y gallu i siarad a deall Cymraeg llafar

Safon Cymraeg Llafar –

Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:

  • Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
  • Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
  • Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.

Safon Cymraeg Ysgrifenedig -

  • Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-bost, neges destun, ac ati.

Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ar gyfer Swyddog Gweithredol o ffin fach, efallai y cynigir swydd ar lefel Swyddog Gweinyddol (AO) iddynt fel ymgeisydd a fu bron â methu. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Buddion

  • Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl 1 flwyddyn)
  • Holl wyliau’r banc
  • Patrymau gweithio hyblyg ar gael
  • Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil  gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
  • Rhaglen Gymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les 
  • Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflenwi Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Gweinyddiaeth Busnes
  • Cynlluniau disgownt i weithwyr

Cyflog

💰 £28,117

Lleoliad

📍 Y Fenni, Bargod, Y Barri, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Llanelli, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Tonypandy, Treorci, Aberhonddu, Bae Colwyn, Llandrindod, Llandudno, Machynlleth, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd, Y Trallwng

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau