Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £28k - £34k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg yn edrych am unigolyn deallus a brwdfrydig i arwain ar ein hymdrechion i sicrhau bod y Coleg, ac addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog, yn agored i bawb, beth bynnag eu cefndir. 

Dymuna’r Coleg benodi Cydlynydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth i gydlynu gweithrediad strategaeth bum mlynedd er mwyn cynyddu ymwneud pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig eraill sydd wedi eu tan gynrychioli ar hyn o bryd, gyda’r Coleg a darpariaeth ôl-orfodol Gymraeg a dwyieithog. Mae'r strategaeth yn un uchelgeisiol ac yn gosod amserlen a thargedau ar gyfer gweld cynnydd dros y blynyddoedd i ddod. Bydd cydweithio gyda rhan-ddeiliaid eraill yn y sector Gymraeg, yn y sector ôl-orfodol a gyda mudiadau sy’n cynrychioli pobl sydd a nodweddion gwarchodedig yn elfen holl bwysig o’r swydd.     Bydd gan yr unigolyn brofiad o ymwneud gyda chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y Coleg ar hyn o bryd - yn benodol er enghraifft pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl - a bydd dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chroestoriadaeth (intersectionality) yn angenrheidiol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon ac mae cefnogaeth ar gael yn y Coleg i'r rhai sy'n dymuno gwella eu sgiliau iaith Gymraeg. 

Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl yna danfonwch e-bost at Dafydd Trystan, Uwch Reolwr Academaidd a Chofrestrydd y Coleg – [email protected].

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. 

Cyflog

💰 £27,929 – £34,308

Lleoliad

📍 Caerdydd, Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau